Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Diploma Lefel 3 mewn Gofal Sylfaenol

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    600 awr

Gwnewch gais
×

Diploma Lefel 3 mewn Gofal Sylfaenol

Prentisiaethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae’r cymhwyster hwn ar gyfer gweithwyr cymorth mewn lleoliadau Gofal Sylfaenol (Ymarfer Cyffredinol) yng Nghymru, sy’n darparu cymorth i unigolion sy’n defnyddio Gwasanaethau Meddyg Teulu o dan gyfarwyddyd ymarferydd sydd wedi’i gofrestru’n broffesiynol, fel meddyg teulu, neu nyrs gofrestredig. Mae'n darparu cymhwyster craidd sy'n cydnabod rolau a gyflawnir ar hyn o bryd yn cefnogi gweithwyr sy'n gweithio gydag unigolion o fewn Ymarfer Cyffredinol..

Er mwyn ymgymryd â'r cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwyr gael eu cyflogi gan feddygon teulu mewn rolau lle mae sgiliau clinigol yn ganolog i'w rôl. Datblygwyd y cymhwyster i ddarparu gwell llywodraethu ymarfer yng Nghymru trwy sicrhau ansawdd allanol ar gyfer y rôl ddatblygu ac ehangu hon.

Dyma’r cymhwyster a ffefrir ar gyfer GIG Cymru, a disgwylir y bydd pob gweithiwr cymorth meddyg teulu yn cael y cyfle i gwblhau’r cymhwyster a/neu gyflawni elfennau ohono ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus i gefnogi newidiadau mewn ymarfer dros amser.

Gofynion mynediad

Rhaid i ddysgwyr fod yn 18 oed o leiaf i gyflawni'r cymhwyster hwn. Rhaid iddynt

gael eu cyflogi mewn rolau lle mae sgiliau clinigol naill ai'n gyfan gwbl neu'n rhan sylweddol o'u gwaith.

Rhaid bod ganddynt safon dda o addysg gyffredinol hyd at lefel TGAU / O / CQFW Lefel 2/ NVQ Lefel 2.

Rhaid i ddysgwyr dderbyn goruchwyliaeth gan Ymarferydd(wyr) Proffesiynol Cofrestredig a all asesu eu cynnydd.

Byddant wedi bodloni safonau gofynnol y sector ar gyfer ymsefydlu yn y swydd, a gallai rhai ohonynt ddarparu tystiolaeth yn erbyn y cymhwyster hwn drwy gydnabod dysgu blaenorol.

Cyflwyniad

Cyflawnir y cymhwyster hwn trwy ddysgu seiliedig ar waith a chaiff ei gyflwyno ar sail un i un. Mae'r cymhwyster hwn ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Asesiad

Nid oes asesu ffurfiol

Dilyniant

Mae dysgwyr sy'n cyflawni'r cymhwyster hwn yn gymwys i ymarfer mewn rolau gofal sylfaenol (ymarfer cyffredinol) ar sgiliau lefel 3.

Mae'r cymhwyster wedi'i ddatblygu i ddarparu pwynt mynediad i Lefel 4 / Band 4 / addysg a hyfforddiant ymarferwyr cynorthwyol.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiaethau

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth