Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaethau mewn Plant a Phobl Ifanc

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Lefel 3 = 15 mis

    Lefel 5 = 18 mis

    Cymhwyster rhan-amser yw hwn ac mae disgwyl i'r dysgwr ymgymryd â'i hastudiaethau uniongyrchol eu hunain.

    Rhennir y cymhwyster Lefel 3 yn ddwy ran. Yn y cwrs craidd Lefel 2 ym maes Plant a Phobl Ifanc (sy'n seiliedig ar theori) mae angen cwblhau pum uned wybodaeth. Yna, er mwyn cwblhau’r cymhwyster bydd angen i chi sefyll prawf ar dair astudiaeth achos ac un prawf amlddewis ar un o safleoedd y coleg. Ar ôl cwblhau cwrs Craidd yn llwyddiannus cewch fynd ymlaen i ddilyn y cwrs Lefel 3 Ymarfer ym maes Plant a Phobl Ifanc. Mae'n bosibl gwneud elfen theori'r cwrs Lefel 2 ym maes Plant a Phobl Ifanc yn unig.

Gwnewch gais
×

Prentisiaethau mewn Plant a Phobl Ifanc

Prentisiaethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae ar ddysgwyr angen y cymhwyster hwn i weithio mewn swyddi penodol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol fel y nodir yn Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer gofal cymdeithasol a gofal plant.

Bydd y cymhwyster Lefel 3 mewn Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc) yn galluogi dysgwyr i ddatblygu a dangos eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth, eu hymddygiad, eu sgiliau a'u hymarfer mewn lleoliad iechyd a gofal cymdeithasol.

Rhaid i'r dysgwyr fod un ai'n gweithio ym maes gofal maeth neu'n gweithio mewn ysgol breswyl neu ganolfan gofal plant arbenigol.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
07593 580 051 / 08450 460 460 neu busnes@gllm.ac.uk

Gofynion mynediad

  • Bod dan gontract i weithio o leiaf 16 awr yr wythnos.
  • Rhaid i'ch cyflogwr allu bodloni meini prawf y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (QCF).
  • Rhaid bod gennych ganlyniadau WEST (Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru) digonol.
  • Cynigir llefydd yn amodol ar gyfweliad boddhaol

Cyflwyniad

Darperir y Cwrs Craidd Lefel 2 ym maes Plant a Phobl Ifanc trwy gyfrwng sesiynau ar-lein a gynigir yn ystod y dydd neu fin nos i fodloni gofynion eich patrymau gwaith.

Cyfarfodydd ar-lein bob mis gyda'ch asesydd.

Cwrs Lefel 3 Ymarfer ym maes Plant a Phobl Ifanc

  • Arsylwadau, dysgu uniongyrchol, trafodaethau proffesiynol a thystiolaeth gan y cyflogwr.
  • Bydd angen cwblhau adfyfyrion ar eich ymarfer gwaith yn ogystal â pharatoi ar gyfer cael eich arsylwi yn eich lleoliad gwaith trwy dasgau strwythuredig.
  • Efallai y bydd angen i chi fynychu dosbarthiadau 'Cymwysterau Sgiliau Hanfodol' yn y coleg.

Asesiad

  • Gwaith ysgrifenedig, arsylwadau, a thrafodaethau.
  • Cwblhau portffolio o dystiolaeth (yn electronig os posibl)
  • Arholiad – i gynnwys prawf ar dair astudiaeth achos a phrawf amlddewis ar gyfer y cwrs craidd Lefel 2 ym maes Plant a Phobl Ifanc.

Dilyniant

Mae'n bosibl mynd ymlaen o Lefel 3 i Lefel 4 ac yna Lefel 5 (cyn belled â bod gennych swydd uwch yn y sefydliad).

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiaethau

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Datblygiad ac Addysg Plant

Mae'r cwrs i'w gael yn ddwyieithog ar y campysau/lleoliadau canlynol :

  • Dysgu Seiliedig ar Waith

Dwyieithog:

Mae'r cwrs hwn ar gael yn ddwyieithog.

Datblygiad ac Addysg Plant

Myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth