Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyflwyniad i Goginio Proffesiynol a Gweini Bwyd a Diod Lefel 1

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Bangor, Dolgellau
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn

Gwnewch gais
×

Cyflwyniad i Goginio Proffesiynol a Gweini Bwyd a Diod Lefel 1

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Dolgellau

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Ydych chi'n angerddol am fwyd a diod? Hoffech chi weithio yn un o'r diwydiannau mwyaf a mwyaf amrywiol yn y byd? Mae'r cwrs Lefel 1 hwn yn darparu cwricwlwm cyffrous i chi, wedi'i gynllunio i ddatblygu eich sgiliau ymarferol sy'n eich galluogi i weithio yn y diwydiant lletygarwch bywiog.

Byddwch yn profi ystod eang o weithgareddau creadigol a fydd yn cynnwys:

  • Iechyd a Diogelwch,
  • Diogelwch Bwyd,
  • Sgiliau personol yn y gweithle
  • Offer Cegin
  • Technegau coginio e.e. berwi, ffrio, rhostio ac ati
  • Gwasanaeth bwrdd a chownter
  • Deddfwriaeth a deall bwydlenni
  • Sgiliau bar
  • Gwasanaeth cwsmer
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Trwy gydol y cwrs, mae datblygiad pob myfyriwr yn cael ei feithrin a'i annog mewn amgylchedd cefnogol. Byddwch yn cael eich tiwtora gan ymarferwyr proffesiynol, a fydd yn eich tywys a'ch cefnogi wrth ichi ddatblygu'ch sgiliau.

Fel rhan o'ch hyfforddiant bydd gofyn i chi hefyd ddatblygu eich sgiliau llythrennedd a rhifedd.

Bydd disgwyl i chi brynu gwisgoedd a cit sylfaenol. Efallai y bydd cymorth tuag at y gost hon ar gael trwy grantiau.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • 2 TGAU gradd D neu uwch
  • Bydd disgwyl i chi ddangos eich ymrwymiad i ddysgu trwy gyflawni'ch graddau targed yn eich arholiadau TGAU a chael presenoldeb da ym mlwyddyn 11.
  • Cwblhau rhaglen Hyfforddeiaeth, Cyn-alwedigaethol, Llwybrau Dysgu neu Gyswllt Ysgolion yn llwyddiannus
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Rhaid i ymgeiswyr sydd eisoes yn astudio yn y coleg wrth bresenoldeb o 86% ar eu cwrs presennol.

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen yn ein ceginau a'n bwytai diweddaraf trwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Hyfforddiant ymarferol mewn amgylchedd gwaith realistig
  • Sesiynau ymarferol yn y gegin sgiliau
  • Mynediad i gystadlaethau lleol a chenedlaethol
  • Dysgu rhithwir yn yr ystafell ddosbarth
  • Ymweliadau addysgol

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Asesir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau canlynol:

  • Profion ymarferol yn y gegin a't bwyty trwy gydol y flwyddyn
  • Aseiniadau ysgrifenedig
  • Profion cwestiwn ateb byr

Dilyniant

Mae cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus yn rhoi cyfle i chi symud ymlaen i:

  • Gwasanaeth Coginio a Bwyd a Diod Proffesiynol Lefel 2
  • Lletygarwch ac Arlwyo Lefel 2
  • Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Cynhyrchu Bwyd a Choginio
  • Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol

Gallech hefyd geisio cyflogaeth neu ystyried amryw gyfleoedd eraill o fewn addysg bellach.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 1

Maes rhaglen:

  • Lletygarwch ac Arlwyo

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Bangor
  • Dolgellau
  • Llandrillo-yn-Rhos

Lletygarwch ac Arlwyo

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Lletygarwch ac Arlwyo

Cogydd yn coginio mewn cegin