Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gradd Sylfaen (FdA) Rheoli ym maes Lletygarwch

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser, Llawn Amser
  • Hyd:

    Llawn amser: 2 flwyddyn; Rhan-amser: 4 blynedd

  • Cod UCAS:
    NN2H
Gwnewch gais
×

Gradd Sylfaen (FdA) Rheoli ym maes Lletygarwch

Graddau (Addysg Uwch)

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Gan fod y cyrsiau hyn yn y broses o gael eu datblygu maent yn amodol ar ddilysiad a chymeradwyaeth ar gyfer mis Medi 2024. Gall y cynnwys a'r modiwlau newid.

Hoffech chi gael gyrfa ym maes lletygarwch? Ydych chi'n awyddus i gael swydd reoli yn y diwydiant?

Mae'r cwrs hwn yn cynnig llwybr Addysg Uwch galwedigaethol. Cewch ennill cymhwyster academaidd a meithrin gwybodaeth a sgiliau i weithio ym maes lletygarwch.

Mae modiwlau yn cynnwys:

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

  • Gwasanaethau Bwyd a Diod
  • Gwasanaethau Blaen Swyddfa
  • Diogelwch Bwyd
  • Cyllid Busnes
  • Rheoli Gwybodaeth
  • Marchnata ac Arloesi

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

Rheoli Adnoddau Dynol

  • Rheoli ym maes Bwyd a Diod
  • Twristiaeth Bwyd
  • Rheoli Cynadleddau a Digwyddiadau
  • Dulliau Ymchwilio

Gofynion mynediad

Gofynion ieithyddol:

  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Saesneg neu Gymraeg, iaith gyntaf
  • Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys fod wedi'u haddysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, neu
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 4, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 5.5 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.0)
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 5 neu uwch, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5)

Gofynion academaidd:

  • O leiaf 80 pwynt UCAS mewn prif gymhwyster Lefel 3, gan fod wedi llwyddo fel arfer mewn o leiaf un pwnc perthnasol a allai gynnwys: Lefel A, Diploma Estynedig BTEC, Bagloriaeth Ryngwladol, Mynediad i AU; neu NVQ Lefel 3; yn ogystal â'r pwnc perthnasol, derbynnir nifer o gymwysterau ychwanegol o Gymru, Lloegr a'r Alban i gefnogi'r pwyntiau UCAS, e.e. Bagloriaeth Cymru.
  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd neu Sgiliau Allweddol/Hanfodol ar lefel gyfwerth. Bydd gofyn i ymgeiswyr nad oes ganddynt y cymwysterau hyn ddangos tystiolaeth i gadarnhau bod safon eu rhifedd yn bodloni gofynion y rhaglen.
  • Mae cymwysterau rhyngwladol cyfwerth yn dderbyniol Yn unol â rheoliadau a pholisïau GLlM, byddwn yn fodlon ystyried amrywiaeth eang o gymwysterau a phrofiadau proffesiynol eraill gan fyfyrwyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd a nodir uchod. Bydd hyn ar sail cyflwyno portffolio o ddysgu blaenorol i'w achredu (APL/APEL/RPEL).

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Darlithoedd
  • Gweithdai a gwaith ymarferol
  • Tiwtorialau
  • Siaradwyr gwadd
  • Dysgu myfyriwr ganolog
  • Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)

Mae'r myfyrwyr yn gyfrifol am drefnu eu profiad gwaith eu hunain os yw'r rhan ofynnol o'u rhaglen, a byddant yn cael eu cefnogi gan dîm y cwrs.

Amserlen

  • Llawn amser: 2 flynedd, 2 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9.00 am - 3.30 pm)
  • Rhan-amser: 4 blynedd, 1 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9.00 am - 4.00 pm)

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Costau Ychwanegol

Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:

  • Mae'n ofynnol gwisgo gwisgoedd arbenigol wrth weithio ym mwytai'r coleg. Mae'r rhain ar gael i'w llogi.
  • Yn ystod y rhaglen, mae myfyrwyr yn ennill aelodaeth myfyriwr i'r Sefydliad Lletygarwch nad oes ganddo unrhyw gost ychwanegol i'r myfyriwr ar hyn o bryd. Gall hyn newid yn flynyddol.
  • Anogir myfyrwyr i fanteisio ar gyfleoedd i ddod yn aelodau o gyrff proffesiynol eraill a all gael costau ychwanegol. Yn arbennig ar gyfer y rhaglen hon fe'ch anogir i ddod yn aelod o academi Twristiaeth a Lletygarwch Gogledd Cymru, sy'n academi ar-lein sy'n cefnogi ei haelodau gyda sesiynau rhwydweithio a datblygu personol.
  • Fel rhan o'r rhaglen, gellir cynnal ymweliadau allanol hefyd a fyddai'n gofyn am gyfraniad ariannol gan y myfyriwr.

