Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd yn unig

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu o Bell
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    8 mis

Cofrestru
×

Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd yn unig

Oedolion a Rhan-amser

Disgrifiad o'r Cwrs

Rhan o brentisiaeth sy'n canolbwyntio ar wybodaeth graidd lefel 2 yn unig (nid yw hwn yn gymhwyster llawn - mae angen yr elfen ymarferol i fod yn gymhwyster llawn).

Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol i'r rhai sy'n dymuno cael gwaith yn y sector gofal plant. Gan fod y cwrs yn seiliedig ar theori, mae'n rhoi cyfle i unigolion ddysgu gwybodaeth werthfawr cyn mynd i'r maes gofal plant.

Mae'r cwrs wedi'i gynllunio ar gyfer dysgu dan arweiniad unigol a gallai fod yn addas i'r rhai sydd eisoes mewn cyflogaeth mewn sector gwahanol ond sy'n dymuno newid gyrfa.

Mae cyrsiau'n dechrau bob mis drwy gydol y flwyddyn. Cliciwch ar gofrestru nawr i gofrestru eich diddordeb a gwirio cymhwysedd.

Gofynion mynediad

Cyfweliad llwyddiannus ac asesiad cychwynnol.

Cyflwyniad

Pum uned graidd i'w cwblhau, sy'n ymdrin ag elfennau megis diogelu a damcaniaethau datblygiad plant.

Mae'r cwrs hwn yn cael ei gyflwyno o bell er y gall dysgwyr fynd i unrhyw un o'n safleoedd i gyfarfod ag asesydd os oes angen.

Asesiad

Er mwyn ennill y cymhwyster hwn rhaid i ddysgwyr gyflawni pum uned graidd a chwblhau arholiad amlddewis hefyd (RHAID i’r dysgwr ddod i un o gampysau’r coleg i sefyll yr arholiad).

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r elfen graidd yn llwyddiannus mae'n bosibl mynd ymlaen i wneud elfen ymarferol y cymhwyster a thrwy hynny ennill y fframwaith Lefel 2 neu 3 llawn ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant.

I wneud yr elfen ymarferol, rhaid i unigolion gael eu cyflogi yn y sector am o leiaf 10 awr yr wythnos ac un ai talu am gael gwneud y cymhwyster eu hunain neu gael eu derbyn i wneud prentisiaeth.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Oedolion a Rhan-amser, Hyfforddiant rhan-amser

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Cyfrif Dysgu Personol
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Dwyieithog:

Gall y dysgwyr wneud cynnydd trwy gael gwaith gwirfoddol neu gyflogedig mewn lleoliad gofal plant a chyflawni elfen ymarferol y cymhwyster (a thrwy hynny ennill y cymhwyster llawn). Gellir symud ymlaen i gymhwyster Gofal Plant Lefel 3 hefyd.

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Myfyrwyr yn gweithio mewn ystafell ddosbarth