Gwaith Barbwr Lefel 1 (Dechrau Ionawr)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Llawn Amser
- Hyd:
Llawn-amser: 1 flwyddyn
Gwaith Barbwr Lefel 1 (Dechrau Ionawr)Llawn Amser (Addysg Bellach)
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwaith barbwr, bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ennill gwybodaeth mewn sgiliau barbwr/eillio, a hefyd i symud ymlaen i lefel uwch.
- 101 Paratoi ar gyfer gwasanaethau trin gwallt
- 102 Cyfrannu at ddatblygu perthynas waith effeithiol
- 103 Sychu gwallt
- 104 Defnyddio siampŵ a chyflyrydd gwallt
- 106 Derbynfa
- 218 Cynorthwyo â gwasanaethau eillio.
Gofynion mynediad
I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:
- 2 TGAU gradd D neu uwch
- Bydd disgwyl i chi ddangos eich ymrwymiad i ddysgu trwy gyflawni'ch graddau targed yn eich arholiadau TGAU a chael presenoldeb da ym mlwyddyn 11.
- Cwblhau rhaglen Hyfforddeiaeth, Cyn-alwedigaethol, Llwybrau Dysgu neu Gyswllt Ysgolion yn llwyddiannus
- Profiad perthnasol mewn diwydiant
Rhaid i ymgeiswyr sydd eisoes yn astudio yn y coleg wrth bresenoldeb o 86% ar eu cwrs presennol.
Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.
Cyflwyniad
- Gweithdai ymarferol a sesiynau theori
- Arholiadau ar-lein
- Portffolio ar-lein
- Sesiynau theori
- Sesiynau ymarferol mewn amgylchedd gwaith realistig
- Ystafell Ddosbarth
- Dysgu o bell
Asesiad
Byddwch yn cael eich asesu ar waith yr ydych yn gwneud ar gleientiaid yn y salon yn ystod dosbarth nos.
Dilyniant
- Trin Gwallt Lefel 2
- Gwaith barbwr Lefel 2
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)
Lefel:
1
Maes rhaglen:
- Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Mae'r cwrs i'w gael yn ddwyieithog ar y campysau/lleoliadau canlynol :
- Llandrillo-yn-Rhos
Dwyieithog:
Llandrillo-yn-Rhos
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Trin Gwallt a Therapi Harddwch