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Cyswllt:

Michael Garner (Rhaglen Arweinydd): garner1m@gllm.ac.uk

Celine Rea (Gweinyddiaeth): rea1c@gllm.ac.uk

Asesiad

Ar y cwrs cewch eich asesu drwy ddulliau amrywiol, er enghraifft drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Portffolios unigol
  • Traethodau
  • Adroddiadau
  • Dyddiaduron adfyfyriol
  • Astudiaethau achos
  • Cyflwyniadau
  • Asesiadau i'w gwneud mewn amser penodol (gan a heb ddefnyddio llyfrau)
  • Gwaith ymarferol
  • Gwaith grŵp

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Bydd cwblhau'r Radd Sylfaen hon yn llwyddiannus yn rhoi i chi'r cyfle i fynd ymlaen i gwblhau cwrs BA (Anrh) mewn Rheoli ym maes Lletygarwch.

Bydd rhai yn dewis dechrau ar yrfaoedd newydd yn y diwydiant lletygarwch, neu'n ennill cyfrifoldebau ychwanegol a statws uwch yn eu sefydliadau presennol.

Gall gyrfaoedd yn y diwydiant lletygarwch olygu gweithio mewn gwestai, bwytai, tafarndai, canolfannau cynadledda, canolfannau hamdden a chanolfannau corfforaethol, busnesau arlwyo a sefydliadau eraill.

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Am bob 10 credyd, dylai myfyrwyr ymgysylltu â thua 100 o oriau tybiannol o ddysgu. Bydd hyn oddeutu 30% o gyswllt dysgu uniongyrchol a 70% o ddysgu annibynnol i fyfyrwyr.

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

Gwasanaethau Bwyd a Diod (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl Gwasanaethau Bwyd a Diod yw rhoi dealltwriaeth gadarn i ddysgwyr o'r sector bwyd a diod yn y diwydiant lletygarwch. Yn y modiwl, edrychir ar wahanol agweddau ar yr elfen hon o'r diwydiant o safbwynt ymarferol. Trafodir nifer o themâu a fydd yn dangos sut mae'r diwydiant lletygarwch yn gyffredinol, a gwasanaethau bwyd a diod yn benodol, yn dylanwadu ac yn effeithio ar gymdeithas ac ar economïau.

Yn ogystal, bydd y modiwl hwn yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddysgu o'r profiad ymarferol o gael gweithio mewn amgylchedd gwaith realistig. Bydd y tasgau'n dilyn safonau galwedigaethol cenedlaethol a sefydliadol, a chaiff dysgwyr arsylwi a chymryd rhan yn yr agweddau amrywiol sy'n rhan o ddarparu gwasanaethau bwyd a diod. (Aseiniad Ysgrifenedig 40%, Adroddiadau Ymarferol a Chynnydd 30%, Myfyrdod 30%)

Gwasanaethau Blaen Swyddfa (10 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw dysgu am y cylch gwesteion, ac am bwysigrwydd yr adran blaen swyddfa i weithrediadau'r gwesty gan mai dyma'r ganolfan sy'n cyfuno'r ffactorau sy'n gysylltiedig â rheoli cynnyrch yn effeithiol. (Aseiniad Ysgrifenedig 100%)

Diogelwch Bwyd (10 credyd, gorfodol)
Yn unol â'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol, nod y modiwl hwn yn darparu dealltwriaeth drylwyr o'r defnydd o weithdrefnau diogelwch bwyd ar draws ystod eang o fusnesau'n ymwneud â bwyd. Gan roi pwyslais ar bwysigrwydd monitro dulliau rheoli, bydd y modiwl yn rhoi i ddysgwyr y wybodaeth a fydd yn eu galluogi i drosglwyddo safonau a gweithdrefnau diogel yn hyderus i eraill. Edrychir ar ystyriaethau pathogenaidd a symptomau gan roi pwyslais ar faterion yn ymwneud â microbioleg, halogyddion cemegol a ffisegol, ac alergenau. O ganlyniad, mae'r modiwl yn berthnasol iawn i rai sy'n gorfod datblygu neu fonitro systemau a gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd wedi'u seilio ar HACCP. (Aseiniad Ysgrifenedig 100%)

Dysgu Seiliedig ar Gyflogadwyedd 1: Cynllunio Gyrfa (20 credyd, craidd)
Mae'r modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i gyflawni nifer o dasgau'n ymwneud â chyflogadwyedd er mwyn cynyddu eu cyfle o gael swydd. I wneud hyn mae myfyrwyr yn adfyfyrio ar eu dysgu a'u datblygiad eu hunain, a thrwy'r broses hon maent yn meithrin gwell dealltwriaeth o'u diddordebau, eu sgiliau a'u priodoleddau eu hunain yng nghyd-destun gyrfaoedd a phrofiadau gwaith ac adnabod beth sy'n bwysig iddynt o ran gwneud penderfyniadau gyrfaol effeithiol. Bydd myfyrwyr yn datblygu eu dealltwriaeth o'r hyn sydd angen iddynt ei wneud i lwyddo yn y farchnad swyddi, ac i adnabod yr adnoddau, y gefnogaeth a'r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i fod yn gyflogadwy. (CV a Llythyr Cais 10%, Cynllun Gweithredu 10%, Diwrnod Gwerthuso 30%, Adfyfyrio 50%)

Cyllid Busnes (20 credyd, gorfodol)
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno'r cysyniadau a'r egwyddorion sy'n hanfodol i gyfrifyddu a chyllid. Bydd yn canolbwyntio ar ddod i ddeall cysyniadau ac egwyddorion allweddol cyfrifyddu ariannol er mwyn gallu dehongli datganiadau ariannol. Bydd y pwyslais ar hanfodion cyfrifyddu ariannol a dechreuir trwy gyflwyno myfyrwyr i gysyniadau a thermau cyfrifyddu a chyllid. Yna symudir ymlaen at dechnegau cyfrifyddu a rheoli cyllid a bydd hyn yn cynnwys cynhyrchu datganiadau ariannol fel datganiadau incwm, mantolenni, a datganiadau a rhagolygon llif arian. Caiff y wybodaeth ei defnyddio i alluogi'r myfyrwyr i ddehongli gwybodaeth ariannol a gwella ansawdd penderfyniadau trwy ddefnyddio cymarebau ariannol. (Arholiad Llyfr Agored 50%, Adroddiad (Unigol) 50%)

Rheoli Gwybodaeth (10 credyd, gorfodol)
Yn y modiwl hwn, ceir cyflwyniad i'r amrywiol fathau o wybodaeth a geir ym myd busnes a phwysigrwydd Technoleg Gwybodaeth i arferion busnes modern. Edrychir hefyd ar bwrpas systemau gwybodaeth mewn busnesau. Bydd yn hybu dealltwriaeth a'r systemau amrywiol sy'n hanfodol er mwyn gallu gwneud defnydd llawn ac effeithiol o dechnoleg ac yn edrych ar y nifer cynyddol o ddulliau cyfathrebu sydd ar gael i gyflymu'r defnydd o wybodaeth. Yn ogystal, bydd yn dangos dulliau ystadegol effeithiol o reoli gwybodaeth a gwneud penderfyniadau mewn sefydliadau. (Ymchwiliad 50%, Cyflwyniad 50%)

Marchnata ac Arloesi (20 credyd, gorfodol)
Yn y modiwl hwn, cyflwynir y myfyrwyr i egwyddorion marchnata a phwysigrwydd cynllunio marchnata. Bydd y myfyrwyr yn edrych ar sut i ddefnyddio'r cymysgedd marchnata i sicrhau llwyddiant. Byddant yn dysgu am y damcaniaethau a'r modelau sy'n sail i farchnata ac yn eu cymhwyso i sefyllfaoedd go iawn. (Aseiniad Ysgrifenedig 40%, Adroddiad (Grŵp) 40%, Cyflwyniad 20%)

Sgiliau Ymchwilio ac Astudio (10 credyd, craidd)
Bydd y modiwl hwn yn meithrin sgiliau astudio'r myfyrwyr gan eu galluogi i feddwl yn feirniadol ac i gynhyrchu gwaith ysgrifenedig sy'n academaidd gadarn. Bydd yn galluogi'r myfyrwyr i feithrin sgiliau ymchwilio, ysgrifennu ac adfyfyrio. (Aseiniad Ysgrifenedig 100%)

