Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Lletygarwch ac Arlwyo Lefel 1 (Dechrau Ionawr)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Bangor
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn

Gwnewch gais
×

Lletygarwch ac Arlwyo Lefel 1 (Dechrau Ionawr)

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi yrfa yn y diwydiant lletygarwch ac arwylo?

A fyddech chi'n elwa ar gwrs rhagarweiniol sy'n cynnwys llawer o waith ymarferol?

Ar y cwrs hwn, cewch ddatblygu sgiliau hanfodol i letygarwch a pharatoi bwyd, yn ogystal â dysgu am ddiogelwch bwyd. Bydd hyn yn sicrhau bod gennych y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i fynd ymlaen i'r rhaglen astudio nesaf neu i gyflogaeth.

Bydd disgwyl i chi brynu cit, iwnifform a llyfrau fydd yn costio tua £280 (gall y swm hwn newid). Mae'n bosibl cael help tuag at y costau hyn drwy grant.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • Bydd disgwyl i chi ddangos eich ymrwymiad i ddysgu trwy gyflawni'ch graddau targed yn eich arholiadau TGAU a chael presenoldeb da ym mlwyddyn 11.
  • Cwblhau rhaglen Hyfforddeiaeth, Cyn-alwedigaethol, Llwybrau Dysgu neu Gyswllt Ysgolion yn llwyddiannus
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Rhaid i ymgeiswyr sydd eisoes yn astudio yn y coleg wrth bresenoldeb o 86% ar eu cwrs presennol.

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Gwaith grŵp
  • Dysgu yn y dosbarth
  • Cefnogaeth tiwtor
  • Sesiynau theori
  • Amgylchedd dysgu rhithwir
  • Sesiynau ymarferol mewn amgylchedd gwaith realistig

Asesiad

Asesir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau canlynol:

  • Cyfres o dasgau ymarferol
  • Rhestrau gwirio ymarferol i egluro'ch gwaith
  • Tasgau gwybodaeth ac ymchwil
  • Arsylwi

Dilyniant

Gall cwblhau'r cwrs hwn arwain at nifer o ddewisiadau o ran addysg a chyflogaeth. Gallech fynd ymlaen yn syth i gyflogaeth a defnyddio'ch gwybodaeth a'ch sgiliau yn y gweithle. Anogir chi i gael profiad gwaith yn ystod y cwrs hwn, ac fe allai hyn arwain at swydd lawn amser ar ôl i chi orffen.

Dewis arall fyddai mynd ymlaen i ddilyn cwrs Lefel 2 a pharhau i ddatblygu'ch gwybodaeth a'ch sgiliau yn y maes hwn. Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o raglenni yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:

  • Lletygarwch ac Arlwyo Lefel 2

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 1

Maes rhaglen:

  • Lletygarwch ac Arlwyo

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Bangor

Lletygarwch ac Arlwyo

Cogydd yn coginio mewn cegin