Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cynnal a Chadw Cerbydau Ysgafn Lefel 2

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Y Rhyl
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn

Gwnewch gais
×

Cynnal a Chadw Cerbydau Ysgafn Lefel 2

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Llangefni

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Os hoffech chi fod yn fecanic neu dechnegydd a'ch bod eisoes wedi cwblhau'r cwrs Lefel 1 Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Modur, yna mae'r cwrs Lefel 2 Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Modur (Ysgafn) i'r dim i chi.

Cynlluniwyd y cwrs Lefel 2 hwn i adeiladu ar y sgiliau technegol a'r wybodaeth academaidd a ddysgoch ar y cwrs Lefel 1. Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar ddysgu'n ymarferol mewn gweithdai. Mae'n codi eich sgiliau i lefel y diwydiant ac yn eich paratoi i fod yn fecanic neu dechnegydd ym maes cerbydau modur.

Yn ogystal â dilyn y cwrs, rydym yn argymell bod dysgwyr yn cael profiad gwaith mewn garej leol. Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn meithrin sgiliau galwedigaethol a mynd ymlaen i Lefel 3.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn, byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • Diploma Lefel 1 mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Modur (neu gymhwyster cyfwerth)
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Fe all y broses ymgeisio gynnwys cyfweliad lle cewch gyfle i drafod y cwrs yn fanylach.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Darlithoedd a hyfforddiant dan oruchwyliaeth hyfforddwr i feithrin gwybodaeth greiddiol
  • Arddangosiadau ymarferol
  • Tasgau gwaith realistig
  • Aseiniadau
  • Dysgu ar-lein ac o bell
  • Ymweliadau â Diwydiannau a Ffeiriau Masnach

Yn y Ganolfan Technoleg Cerbydau Modur yn y Rhyl ceir yr offer diweddaraf sy'n bodloni safonau'r diwydiant, yn cynnwys Profwr Breciau Cerbyd Nwyddau Trwm, Dynamometr Cerbyd Pedair Olwyn ar Roleri, Safle Alinio Pedair Olwyn, Ystafell Diagnostig Awto Electroneg wych, Bythau Chwistrellu USI, Cyfleusterau Cymysgu Lechler, Jig Corff a System Alinio Car-O-Liner, Baeau Weldio, Bae Glanhau, yn ogystal â Thechnoleg Hybrid a Systemau Rheoli Tymheredd mewn Cerbydau a gweithdy hyfforddi ym maes cerbydau Trydan/Hybrid.

Mae'r pum gweithdy ar gampws Llangefni'n cynnwys yr offer safonol diweddaraf a ddefnyddir gan y diwydiant i wneud gwaith diagnosteg a chynnal a chadw ar geir, faniau, loriau a thryciau. Mae'r offer yn cynnwys: Dynamometr dwy olwyn ar roleri, ramp MOT ATL 4 postyn llawn, laser alinio 4 olwyn, y sganwyr a'r sgopau diagnosteg diweddaraf ar gyfer cerbydau ysgafn a thrwm, rig hybrid, labordy awtotroneg a chyfleusterau aerdymheru ynghyd â staff gwych sydd wedi cael eu hyfforddi yn y diwydiant.

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Ar y rhaglen, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Asesiadau ymarferol mewnol
  • Asesiadau ar-lein
  • Cwestiynau llafar
  • Cwestiynau ysgrifenedig
  • Taflenni tasgau byr i ddysgwyr eu cwblhau'n annibynnol

Dilyniant

Bydd cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus yn rhoi i chi'r sgiliau sylfaenol a'r wybodaeth i:

  • fod yn fecanic neu dechnegydd cerbydau modur
  • gwneud cais am brentisiaeth (Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau (Ysgafn))
  • gwneud cais i ddilyn y cwrs Lefel 3 Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Modur (Ysgafn)

Gwybodaeth campws Y Rhyl

Yn y Ganolfan Technoleg Cerbydau Modur yn y Rhyl ceir yr offer diweddaraf sy'n bodloni safonau'r diwydiant, yn cynnwys Gweithdy MOT a Thechnolegau Trydan/Hybrid, Systemau Rheoli Tymheredd mewn Cerbydau, offer ADAS, Safle Alinio Pedair Olwyn, Bythau Chwistrellu USI, Cyfleusterau Cymysgu Paent Lechler, Jig Corff a System Alinio Car-O-Liner, Baeau Weldio a Bae Glanhau.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Technoleg Cerbydau Modur

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Llangefni
  • Y Rhyl

Technoleg Cerbydau Modur

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Technoleg Cerbydau Modur