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

Rheoli Adnoddau Dynol (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i ddeall sut mae adnoddau dynol ac adnoddau yn cael eu rheoli a'u datblygu mewn sefydliad. Bydd yn trafod swyddogaethau a gweithrediadau allweddol Rheoli ym Maes Adnoddau Dynol yn ogystal â sut maent yn cyfrannu at gyflawni nodau sefydliadol. Bydd myfyrwyr yn edrych ar brosesau recriwtio, dewis a meithrin doniau a sgiliau mewn sefydliad, a'r cysylltiad rhwng perfformio a gwobrwyo mewn cyd-destun cyfoes. (Aseiniadau Ysgrifenedig 100%)

Rheoli ym maes Bwyd a Diod (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl Rheoli ym maes Bwyd a Diod yw ymhelaethu ar yr hyn a ddysgwyd o'r profiadau ymarferol a gafwyd yn ystod y modiwl Gwasanaethau Bwyd a Diod. Bydd yn rhoi i ddysgwyr y wybodaeth a'r sgiliau trefniadol fydd eu hangen arnynt i drefnu, cynnal a gwerthuso digwyddiad bwyd a diod, gan roi ystyriaeth i'r holl elfennau amrywiol sy'n rhan o reoli digwyddiad o'r fath yn llwyddiannus. Ochr yn ochr â'r sgiliau hyn, bydd y modiwl yn nodi ac yn cydnabod sut mae darpariaethau bwyd a diod yn cael eu rhedeg yn effeithiol a draws amrywiaeth o fusnesau lletygarwch, ac yn esbonio sut mae gwasanaethau bwyd a diod yn gallu effeithio ar gyllid ac elw busnesau. (Written Assignment 30%, Report 30%, Group practical 40%)

Twristiaeth Bwyd (20 credyd, gorfodol)
Mae twristiaeth bwyd yn un o sectorau sy'n tyfu gyflymaf yn y diwydiant twristiaeth a derbynnir bod ei agweddau amrywiol yn cyfrannu'n sylweddol at ddatblygiad economaidd. Drwy ymchwil, anela'r modiwl at greu dealltwriaeth o rychwant y profiadau sydd ar gael ym maes twristiaeth bwyd a diod, tra hefyd yn darparu gwerthfawrogiad ehangach o'r gydberthynas rhwng bwydydd, twristiaid a'r cynnyrch twristaidd. Edrychir ar etifeddiaeth a diwylliant bwyd a diod ar y cyd â'r ffactorau sy'n ysgogi pobl i deithio. Rhoddir ystyriaeth i ddylanwadau gwleidyddol ar ddatblygiad bwydydd rhanbarthol a hunaniaeth leol ynghyd ag effeithiau economaidd, ffisegol a chymdeithasol. (Aseiniad Ysgrifenedig 40%, Cyflwyniad 60%)

Rheoli Cynadleddau a Digwyddiadau (20 credyd, gorfodol)
Bydd y modiwl hwn yn meithrin dealltwriaeth y myfyrwyr o'r amrywiaeth, y protocolau a'r gweithrediadau sy'n sylfaenol i'r sector rheoli cynadleddau a digwyddiadau. Datblygir a defnyddir sgiliau fydd yn ystyried y cynllunio cyfannol a'r ffactorau gweithrediadol sydd eu hangen i ddiwallu anghenion cwsmeriaid. (Adroddiad 40%, Astudiaeth Achos 60%)

Dysgu Seiliedig ar Gyflogadwyedd 2: Sgiliau Arwain (20 credyd, gorfodol)
Mae'r modiwl hwn yn datblygu dealltwriaeth y myfyrwyr o'r amrywiol bynciau sydd eu hangen ar gyfer arweinyddiaeth fodern, ac mae'n cyfateb i unedau'r CMI (Chartered Management Institute). Mae hyn yn cynnwys cyflwyno a chyfleu data i gefnogi penderfyniadau, dulliau o reoli unigolion, perfformiad timau a sut i wella perfformiad. (Aseiniadau ysgrifenedig 100%)

Dulliau Ymchwilio (20 credyd, gorfodol)
Yn y modiwl hwn bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i adfyfyrio a deall natur y cynnig ymchwil, amcanion yr ymchwil, y dulliau a'r trefnau a ddefnyddir i wneud yr ymchwil a sut i wneud y defnydd gorau o feddalwedd ystadegol. (Ymchwiliad 50%, Cyflwyniad 50%)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 4+5

Maes rhaglen:

  • International
  • Lletygarwch ac Arlwyo

Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor

Dwyieithog:

n/a

Lletygarwch ac Arlwyo

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Lletygarwch ac Arlwyo

Cogydd yn coginio mewn cegin

Sefydliad dyfarnu

DiscoverUni

Cwrs llawn amser


Cwrs rhan amser