Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Llwybr i Adeiladu (Dechrau Ionawr)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos, Y Rhyl
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    3 diwrnod yr wythnos

Gwnewch gais
×

Llwybr i Adeiladu (Dechrau Ionawr)

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi gael gyrfa ymarferol yn un o'r crefftau adeiladu?

Mae'r rhaglen hon yn rhoi agoriad i chi i yrfa yn y diwydiant adeiladu a'r amgylchedd adeiledig. Mae'n ddelfrydol i unrhyw un sydd am feithrin sgiliau adeiladu cyffredinol drwy gael profiad ymarferol.

Ar y rhaglen cewch gyfle i brofi amrywiaeth o alwedigaethau. Byddwch yn dysgu sgiliau crefft sylfaenol, ac yn cael eich paratoi ar gyfer cyflogaeth ac astudiaethau pellach. Ar ddiwedd y rhaglen, gallwch wneud penderfyniad gwybodus ynghylch pa faes technegol yr hoffech weithio ynddo.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn, byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys y modiwlau canlynol:

  • Cymhwyster Cyn Sylfaen ym maes Adeiladu fydd yn cynnwys crefftau amrywiol fel plastro, gwaith brics, plymwaith, paentio, gwaith saer, yn dibynnu ar y campws a ddewiswch
  • Sesiynau tiwtora i grŵp ac unigolion

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Gwersi ymarferol a gwersi theori
  • Amgylcheddau gwaith realistig
  • Gweithdai arbenigol ar gyfer y gwahanol grefftau
  • Darlithoedd
  • Trafodaethau
  • Tasgau llyfr gwaith

Asesiad

Cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau canlynol:

  • Arsylwadau ar eich gwaith ymarferol
  • Aseiniadau sy'n gofyn am wybodaeth a'r gallu i wneud tasgau ymarferol
  • Portffolio o waith dosbarth

Dilyniant

Mae'r rhaglen yn rhoi mynediad i chi i'r cwrs Cymhwyster Sylfaen ym maes Adeiladu sy'n rhoi pwyslais ar o leiaf ddwy grefft ( i gael rhagor o wybodaeth, darllenwch am y Cymhwyster Sylfaen )

Dilyniant i Brentisiaeth; os bydd dysgwyr yn llwyddo i gael prentisiaeth mewn disgyblaeth adeiladu yn dilyn y cwrs Cyn Sylfaen, bydd dal yn ofynnol iddynt gwblhau'r Cymhwyster Sylfaen ym maes Adeiladu.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 1

Maes rhaglen:

  • Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dwyieithog:

n/a

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Myfyrwyr yn edrych trwy 'total station'