Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cynllun Strategol 2022-2027


Gwella dyfodol pobl

Improving people's futures

Rhagair

Mae'n bleser gennym gyflwyno cynllun pum mlynedd Grŵp Llandrillo Menai hyd at 2027, sy'n cynnwys pum thema allweddol. Mae ein cynllun newydd yn gobeithio adeiladu ar lwyddiant ein cynllun blaenorol drwy ymgorffori'r hyn a ddysgwyd o heriau'r pandemig, rhoi ffocws newydd ar faterion amgylcheddol a mynd ati o ddifri i hyrwyddo arloesedd. Rydym wedi ymrwymo i fod yn ddarparwr Addysg Bellach arweiniol yng Nghymru a thu hwnt.

Mae ein cenhadaeth o 'Wella Dyfodol Pobl' yn cyfleu pwrpas ein sefydliad addysg bellach. Er bod darparu cymwysterau'n llwyddiannus yn hanfodol i ni, rydym hefyd yn cael effaith sylweddol ar gydlyniant cymdeithasol a datblygiad economaidd. Ein bwriad yw chwarae rhan flaenllaw yn ein cymunedau a darparu'r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi llwyddiant yng Ngogledd Cymru.

Mae gweithio mewn partneriaeth â'r sector preifat a chyhoeddus yn allweddol i gyflawni'r amcanion hyn. Nod ein cynllun uchelgeisiol ar gyfer buddsoddi cyfalaf yw darparu adnoddau o'r radd flaenaf. Serch hynny, gan eu bod yn hanfodol i lwyddiant pob un o'r themâu allweddol, ein blaenoriaeth fydd buddsoddi yn ein staff i fod y gorau yn y sector.

Gobeithio y gwnewch chi fwynhau edrych ar ein 'his-safle digidol' newydd sy'n amlinellu ein blaenoriaethau o dan bob un o'r prif themâu gan ddangos rhai o'r dangosyddion perfformiad allweddol ynghyd â thystiolaeth o sut rydym yn cyflawni ein cynllun.

Dafydd Evans
Prifweithredwr

Dr Griff Jones
Cadeirydd



Ein 5 thema allweddol



Ein gwerthoedd

Parch

Arloesedd

Rhagoriaeth

Chydraddoldeb

Ein nod yw sicrhau bod ein holl ddysgwyr yn cael eu trin â pharch ac ein bod yn eu harfogi â’r sgiliau a’r rhinweddau i lwyddo mewn bywyd.

Beth mae hyn yn ei olygu i ddysgwyr

Bydd ein dysgwyr:

  • Yn trin ei gilydd, staff ac ymwelwyr gyda pharch a chwrteis
  • Yn parchu ac yn dathlu amrywioldeb
  • Yn ymfalchïo yn niwylliant a iaith Cymru
  • Yn barod i leisio barn a chyfranogi yn eu cymunedau
  • Yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd addysg a hyfforddiant a ddarperir ar eu cyfer
  • Yn ymgyrraedd at y safonau cyflawni uchaf
  • Yn ymddwyn mewn ffordd gyfrifol sy'n parchu eu lles a'u diogelwch eu hunain ac eraill
  • Yn parchu'r amgylchedd a'r adnoddau a ddarperir ar eu cyfer
  • Yn cydweithio'n effeithiol ac yn broffesiynol gyda'u cyd-ddysgwyr
  • Yn ymdrechu i ddatblygu eu hyder a'u cyflogadwyedd

Beth mae hyn yn ei olygu i staff

Bydd ein staff:

  • Yn trin pob dysgwr, staff eraill, ymwelwyr a chleientiaid gyda pharch a chwrteisi
  • Yn parchu ac yn dathlu amrywioldeb
  • Yn hyrwyddo ethos Cymreig ac yn parchu hawliau ieithyddol dysgwyr a staff
  • Yn gwrando ar ac yn ymateb i farn dysgwyr
  • Yn sicrhau bod dysgwyr yn ganolog i'w holl weithgareddau
  • Yn ymrwymedig i ragoriaeth, beth bynnag fo eu rôl
  • Yn ymroddedig i ddatblygiad proffesiynol parhaus ac yn agored i syniadau newydd
  • Yn hyrwyddo'r safonau uchaf o ran diogelwch a lles
  • Yn parchu'r amgylchedd ac yn defnyddio adnoddau a chyfleusterau mewn ffordd gynaliadwy
  • Yn anelu at fod yn arloesol yn y modd y maent yn darparu gwasanaethau i ddysgwyr, cyflogwyr a chleientiaid
  • Yn cydweithio'n gydlynol gyda chydweithwyr a phartneriaid
  • Yn gweithio mewn ffordd sy'n ymgyrraedd at ddarparu gwerth am arian


Cyfleoedd i ddysgwyr a llwyddiant dysgwyr

Eicon o dystysgrif


Blaenoriaethau


Meddu ar strategaeth farchnata gyffrous i hyrwyddo ein darpariaeth

Dangosyddion perfformiad allweddol (DPA)


DPA 1 - Cyfraddau Llwyddo Dysgwyr
DPA 2 - Nifer y dysgwyr sy'n cael eu recriwtio
DPA 3 - Nifer y dysgwyr sy'n derbyn cefnogaeth