Mae gan ein staff addysgu brofiad helaeth ym maes Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant ac maent yn cynnwys Nyrsys Cofrestredig, Gweithwyr Cymdeithasol Cofrestredig, Cwnselwyr, Therapyddion Galwedigaethol a Rheolwyr Meithrinfeydd a Chanolfannau Gofal Plant.
Mae gan y Grŵp gysylltiadau da â chyflogwyr lleol a chenedlaethol, ynghyd â gweithwyr proffesiynol sy’n cefnogi’n darpariaeth drwy gynnig ymweliadau, siaradwyr gwadd a chyfleoedd gwaith.
Law yn llaw â’ch rhaglen astudio, cewch gyfle i fynd ar leoliadau gwaith i amrywiaeth o sefydliadau yn cynnwys:
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Awdurdodau Lleol
- Darparwyr Gofal Preswyl a Gofal yn y Cartref, ynghyd â darparwyr Gofal Plant a Meithrinfeydd.
Bob blwyddyn, mae’n myfyrwyr yn symud ymlaen i amrywiaeth o yrfaoedd, yn cynnwys Nyrsio, Bydwreigiaeth, Gwaith Cymdeithasol, Iechyd Galwedigaethol, Troseddeg a llawer mwy. Yn ogystal, mae’r Grŵp yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau Gradd y gall myfyrwyr symud yn uniongyrchol iddynt er mwyn cael swyddi gwell.
Rydym yn cynnig cyrsiau llawn amser yn y meysydd a ganlyn:
- Gofal Plant
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol