Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaethau ym maes Gwaith Chwarae

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Lefel 2 = 12 mis

    Lefel 3 = 16 mis

    Dyfarniad cyfnewid = hyd at 6 mis.

Gwnewch gais
×

Prentisiaethau ym maes Gwaith Chwarae

Prentisiaethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r Diploma Lefel 2 mewn Gwaith Chwarae (FfCCH) wedi'i anelu at staff sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn lleoliad a fwriadwyd yn bennaf ar gyfer darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae hunangyfeiriedig a ddewisir yn rhydd. Nid oes gan yr aelodau staff hyn gyfrifoldeb llawn am yr amgylchedd chwarae ond byddant yn cyfrannu'n sylweddol at gefnogi'r amgylchedd chwarae.

Argymhellir bod cyfanswm o 18 awr o arsylwi'n digwydd, a bod trafodaeth broffesiynol yn dilyn pob sesiwn arsylwi.

O gymharu â Lefel 2, argymhellir y cymhwyster Lefel 3 ar gyfer staff mewn swyddi uwch sydd â chyfrifoldeb am weithgareddau a staff eraill.

Mae'r cymhwyster cyfnewid yn cynnwys tair uned sylweddol ynghyd â rhai arsylwadau ac mae'n ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd eisoes yn meddu ar gymhwyster gofal plant (a enillwyd yn ystod y tair blynedd diwethaf).

Efallai y bydd angen i chi fynychu dosbarthiadau 'Cymwysterau Sgiliau Hanfodol' yn y coleg.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

07593 580 051 / 08450 460 460 neu busnes@gllm.ac.uk

TYSTIOLAETH DYSGWR
Soley. Diploma Lefel 3 mewn Gwaith Chwarae

Cofrestrodd Soley ar y cwrs Diploma Lefel 3 mewn Gwaith Chwarae ym mis Chwefror 2021 a llwyddodd i gwblhau'r cwrs erbyn mis Gorffennaf 2022. Yn ogystal â gweithio mewn Clwb ar Ôl Ysgol, roedd Soley yn Gynorthwyydd Addysgu mewn ysgol leol. Gan i Soley gofrestru yn ystod y pandemig, wnaeth hi ddim cyfarfod ei hasesydd, Michele Brookwell wyneb yn wyneb tan haf 2021.

Tan hynny, roedden nhw'n cael cyfarfodydd rheolaidd dros Zoom ac fe barhaodd hyn yn ystod y cyfnodau clo. Roedd angen i Soley ddod i arfer â system portffolio electronig Onefile hefyd. Ar y dechrau roedd hyn yn anodd, ond trwy ddangos amynedd a dyfalbarhad fe lwyddodd i'w feistroli.

Meddai Soley, "Oherwydd Covid, roedd y cwrs yn heriol ar y dechrau gan nad oedden ni'n gallu cael unrhyw gyfarfodydd wyneb yn wyneb. Ond roedd Michele yn cadw mewn cysylltiad yn rheolaidd ac yn fy helpu i fynd i'r afael â'r gwaith cwrs ac Onefile.

Wrth i mi weithio drwy'r unedau, daeth y gwaith yn y clwb yn fwy ystyrlon a pherthnasol, a daeth cwblhau'r unedau yn haws.
Diolch i Michele am ei chefnogaeth a'i hadborth amhrisiadwy drwy gydol fy siwrne."

Dywedodd Michele, "Cwblhaodd Soley ei chymhwyster Gwaith Chwarae L3 yn brydlon. Roedd hyn yn gryn gamp, yn enwedig o ystyried fod ganddi swydd lawn amser arall yn yr ysgol hefyd. Mae Soley wedi datblygu yn ei rôl fel uwch weithiwr chwarae yng Nghlwb Penmorfa. Ar y dechrau roedd Soley yn ei chael yn anodd gweithredu egwyddorion gwaith chwarae, ond fe wnaeth ymchwil pellach gan ymateb yn gadarnhaol i unrhyw adborth neu awgrymiadau. Cymerodd Soley'r cyfrifoldeb am gyllid y Clwb a bellach mae'n gweithio ar system ffioedd electronig. Yn ddiweddar mae Soley wedi bod yn arsylwi cydweithwyr gydag aelodau eraill o staff ac mae hyn wedi bod o help iddi yn ei gwaith.

Gofynion mynediad

  • Rhaid i'r dysgwyr fod mewn gwaith cyflogedig mewn lleoliad gofal plant (ac yn gwneud gwaith chwarae mewn clwb ar ôl ysgol neu glwb gwyliau).
  • Bod dan gontract i weithio o leiaf 16 awr yr wythnos
  • Rhaid i'ch cyflogwr allu bodloni meini prawf y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (QCF).
  • Rhaid bod gennych ganlyniadau WEST (Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru) digonol.
  • Cynigir llefydd yn amodol ar gyfweliad boddhaol

Cyflwyniad

  • Arsylwadau, dysgu uniongyrchol, trafodaethau proffesiynol a thystiolaeth gan y cyflogwr.
  • Efallai y bydd angen i chi fynychu dosbarthiadau 'Cymwysterau Sgiliau Hanfodol' yn y coleg.

Asesiad

  • Gwaith ysgrifenedig, arsylwadau, trafodaethau.
  • Mae angen 18 awr o arsylwadau o leiaf i gwblhau'r cymhwyster lefel 2 a'r cymhwyster lefel 3.
  • Cwblhau portffolio o dystiolaeth (trwy'r e-bortffolio OneFile).

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r cymhwyster Lefel 2, mae'n bosibl mynd ymlaen i wneud y cymhwyster Lefel 3.

(sylwer bod y cymhwyster hwn yn ofyniad gan Arolygiaeth Gofal Cymru ar gyfer pobl sy'n gweithio mewn lleoliad gwaith chwarae).

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiaethau

Lefel: 2+3

Maes rhaglen:

  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Dwyieithog:

Mae'r cwrs hwn ar gael yn ddwyieithog.

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth