Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dechrau yn Ionawr

⁠Wyt ti'n chwilio am gyfleoedd newydd? Mae gennym nifer o gyrsiau yn dechrau ym mis Ionawr 2025.

Pobl yn defnyddio gliniadur

Cyrsiau Llawn Amser

Mae'r rhaglenni llawn amser hyn yn cynnwys prif gymhwyster galwedigaethol ynghyd â chymwysterau sgiliau hanfodol i ddatblygu dy rifedd a’th lythrennedd.

Coleg Llandrillo, Rhos-on-Sea:

Coleg Llandrillo, Y Rhyl:

Coleg Meirion-Dwyfor, Dolgellau:

Coleg Menai, Bangor:

I gael rhagor o wybodaeth e-bostiwch generalenquiries@gllm.ac.uk neu ffoniwch 01492 542 338

Myfyriwr ac athro yn defnyddio cyfrifiadur

Cyrsiau Rhan-amser

Mae’n cynnwys gwybodaeth am yr amrediad eang o gyrsiau hamdden, cyrsiau proffesiynol a chyrsiau gwella gyrfa sy’n dechrau fis Medi. Ymhlith y pynciau a gynigir, mae:

  • Celf a Dylunio
  • Busnes a Chyfrifyddu
  • Cyfrifiadura
  • Adeiladu
  • Cwnsela
  • Saesneg a Mathemateg
  • Lletygarwch
  • Ieithoedd
  • Datblygiad Personol
  • A llawer rhagor...

Lawrlwythwch eich copi o'r prosbectws.

Pobl yn gweithio mewn campfa

Cyrsiau newydd ar gyfer Ionawr 2025

Hyfforddwr Ffitrwydd Lefel 2

Os ydych chi'n angerddol ynghylch ffitrwydd ac eisiau helpu eraill i gyflawni eu nodau iechyd, mae'r Dystysgrif Lefel 2 Hyfforddwr Ffitrwydd yn fan cychwyn perffaith i'ch gyrfa.

Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r wybodaeth hanfodol a’r sgiliau ymarferol i gynllunio, cyflwyno a goruchwylio rhaglenni ymarfer corff diogel ac effeithiol. P'un ai ydych yn newydd i'r maes ffitrwydd neu'n awyddus i gael cydnabyddiaeth o'ch profiad presennol, bydd y cymhwyster hwn yn rhoi'r hyder i chi weithio mewn unrhyw gampfa neu glwb iechyd.