Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Tystysgrif Addysg Uwch mewn Cwnsela (Dechrau ym mis Ionawr)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    2 flynedd, rhan-amser.

Gwnewch gais
×

Tystysgrif Addysg Uwch mewn Cwnsela (Dechrau ym mis Ionawr)

Graddau (Addysg Uwch)

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Bydd myfyrwyr sy'n cofrestru ar y cwrs hwn eisoes wedi cwblhau cwrs Cyflwyniad i Sgiliau Cwnsela a bydd ganddynt ddiddordeb mewn bod yn gwnselwyr proffesiynol.

Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i fyfyrwyr wireddu eu potensial academaidd ac yn gwella'u cyfleoedd gwaith ym maes cwnsela. Bydd y myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau datblygu proffesiynol a phersonol er mwyn gallu bod yn gwnselwyr annibynnol sy'n gweithio'n unol â fframwaith moesegol ac arferion da BACP (British Association of Counselling and Psychotherapy). Mae'r cwrs yn bodloni'r gofynion ar gyfer bod yn gymwys am achrediad BACP.

Mae'r cwrs yn hyblyg a gellir ei deilwra i gyd-fynd ag ymrwymiadau eraill myfyrwyr. Felly ceir cyfleoedd i astudio'n rhan-amser neu'n llawn amser i unigolion sydd un ai'n dychwelyd i addysg neu'n gweithio ym maes cwnsela ac yn awyddus i wella'u cymwysterau a'u statws neu gyfleoedd cyflogaeth.

Ceir gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran ‘Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs’.

Ffioedd

Ewch i'r dudalen Cymorth Ariannol a Chyllid am fwy o wybodaeth.

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Costau Ychwanegol

Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:

  • Ymaelodi â BACP (hyd at £82 y flwyddyn, graddfa 2020-21)
  • Yswiriant indemniad proffesiynol
  • Gwiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a/neu ffioedd diweddaru blynyddol
  • Cwnsela personol am o leiaf 12 awr i fodloni gofynion y cwrs
  • Sesiynau 1:1 dan oruchwyliaeth am 1.5 bob mis wedi i'r gwaith gyda chleientiaid ddechrau

Gofynion mynediad

  • Wedi cwblhau'r cwrs Cyflwyniad i Gwnsela a'r dystysgrif lefel 3 mewn Sgiliau a Theori Cwnsela neu 150 awr o hyfforddiant achrededig cyfwerth ym maes Cwnsela.
  • TGAU gradd C neu uwch mewn Mathemateg a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg (neu Sgiliau Allweddol/Hanfodol cyfwerth).
  • Bydd gofyn i ymgeiswyr nad oes ganddynt y cymwysterau hyn ddangos tystiolaeth i gadarnhau bod safon eu sgiliau llythrennedd a rhifedd yn bodloni gofynion y rhaglen.
  • Gall ymarferwyr profiadol gofrestru ar y rhaglen os oes ganddynt gymhwyster NVQ3 neu gymwysterau cyfwerth.
  • Caiff y rhai nad oes ganddynt gymwysterau academaidd eu hystyried ar sail unigol, yn unol â rheoliadau Grŵp Llandrillo Menai.

Cyn dechrau:

  • Rhaid i chi fod yn seicolegol ac emosiynol iach i wneud cwrs cwnsela, hynny yw, rhaid i chi wrth ddealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ddigonol ohonoch eich hun a lefel uchel o onestrwydd personol. Ni ddylech fod ag unrhyw broblemau personol mewnol nac allanol a allai amharu ar eich gallu a'ch cymhwysedd i weithio'n ddiogel gyda chleientiaid. Cyfrifoldeb y myfyrwyr yw datgelu unrhyw wybodaeth a ystyrir yn berthnasol i'w hymrwymiad i weithio'n unol â fframwaith moesegol BACP (British Association for Counselling and Psychotherapy). Yn ôl y fframwaith hwn mae'n ddyletswydd ar ymarferwyr i sicrhau bod eu lles personol yn ddigon da i allu cynnal ansawdd y gwaith a wnânt â'u cleientiaid.
  • Rhaid i chi ddarparu dau eirda i gefnogi eich addasrwydd ar gyfer y cwrs. Argymhellir bod un o'r rhain yn eirda academaidd gan diwtor cwrs cwnsela blaenorol, a bod y llall yn eirda proffesiynol personol, e.e. o'ch gweithle neu'ch lleoliad Gwaith gwirfoddol.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Sesiynau addysgu, sesiynau sgiliau yn cynnwys chwarae rôl. Dysgu'n annibynnol.

