Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos, Pwllheli, Y Rhyl, Dolgellau
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    2 flynedd

Gwnewch gais
×

Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Dolgellau
Llangefni
Pwllheli
Llandrillo-yn-Rhos

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi gael gyrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol?

Mae'r rhaglen hon yn darparu cymhwyster lefel uwch, a ddarperir gan weithwyr proffesiynol profiadol. Bydd y rhaglen yn datblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau, gan eich paratoi i symud ymlaen i Addysg Uwch neu Addysg Uwch neu'n uniongyrchol i gyflogaeth yn y sector iechyd neu ofal cymdeithasol. Mae'n darparu rhaglen astudio ymarferol, gan ganolbwyntio ar anghenion rolau a sefyllfaoedd swyddi go iawn.

Mae'r rhaglen yn addas os ydych chi'n symud ymlaen o gwrs Lefel 2 cysylltiedig neu o gyrhaeddiad TGAU addas.

Ar ôl cwblhau'r rhaglen, byddwch chi'n gallu gweithio mewn nifer o rolau, gan gynnwys cefnogaeth a gwaith sesiynol ar draws y sector gofal. Byddwch hefyd yn barod ar gyfer Addysg Uwch, a gyrfaoedd yn y pen draw gan gynnwys nyrsio, gwaith cymdeithasol a gofal preswyl.

Mae cynnwys y rhaglen yn cwmpasu Egwyddorion a Damcaniaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Bydd y pynciau dan sylw yn cynnwys: twf a datblygiad dynol; salwch, afiechydon ac anhwylderau cyffredin a sut y gellir eu hatal a'u rheoli; darparu gofal iechyd a chymdeithasol ar draws yr ystodau oedran; egwyddorion gofal a chyfathrebu o ansawdd uchel; dealltwriaeth o ymddygiad dynol (damcaniaethau seicolegol); dealltwriaeth o iechyd meddwl a lles; hyrwyddo hawliau unigolion; a hefyd ymgysylltu â'r sector a lleoliad gwaith.

Mae mynychu Digwyddiad Agored gyda ni yn rhoi cyfle i chi ddarganfod mwy am weithio yn y sector hwn a'r ystod o yrfaoedd y gall y cwrs hwn eich arwain atynt. Byddwch yn gallu gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych am y cwrs, bywyd yn y coleg, neu weithio yn y sectorau iechyd, cymdeithasol neu ddatblygiad plant, gofal ac addysg.

Gofynion mynediad

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y cwrs hwn, bydd angen o leiaf un o'r canlynol arnoch chi:

  • 5 TGAU ar radd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf. Rhaid bod gennych hefyd TGAU Mathemateg neu Rifedd ar radd D neu uwch.

NEU

  • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Llwyddo yn y modiwl Egwyddorion a Chyd-destunau a'r modiwl Craidd (Oedolion, Plant a Phobl Ifanc) a TGAU gradd D neu uwch mewn Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg (neu gymhwyster cyfwerth - h.y. cymwysterau Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif)

Os nad ydych yn siŵr a oes gennych y proffil gofynion mynediad, neu a oes gennych gymwysterau amgen sy'n gyfwerth yn eich barn chi, cysylltwch â'r Gwasanaethau Dysgwyr trwy'r swyddogaeth sgwrsio byw neu'n uniongyrchol.

⁠Efallai y bydd eich rhaglen yn gofyn i chi ddod i gyfweliad, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud hynny.

Cyflwyniad

Bydd y rhaglen yn eich arfogi â'r hyn sy'n cyfateb i isafswm o 3 Safon Uwch, ynghyd â chymwysterau sy'n cael eu cydnabod ar gyfer cofrestru i weithio yn y sector, yn amodol ar gwblhau cymwyseddau ymarferol yn y gweithle. Fel rhan o'ch rhaglen byddwch hefyd yn dilyn rhaglen astudio unigol (yn ddibynnol ar broffil gradd) a fydd yn cynnwys cyfuniad o Fagloriaeth Cymru (sy'n eich galluogi i ennill pwyntiau UCAS ychwanegol), Llythrennedd, Rhifedd, Cyflogadwyedd a sgiliau Digidol.

Yn ogystal â hyn, bydd pob dysgwr yn ymgymryd â Lleoli Gwaith ac Ymgysylltu â'r Sector gan ddatblygu sgiliau a gwybodaeth ymarferol yn barod ar gyfer Prifysgol neu waith.

Bydd gennych diwtor personol a sesiynau tiwtorial unigol. Bydd eich tiwtor personol yn olrhain ac yn cefnogi eich datblygiad a'ch dilyniant academaidd a phersonol, er enghraifft, byddwn yn eich cefnogi gyda'ch cais UCAS os ydych chi'n bwriadu symud ymlaen i'r Brifysgol.

Cyflwynir yr uchod trwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Darlithoedd
  • Trafodaethau
  • Prosiectau
  • Gweithdai ymarferol
  • Astudio mewn amgylchedd gwaith realistig
  • Astudio o'ch pen a'ch pastwn eich hun
  • Gwaith grŵp
  • Lleoliad gwaith

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Asesir rhaglen Alwedigaethol L3 trwy asesiad mewnol (50%) ac asesiad allanol (50%).

Bydd y rhaglen lawn hefyd yn cynnwys asesiad trwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
  • Cyflwyniadau ac arddangosiadau
  • Portffolios gwaith
  • Perfformio ac arsylwi

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Dolgellau
  • Llangefni
  • Pwllheli
  • Llandrillo-yn-Rhos

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth