Diploma Lefel 2 mewn Cymorth Gofal Iechyd Clinigol yng Nghymru
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu Seiliedig ar Waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
600 awr
Diploma Lefel 2 mewn Cymorth Gofal Iechyd Clinigol yng NghymruPrentisiaethau
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer cynorthwywyr gofal iechyd sy’n gweithio’n bennaf mewn ysbytai clinigol yng Nghymru, gan ddarparu cymorth i unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd Cymru dan gyfarwyddyd ymarferydd cofrestredig proffesiynol, neu nyrs gofrestredig. Mae'n darparu'r cymhwyster craidd sy'n cydnabod rolau a gyflawnir ar hyn o bryd gan gynorthwywyr gofal iechyd sy'n gweithio yn y lleoliadau hyn.
I ymgymryd â'r cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwyr gael eu cyflogi gan wasanaethau iechyd Cymru mewn rolau lle mae sgiliau clinigol yn ganolog i'w rôl. Datblygwyd y cymhwyster i lywodraethu arfer yng Nghymru yn well trwy sicrhau ansawdd allanol.
Dyma’r cymhwyster a ffafrir ar gyfer cynorthwywyr gofal iechyd GIG Cymru, a disgwylir y bydd yr holl staff cymorth clinigol yn cael y cyfle i gwblhau’r cymhwyster a/neu gyflawni elfennau ohono ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus i gefnogi newidiadau mewn ymarfer dros amser.
Bydd cyflogwyr yn gosod eu disgwyliadau eu hunain ynglŷn â sefydlu rôl cynorthwyydd gofal iechyd, a gall rhai ohonynt ddarparu tystiolaeth yn erbyn y cymhwyster hwn trwy gydnabod dysgu blaenorol.
Rhaid i ddysgwyr gyflawni o leiaf 60 credyd i ennill y cymhwyster. I wneud hyn rhaid iddynt ennill pob un o'r 28 credyd o'r Unedau Gorfodol, ac o leiaf 32 credyd o'r Unedau Dewisol.
Gofynion mynediad
Rhaid i ddysgwyr: fod yn 16 oed neu drosodd i ymgymryd â'r cymhwyster hwn a bod yn gyflogedig mewn rolau lle mae gofal iechyd clinigol naill ai'n gyfan gwbl neu'n rhan o'u gwaith. Dylai fod gan y dysgwyr safon dda o addysg gyffredinol hyd at TGAU / lefel O / CQFW Lefel 2 / NVQ Lefel 1
Cyflwyniad
Cyflawnir y cymhwyster hwn trwy ddysgu seiliedig ar waith a chaiff ei gyflwyno ar sail un i un. Mae'r cymhwyster hwn ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Asesiad
Nid oes asesu ffurfiol
Dilyniant
Mae dysgwyr sy'n cyflawni'r cymhwyster hwn yn gymwys i ymarfer rolau gofal iechyd clinigol ar lefel sgiliau 2.
Mae'r cymhwyster wedi'i ddatblygu i ddarparu pwynt mynediad i addysg a sgiliau Lefel 3.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiaethau
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: