Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaethau - Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Lefel 2 a 3

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Y Rhyl
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    24 mis

Gwnewch gais
×

Prentisiaethau - Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Lefel 2 a 3

Prentisiaethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r Diwydiant Cerbydau Modur yn cyflogi tua 23,000 o bobl yng Nghymru ac mae'n gyfrannwr pwysig i'r economi.

Bydd prentisiaid sylfaen (Lefel 2) yn hyfforddi fel:

Technegwyr/Technegwyr Gwasanaethu, gan ddysgu sut i brofi a thrwsio amrywiaeth o gerbydau

Bydd prentisiaid (Lefel 3) yn hyfforddi fel:

Technegwyr Diagnostig neu Uwch Dechnegwyr, gan ddysgu sut i wneud diagnosis, profi a thrwsio amrywiaeth o gerbydau.

Gofynion mynediad

3 TGAU gradd G neu uwch yn cynnwys Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth neu gymwysterau cyfwerth.

Cyflwyniad

  • Mae hyfforddiant technegol yn cael ei ddarparu yn y coleg 1 diwrnod yr wythnos, gan gynnwys amser mewn gweithdai ymarferol.

Asesiad

  • Cwblhau portffolio o dystiolaeth
  • Arsylwadau yn y gweithle
  • Tasgau a phrofion theori

Dilyniant

O Brentisiaeth Sylfaenol Lefel 2 i Brentisiaeth Lefel 3.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiaethau

Lefel: 2+3

Maes rhaglen:

  • Technoleg Cerbydau Modur

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Llangefni

Technoleg Cerbydau Modur

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Technoleg Cerbydau Modur