Amserlen

Lefel 4, rhan-amser yn unig. Un diwrnod yr wythnos.

Asesiad

  • Traethawd
  • Cyflwyniad
  • Gwaith ymarferol
  • Creu adnodd gwybodaeth
  • Portffolio
  • Astudiaeth Achos
  • Cylch trafod ar-lein
  • Dyddlyfr neu draethawd adfyfyriol
  • Podlediad

Asesiad 1 - Cylch trafod ar-lein.
Rhannu bwrdd drafod â grwpiau bach o fyfyrwyr.
(tua 3). Bydd y tiwtor yn cyflwyno materion moesegol perthnasol i waith cwnsela i bob grŵp o fyfyrwyr
eu trafod (5 cwestiwn). Rhaid i'r myfyrwyr drafod sut y
byddent yn datrys ac yn gweithio gyda'r materion moesegol hyn, ac ymgysylltu'n briodol â chyfraniadau
eu cyd-fyfyrwyr. Rhoddir gradd i'r grŵp. (LO1,2,3)
(100%)

Datblygiad Personol
Portffolio o ddyddiaduron adfyfyriol a gedwir
drwy gydol yr uned gyda sylw 750 gair yr un i ddau ddigwyddiad critigol ffurfiol ar wahanol ddyddiadau.
(100%) LO1, 2, 3 & 4

Dyneiddiol
Asesiad 1 - Ymarfer sgiliau - Sesiwn 30 munud wedi'i recordio a gwerthusiad llafar 10 munud o hyd
yn dangos defnydd priodol o Ddamcaniaeth a Sgiliau sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn. Asesir gan diwtoriaid cwnsela yn unol â meini prawf Llwyddo / Methu Adnodd asesu CPCAB. 50% (LO1,4)

Adborth

Pan fo hynny'n berthnasol, caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol. Mae adborth effeithiol yn cynnwys gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gallant wella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i adfyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu gwella cyn eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r deilliannau dysgu.

Dilyniant

Gradd Sylfaen (FdA) Cwnsela

Gwybodaeth campws Bangor

Bwriad penodol y Dystysgrif AU mewn Cwnsela yw meithrin dealltwriaeth a gwybodaeth y myfyrwyr o faterion proffesiynol a moesegol yn ymwneud â chwnsela, yn unol â safonau BACP ynghylch bod yn ymwybodol o amrywiaeth, parch a dulliau ymarfer diogel. Bydd y myfyrwyr yn meithrin gwybodaeth am ddulliau cwnsela Dyneiddiol, a bydd y prif bwyslais ar sgiliau a damcaniaethau cwnsela sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn hwyluso, ffurfio a chynnal perthynas gwnsela. Rhoddir sylw neilltuol i ddatblygu sgiliau a nodweddion sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, e.e. yr amodau craidd a helpu'r myfyrwyr i feithrin ymwybyddiaeth bersonol a phroffesiynol.

Am bob 10 credyd, dylai myfyrwyr ymgysylltu â thua 100 o oriau tybiannol o ddysgu. Bydd hyn oddeutu 30% o gyswllt dysgu uniongyrchol a 70% o ddysgu annibynnol i fyfyrwyr.

Fesul Modiwl:

Blwyddyn 1:

Datblygiad personol:

Bydd y modiwl hwn yw annog y myfyrwyr i adfyfyrio'n fewnol er mwyn meithrin ymwybyddiaeth bersonol, hwyluso twf personol a'u gallu i dderbyn eu hunain drwy ryngweithio a chymryd rhan mewn prosesau sesiynau grŵp. Bydd y myfyrwyr yn gallu cysylltu syniadau a chysyniadau damcaniaethol i'w datblygiad personol eu hunain; yn mynd i'r afael ag unrhyw faterion datblygiadol a all effeithio ar eu gallu i weithio'n effeithiol gyda chleientiaid; yn meithrin a gwella eu gallu i hunan-adfyfyrio.

Asesiad 1 – Portffolio o ddyddiaduron adfyfyriol a gedwir drwy gydol yr uned gyda sylw 500 gair yr un i dri digwyddiad critigol ffurfiol ar wahanol ddyddiadau. (100%)

Cyflwyniad i ymchwilio:

Pwrpas y modiwl hwn yw cyflwyno'r myfyrwyr i'r cysyniad o ymchwilio, a dangos iddynt rai o'r dulliau a'r arferion allweddol sy'n greiddiol i'r broses ymchwilio. Nod arall y modiwl yw meithrin sgiliau astudio'r dysgwyr, gan eu galluogi i gynhyrchu gwaith ysgrifenedig academaidd cadarn, cyflwyno sgiliau meddwl yn feirniadol a sgiliau ymchwilio sylfaenol. Bydd yn galluogi myfyrwyr i feithrin sgiliau ysgrifennu academaidd, i ddefnyddio confensiynau academaidd, i chwilio am wybodaeth, i adfyfyrio ac i reoli a rhoi trefn ar eu gwaith.

Asesiad - Portffolio unigol sy'n cynnwys sawl tasg y mae gofyn eu cwblhau a'u cyflwyno ar wahân (2000 gair, 100%)

Arferion Moesegol:

Nod y modiwl hwn yw meithrin dealltwriaeth a gwybodaeth y myfyrwyr o'r prif safonau, egwyddorion, fframweithiau a pholisïau moesegol a phroffesiynol sy'n berthnasol i hyfforddi ac ymarfer ym maes Cwnsela. Bydd gan y myfyrwyr y gallu i gymhwyso hyn mewn modd adfyfyriol effeithiol a phriodol i sicrhau eu bod yn gweithio'n ddiogel a moesegol ac yn gwneud penderfyniadau moesegol. Nod arall yw meithrin gwybodaeth y myfyrwyr o nifer o agweddau ar ymarfer proffesiynol cyfoes, fel goruchwylio, gweithio amlddisgyblaethol, cadw cofnodion a gweithio ar-lein.

Asesiad 1 – Cylch trafod ar-lein. Bydd y tiwtor yn cyflwyno materion moesegol perthnasol i waith cwnsela i bob grŵp o fyfyrwyr eu trafod (5 cwestiwn). Rhaid i'r myfyrwyr drafod sut y byddent yn datrys ac yn gweithio gyda'r materion moesegol hyn, ac ymgysylltu'n briodol â chyfraniadau eu cyd-fyfyrwyr (100% cyfwerth â 1500 gair)

Datblygu prosesau therapiwtig a'u cyd-destun:

Nod y modiwl hwn yw meithrin dealltwriaeth y dysgwyr o swyddogaeth a chyfrifoldebau cwnselydd. Rhoddir sylw neilltuol i weithio gyda fframwaith damcaniaethol, a bydd y dysgwyr yn dysgu'r sgiliau a'r nodweddion sydd eu hangen i feithrin a sefydlu perthynas therapiwtig briodol. Bydd y dysgwyr yn dysgu am bwysigrwydd camau'r broses therapiwtig, gan ddatblygu a chynnal ffiniau effeithiol o fewn eu lleoliad cwnsela.

Asesiad 1: Aseiniad adfyfyriol: Nodwch ddau ffactor sydd wedi cael effaith sylweddol ar eich dull ymarfer ar leoliad gan esbonio sut mae'r ffactorau hyn wedi datblygu neu rwystro datblygiad eich perthynas therapiwtig ac adfyfyrio ar eich defnydd o'r hunan. (100%, 1500 gair )

Dulliau Cwnsela Dyneiddiol:

Nod y modiwl hwn yw rhoi i'r myfyrwyr ddealltwriaeth gadarn o ddulliau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, o ran damcaniaeth datblygiad a phrosesau a sgiliau therapiwtig. Bydd y myfyrwyr yn trafod, a chydag arweiniad yn esbonio prif ragdybiaethau'r damcaniaethau. Dyma fydd sail archwiliad y myfyrwyr o'u profiadau eu hunain a'u cleientiaid.

Asesiad 1 – Traethawd – Esboniwch brif ragdybiaethau dulliau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn o ran damcaniaeth datblygiad a phrosesau a sgiliau therapiwtig. 50% 1,500 gair Asesiad 2 – Ymarfer sgiliau – Sesiwn 20 munud wedi'i recordio'n dangos defnydd priodol o Ddamcaniaeth a Sgiliau sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn. Asesir gan diwtoriaid cwnsela yn unol â meini prawf Llwyddo / Methu PCEPS (Person Centred and Experiential Psychotherapy Scale: development and reliability of an adherence/competence measure for person-centred and experiential psychotherapies). 50%

Blwyddyn 2:

Datblygiad Personol a Phroffesiynol:

Bydd y modiwl hwn yw annog y myfyrwyr i adfyfyrio, cyfathrebu a rhannu eu hymwybyddiaeth bersonol gynyddol, eu twf personol a'u gallu i dderbyn eu hunain drwy ryngweithio a chymryd rhan mewn prosesau sesiynau grŵp. Bydd y myfyrwyr yn gallu cysylltu syniadau a chysyniadau damcaniaethol i'w datblygiad personol eu hunain; yn mynd i'r afael ag unrhyw faterion datblygiadol a all effeithio ar eu gallu i weithio'n effeithiol gyda chleientiaid; yn meithrin a gwella eu gallu i hunan-adfyfyrio. Mae'r modiwl hwn yn adeiladu ar y modiwl Datblygiad Personol. Anogir dysgwyr i rannu gyda'r grŵp yr hunanymwybyddiaeth maent wedi'i ddysgu o'r broses adfyfyrio; i gyfathrebu, i leisio ac i rannu eu gwendidau ac i arddangos y nodweddion moesol sy'n greiddiol i gwnselwyr, sef gwytnwch, gwyleidd-dra, gonestrwydd a dewrder personol.

Asesiad 1 – Cyflwyniad Personol 10 munud a 5 munud o sesiwn Holi ac Ateb – Bydd y myfyrwyr yn adfyfyrio ac yn rhannu'r mewnwelediadau maent wedi'u cael ar y daith gwnsela gan ddangos eu gallu i ddefnyddio damcaniaethau cwnsela i ddeall eu hunain a chynyddu eu hunanymwybyddiaeth. (100%)

Dulliau Plwraliaethol o Gwnsela:

Nod y modiwl hwn yw cyflwyno'r myfyrwyr i athroniaeth dirfodaeth a ffenomenoleg. Bydd y myfyrwyr yn meithrin dealltwriaeth gadarn o'r sgiliau a'r athroniaethau sy'n greiddiol i'r damcaniaethau ac yn gallu cymhwyso'r ddealltwriaeth ddamcaniaethol hon i'w hymarfer dyneiddiol eu hunain fel y bo'n briodol. Bydd y modiwl hwn hefyd yn annog y myfyrwyr i ystyried sut mae'r ddamcaniaeth a'r athroniaeth ynghylch dirfodaeth yn berthnasol i'w credoau personol am yr hunan, am eraill ac am y byd o'u cwmpas.

Asesiad 1 – Cyflwyno astudiaeth achos – Sut mae damcaniaeth a chysyniadau dirfodaeth wedi cael eu cymhwyso mewn gwaith cwnsela, eu perthynas â chredoau personol a'u heffaith ar y broses gwnsela. 100% (15 munud)

Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn Cwnsela:

Nod y modiwl hwn yw meithrin dealltwriaeth y dysgwyr o amrywiaeth a chynhwysiant yn y proffesiwn cwnsela. Bydd y modiwl yn edrych ar safbwyntiau cymdeithasol, diwylliannol a datblygiadol mewn perthynas ag oed, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, rhywioldeb ac ati. Agwedd bwysig ar y cwrs fydd galluogi myfyrwyr i archwilio eu blociau adeiladu damcaniaethol eu hunain; rhagfarn, gwahaniaethu ac allgau, stereoteipiau ac unrhyw agweddau gwahaniaethol eraill gan ystyried sut mae hyn yn cysylltu â'u hymarfer cwnsela a'u profiadau o weithio gyda gwahaniaethau.

Asesiad 1 – Aseiniad ysgrifenedig adfyfyriol – Bydd y myfyrwyr yn adfyfyrio ac yn dangos ymwybyddiaeth o'u gwerthoedd, eu hagweddau a'u rhagfarnau eu hunain a sut mae'r rhain yn effeithio ar eu gallu i feithrin dyfnder yn eu perthynas â'u cleientiaid.50% 1,000 o eiriau

Asesiad 2 – Cylch trafod ar-lein. Trafodaeth ymysg grŵp bychan o fyfyrwyr (tua 3). Bydd y tiwtor yn cyflwyno materion yn ymwneud ag ymarfer gwrthwahaniaethol mewn cwnsela i bob grŵp o fyfyrwyr (3 chwestiwn) a bydd y myfyrwyr yn ystyried ffyrdd o hyrwyddo ymarfer gwrthwahaniaethol wrth weithio gyda chleientiaid ac o fewn asiantaeth. 50% (yn cyfateb i 1000 gair)

Iechyd Meddwl a Lles:

Nod y modiwl hwn yw codi ymwybyddiaeth y myfyrwyr o ddigwyddiadau cyffredin bywyd a rhwystrau i les, a gwella eu dealltwriaeth o rai o'r anhwylderau iechyd meddwl mwyaf cyffredin. Bydd y myfyrwyr yn gallu adnabod nodweddion pwysicaf pryderon iechyd meddwl fel y diffinnir hwy yn y Diagnostic and Statistical Manual of Mental Disorder (DSM-5; 2013 (cyfeirir hefyd at y ICD-10), ac ymateb yn briodol, diogel a moesegol. Caiff y myfyrwyr eu cyflwyno i'r asesiadau iechyd meddwl y gall cwnselwyr eu cynnal, a gwella eu hymyriadau a'u sgiliau therapiwtig i gynorthwyo cleientiaid sy'n dioddef gofid seicolegol penodol yn ystod sesiynau cwnsela.

Asesiad 1 – Yn unigol bydd y dysgwyr yn creu a recordio podlediad 10 munud i'w rannu â grŵp i sôn am anhwylder iechyd meddwl o'u dewis, ac i esbonio'r arwyddion, y symptomau, yr effeithiau a'r triniaethau posibl fel y'u hargymhellir gan ganllawiau NICE. (60%)

Asesiad 2 – Taflen wybodaeth i helpu i gefnogi gwaith cwnselydd wrth weithio gyda chleientiaid â phroblemau iechyd meddwl. Rhaid i'r daflen wybodaeth gynnwys: Dolenni i adnoddau asesu defnyddiol; Dolenni i dempledi cynllun diogelwch; Rhestr o asiantau sy'n cynnig cyngor a chefnogaeth. (40%) (1,200 gair)

Gwella Ymarfer Cwnsela:

Nod yr uned hon yw rhoi cyfle i'r myfyrwyr ddangos sut maen nhw wedi meithrin y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i weithio'n ddiogel fel Cwnselwyr. Anogir myfyrwyr i ehangu ar yr hyn maent wedi'i ddysgu o fodiwlau blaenorol y cwrs ac i feithrin y gallu i gyfuno symbiosis damcaniaethol, ymarfer moesegol a sgiliau.

Asesiad 1 – Portffolio o dystiolaeth yn cynnwys: 100 awr o log cleientiaid, log goruchwylio, adroddiad goruchwylio, adroddiad asiantaeth, log cwnsela personol, log DPP BACP (50%) **Nid oes angen unrhyw waith academaidd ychwanegol ar gyfer yr asesiad hwn, ond bydd angen casglu gwybodaeth gan y goruchwyliwr a'r asiantaeth **. Asesiad 2 – Astudiaeth achos i roi trosolwg o'r gwaith cwnsela therapiwtig a wnaed gydag un cleient (yn trafod o leiaf chwe sesiwn). Rhaid i'r astudiaeth achos ddangos y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i weithio'n ddiogel ac effeithiol, gan roi enghreifftiau penodol o bob modiwl sy'n rhan o'r cwrs. (50%) (1500 gair)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 4

Maes rhaglen:

  • Cwnsela

Dwyieithog:

Yn dibynnu ar y campws, mae'n bosib y gellir darparu rhai o'r deunyddiau dysgu'n ddwyieithog er mwyn i fyfyrwyr allu dilyn elfennau o'r rhaglen yn y Gymraeg a'r Saesneg. Cewch fanylion yn y cyfweliad.

Cwnsela

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Cwnsela