Prentisiaethau mewn Lletygarwch ac Arlwyo
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu Seiliedig ar Waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
- Lefel 2: 14-18 mis
- Lefel 3: 18-22 mis
Prentisiaethau mewn Lletygarwch ac ArlwyoPrentisiaethau
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r diwydiant Lletygarwch ac Arlwyo yn cynnwys gwestai, tai bwyta, tafarndai, arlwyo dan gytundeb a gwasanaethau lletygarwch.
Mae Prentisiaid Lefel 2 yn gweithio mewn amrywiaeth o swyddi yn cynnwys swyddi sgiliau lluosog o fewn y gwasanaethau lletygarwch. Golyga hyn y byddant yn gwneud ychydig o bopeth neu'n arbenigo mewn gwaith cadw tŷ a gwaith blaen y tŷ neu'n gallu hyfforddi i fod yn weinydd/gweinydd gwasanaeth arian neu'n weithiwr mewn bar. Bydd cynorthwywyr cegin, cogyddion a chef yn gweithio mewn amrywiaeth o geginau bach a mawr.
Mae cyfleodd i Brentisiaid weithio fel Sous Chef neu Uwch Chef ar Lefel 3 neu i arbenigo mewn teisennau neu felysion. Mae llwybr Goruchwylio neu Arwain ym maes Lletygarwch yn cynnig hyfforddiant i fod yn Rheolwr Gwaith Tŷ, Prif Dderbynnydd, Rheolwr Gwesty neu'n oruchwyliwr/rheolwr mewn tŷ bwyta neu dafarn.
Mae'r llwybrau'n cynnwys:
Lefel 2
- Coginio Proffesiynol
- Gwasanaethau Lletygarwch
- Gwasanaeth Bwyd a Diod
- Cynhyrchu Bwyd a Choginio
- Gwaith Tŷ
- Gwaith blaen y tŷ
- Pobi
Lefel 3
- Coginio Proffesiynol
- Goruchwylio ac Arwain ym maes Lletygarwch
Lefel 4
- Rheoli ym maes Lletygarwch
Gofynion mynediad
- Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol ond mae profiad mewn Lletygarwch yn ddymunol.
- Dylai fod gan brentisiaid gyflogwr a fedr ateb gofynion meini prawf yr NVQ.
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
- Darperir mwyafrif yr hyfforddiant yn y gweithle
- Bydd gofyn i ddysgwyr fynychu sesiynau yn y coleg i gwblhau tasgau a phrofion theori
Asesiad
- Cwblhau portffolio o dystiolaeth
- Arsylwadau yn y gweithle
- Tasgau a phrofion theori
Dilyniant
O Brentisiaeth Sylfaenol Lefel 2 i Brentisiaeth Lefel 3/4.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiaethau
Lefel:
2+3
Maes rhaglen:
- Lletygarwch ac Arlwyo
Dwyieithog:
n/aLletygarwch ac Arlwyo
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: