Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Bangor, Dolgellau
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn

Gwnewch gais
×

Lletygarwch ac Arlwyo Lefel 2

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Dolgellau

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi yrfa yn y diwydiant lletygarwch ac arwylo? A fyddech chi'n elwa ar gwrs Lefel 2 ymarferol?

Ar y cwrs hwn, cewch ddatblygu sgiliau hanfodol i arlwyo a diogelwch bwyd, yn ogystal â'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth.

Bydd disgwyl i chi brynu cit, iwnifform a llyfrau fydd yn costio tua £280 (gall y swm hwn newid). Mae'n bosibl cael help tuag at y costau hyn drwy grant.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • Cymhwyster Coginio Proffesiynol Lefel 1 perthnasol ar lefel Llwyddo
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Bydd angen hefyd i chi fod wedi cael presenoldeb o 86% yn eich blwyddyn astudio flaenorol.

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Gwaith grŵp
  • Dysgu yn y dosbarth
  • Cefnogaeth tiwtor
  • Sesiynau theori
  • Amgylchedd dysgu rhithwir
  • Sesiynau ymarferol mewn amgylchedd gwaith realistig

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Asesir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau canlynol:

  • Cyfres o dasgau ymarferol
  • Rhestrau gwirio ymarferol i egluro'ch gwaith
  • Tasgau gwybodaeth ac ymchwil
  • Arsylwi

Dilyniant

Bydd cwblhau'r cwrs hwn yn helpu i'ch paratoi ar gyfer cyflogaeth ac addysg bellach. Os byddwch yn dewis mynd yn syth i waith, bydd gennych ddealltwriaeth sylfaenol o arlwyo, lletygarwch a diogelwch bwyd a fydd yn werthfawr mewn amrywiaeth o amgylcheddau gwaith.

Bydd nifer o fyfyrwyr yn dewis parhau â'u haddysg er mwyn ennill profiad mwy arbenigol ac ehangu eu dewisiadau o ran gyrfa.

Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o raglenni yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:

  • Lletygarwch ac Arlwyo Lefel 3
  • Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Cynhyrchu Bwyd a Coginio
  • Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol
  • Prentisiaeth Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Lletygarwch ac Arlwyo

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Bangor
  • Dolgellau

Lletygarwch ac Arlwyo

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Lletygarwch ac Arlwyo

Cogydd yn coginio mewn cegin