Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos, Y Rhyl
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn

Gwnewch gais
×

Llwybr i Iechyd a Gofal

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Llandrillo-yn-Rhos

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio yn y sector Iechyd a Gofal? Hoffech chi gael gyrfa'n gweithio mewn cartrefi gofal, ysbytai, meithrinfeydd neu leoliadau gofal eraill? Ar y rhaglen hon, cewch astudio a dysgu sgiliau yn y pynciau a ganlyn:

  • Cyflwyniad i sgiliau magu plant
  • Ymwybyddiaeth o fagu plant
  • Agweddau a gwerthoedd ar gyfer datblygiad personol
  • Cyflwyniad i ymwybyddiaeth o alcohol a chyffuriau
  • Delio â phroblemau mewn bywyd bob dydd
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden
  • Byw'n iach
  • Cyflwyniad a hylendid personol
  • Ymddygiad yn y gwaith
  • Cyfathrebu Effeithiol
  • Ymwybyddiaeth o'r amgylchedd

Yn ystod y flwyddyn byddwn ni'n eich helpu i gynllunio a pharatoi ar gyfer byd gwaith neu astudio ymhellach yn y coleg. Cewch hefyd gyfle i feithrin y sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio gydag eraill. Byddwn yn eich helpu i feithrin y sgiliau hyn trwy wahanol weithgareddau a thripiau.

Cymhwyster City & Guilds mewn Sgiliau Cyflogadwyedd a Datblygiad Personol a Chymdeithasol yw'r prif gymhwyster, yn ogystal â chymwysterau Mathemateg a Saesneg.

Bydd Tiwtor Personol yn eich helpu i drefnu'ch astudiaethau ac yn eich cyfarfod o leiaf unwaith yr wythnos.

Byddwn yn cyflwyno'r cwrs drwy gyfrwng darlithoedd, trafodaethau, astudiaethau achos, ymweliadau a thripiau allanol, dysgu rhyngweithiol, astudio unigol, gwaith grŵp a llawer o ddulliau eraill i wneud y dysgu'n brofiad y byddwch yn ei fwynhau.

Rydym yn defnyddio sawl dull asesu. Mae'n bosib y byddwch yn ymwybodol o rai ohonynt ac efallai y bydd eraill yn brofiad newydd. Bydd y rhain yn cynnwys gwaith cwrs, aseiniadau mewn grŵp, cyflwyniadau, chwarae rôl, arsylwadau ar eich gwaith ymarferol ac, mewn rhai achosion, arholiadau

Gofynion mynediad

Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn gan fyfyrwyr sydd ag un o'r canlynol:

  • Bydd disgwyl i chi ddangos eich ymrwymiad i ddysgu trwy gyflawni'ch graddau targed yn eich arholiadau TGAU a chael presenoldeb da ym mlwyddyn 11.
  • Yr awydd a'r penderfyniad i ennill cymhwyster.
  • Profiad perthnasol yn y sector gofal

Os nad ydych yn siŵr a ydych yn bodloni'r gofynion mynediad, neu os hoffech drafod y gofynion mynediad hyn ymhellach, cysylltwch â'r gwasanaethau cymorth dysgu un ai'n uniongyrchol neu trwy'r cyfleuster sgwrsio. Bydd staff y gwasanaethau i ddysgwyr yn gallu trafod eich proffil gyda chi a rhoi cyngor ar y cyrsiau sydd ar gael.

Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu lyfr Chrome y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Cysylltwch â'r tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr am ragor o wybodaeth.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Darlithoedd
  • Trafodaethau
  • Astudiaethau achos
  • Ymweliadau addysgol
  • Gwaith grŵp
  • Astudio yn eich amser eich hun
  • Dysgu yn y dosbarth
  • Cefnogaeth tiwtor
  • Google Classroom (amgylchedd dysgu rhithwir)

Asesiad

Rydym yn defnyddio sawl dull asesu. Mae'n bosibl y byddwch yn gyfarwydd â rhai ohonynt ac efallai y bydd eraill yn brofiad newydd. Bydd y dulliau hyn yn cynnwys:

  • Gwaith cwrs
  • Aseiniadau grŵp
  • Cyflwyniadau
  • Chwarae rôl
  • Arsylwadau
  • Arholiadau, sef rhai TGAU yn bennaf

Dilyniant

Bydd cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus yn rhoi llawer o ddewisiadau i chi. Bydd eich Tiwtor Personol yn gweithio gyda chi a Gyrfa Cymru i wneud yn siŵr eich bod yn edrych ar yr holl gyfleoedd a dewisiadau sy'n bosibl i chi.

Os gwnewch chi gwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gennych y wybodaeth a'r hyder i fynd ymlaen i ddilyn cwrs Lefel 1 ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Fel arall, gallech ddefnyddio'r cymhwyster i gael eich cyflogi ar lefel mynediad yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol, neu brentisiaeth:

  • Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 0

Maes rhaglen:

  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Dwyieithog:

n/a

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth