Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Paratoi i Addysgu (Dechrau ym mis Ionawr)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    10-12 wythnos

Gwnewch gais
×

Paratoi i Addysgu (Dechrau ym mis Ionawr)

Graddau (Addysg Uwch)

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r modiwl hwn yn rhan o'r cwrs Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg/Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg i Raddedigion

Bwriadwyd y cwrs rhan-amser hwn ar gyfer pobl sydd â chymwysterau proffesiynol ac sy'n brofiadol yn eu maes nad ydynt, o bosib, yn addysgu neu'n hyfforddi ar hyn o bryd, ond sy'n awyddus i feithrin y wybodaeth a'r sgiliau a fydd yn caniatáu iddynt wneud hynny.

Fel rheol, bydd gan ymgeiswyr ddiddordeb mewn gweithio yn y sector ôl-orfodol (e.e. addysg bellach, addysg oedolion ac addysg gymunedol, mewn carchardai neu yn y gweithle).

Ni fwriadwyd y cwrs hwn ar gyfer rhai sy'n dymuno addysgu mewn ysgolion cynradd neu ysgolion uwchradd.

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Dyddiad cychwyn

Ionawr

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Gofynion mynediad

  • O leiaf cymhwyster Lefel 3 sy'n berthnasol i'r pwnc arbenigol yr ydych yn dymuno ei ddysgu
  • Dylai tiwtoriaid galwedigaethol fod â phrofiad sylweddol (o leiaf bum mlynedd yn y diwydiant)
  • Gwiriad manwl gan Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
  • Tystiolaeth o sgiliau llythrennedd a Rhifedd Lefel 2 neu uwch
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor: meistrolaeth ar y Saesneg (IELTS lefel 7 neu gymhwyster cyfatebol).

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno fel a ganlyn:

  • Gwaith grŵp
  • Dysgu yn yr ystafell ddosbarth
  • Cefnogaeth Tiwtorial
  • Ymweliadau addysgol
  • MOODLE (amgylchedd dysgu rhithwir)
  • Siaradwyr Gwadd

Asesiad

Mae'r cwrs hwn yn cael ei asesu drwy ystod o weithgareddau sy'n medru cynnwys:

  • Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
  • Cyflwyniadau ac arddangosiadau
  • Portffolios o waith
  • Perfformio ac arsylwi

Dilyniant

  • Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg i Raddedigion (Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol)
  • Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg (Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol)

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Gwybodaeth am yr Uned

Ar y cwrs byr hwn, sy'n para 10–12 wythnos, cewch gyflwyniad i egwyddorion sylfaenol dysgu ac addysgu. Byddwch yn edrych ar swyddogaethau a chyfrifoldebau ymarferwyr yn y sector dysgu gydol oes, gan gynnwys hyrwyddo arferion da er mwyn sicrhau cyfle cyfartal i bawb.

Yn y sesiynau, cewch gyflwyniad i'r egwyddorion a'r arferion sy'n sail i'r prif ddulliau a ddefnyddir i reoli'r dysgu mewn sefyllfaoedd a chyd-destunau arferol; y defnydd a wneir o gymhorthion dysgu (gyda phwyslais ar dechnolegau dysgu); a dulliau asesu a gwerthuso.

Bydd y pynciau yr ymdrinnir â hwy'n cynnwys ymwybyddiaeth o ddysgu ac addysgu mewn sefyllfa ddwyieithog; gweld a chael profiad o ddigwyddiadau dysgu ac o'r hinsawdd dysgu; a sgiliau cyfathrebu ac arddulliau addysgu.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 4-6

Maes rhaglen:

  • Hyfforddiant Athrawon

Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor

Dwyieithog:

n/a

Hyfforddiant Athrawon

Darlithydd yn arwain dosbarth

Sefydliad dyfarnu