Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Datblygiad ac Addysg Plant: Lefel 2

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn

Gwnewch gais
×

Datblygiad ac Addysg Plant: Lefel 2

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Llangefni

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi gael gyrfa yn cefnogi lles a datblygiad plant a phobl ifanc?

Ydych chi am ddatblygu sgiliau ymarferol mewn gofal, dysgu, chwarae a datblygu plant? Mae cymhwyster Craidd a chymhwyster Ymarfer a Theori ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant i'r dim i'ch paratoi ar gyfer gyrfaoedd amrywiol mewn ysgolion, meithrinfeydd, ym maes gofal iechyd ac mewn lleoliadau eraill, ac maent yn rhoi sylfaen i'r rhai sydd am barhau i astudio ar lefel uwch.

Mae'r rhaglen ddysgu hon yn addas i bawb sydd am fod yn rhan o Weithlu Plant a Phobl Ifanc Cymru. Mae'r cymhwyster Lefel 2 hwn ym maes Gofal Plant wedi'i gynllunio ar gyfer myfyrwyr ôl-16 yng Nghymru sy'n gweithio, neu'n dymuno gweithio, mewn lleoliadau gofal plant a reoleiddir gyda theuluoedd a phlant o dan 8 oed ac yng ngwasanaethau plant 0-19 oed y GIG, sy'n cynnwys lleoliadau iechyd plant. Bydd yn edrych ar ystod amrywiol o swyddi a meysydd galwedigaethol, e.e. y GIG, Gwaith Ieuenctid, a lleoliadau Blynyddoedd Cynnar. Byddwn yn canolbwyntio ar ddatblygu eich dealltwriaeth o bynciau perthnasol fel dysgu a datblygiad plant, chwarae, diogelu, gofal a chydraddoldeb a byddwch yn cael eich addysgu gan staff sydd wedi gweithio'n broffesiynol yn y diwydiant.

Treulir cyfnod sylweddol o amser ar leoliad gwaith sy'n golygu bod y cwrs yn bodloni Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol y sector ar Lefel 2.

Gofynion mynediad

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y cwrs hwn, bydd angen o leiaf un o'r canlynol arnoch chi:

  • 4 TGAU gradd D neu uwch. Rhaid i'r rhain gynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Rhifedd

NEU

  • Os ydych chi'n symud ymlaen o Lefel 1 dylai fod gennych gymhwyster Lefel 1 perthnasol (Lefel 1 Iechyd, Cymdeithasol a Phlant yn ddelfrydol) ynghyd ag isafswm o 3 Sgiliau Rhif Hanfodol a Chyfathrebu Lefel 1 (neu'r hyn sy'n cyfateb yn eich TGAU, h.y. isafswm E mewn Mathemateg / Rhifedd a D yn Saesneg)

Os nad ydych yn siŵr a oes gennych y proffil gofynion mynediad, neu a oes gennych gymwysterau amgen sy'n gyfwerth yn eich barn chi, cysylltwch â gwasanaethau dysgwyr trwy'r swyddogaeth sgwrsio byw neu'n uniongyrchol.

Bydd gwasanaethau dysgwyr yn gallu trafod eich proffil a'ch cynghori ynghylch opsiynau cwrs.

Mae mynychu Digwyddiad Agored gyda ni yn rhoi cyfle i chi ddarganfod mwy am weithio yn y sector hwn a'r ystod o yrfaoedd y gall y cwrs hwn eich arwain atynt. Byddwch yn gallu gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych am y cwrs, bywyd yn y coleg, neu weithio yn y sectorau iechyd, cymdeithasol neu ddatblygiad plant, gofal ac addysg plant.

⁠Efallai y bydd eich rhaglen yn gofyn i chi ddod i gyfweliad, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud hynny.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Gwaith grŵp
  • Dysgu yn y dosbarth
  • Cefnogaeth tiwtor
  • Ymweliadau addysgol
  • Sesiynau ymarferol
  • Lleoliad gwaith
  • Ymgysylltu â'r sector
  • Arholiadau allanol
  • Asesiadau amlddewis ar-lein

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
  • Cyflwyniadau ac arddangosiadau
  • Portffolios gwaith
  • Perfformio ac arsylwi
  • Arholiad Amlddewis Ar-lein (Craidd plant)

Yn ystod y cwrs byddwch hefyd yn parhau i feithrin nifer o sgiliau, yn cynnwys rhifedd, llythrennedd a sgiliau digidol.

Caiff y cymhwyster Lefel 2 mewn Ymarfer a Theori ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant ei asesu ar sail 40 diwrnod (280 awr) o leoliad gwaith mewn gweithle blynyddoedd cynnar. Rhaid cyflawni'r oriau hyn rhwng mis Medi a mis Mehefin yn ystod y flwyddyn yr ydych yn astudio gyda ni. Trefnir hyn fel rhan o'ch amserlen. Asesir yr elfen theori o'ch rhaglen trwy 90% o asesu mewnol a 10% o asesu allanol. ⁠Rhaid i chi gyflawni'r elfen lleoliad gwaith a'r elfen theori er mwyn ennill y cymhwyster llawn.

Dilyniant

Bydd cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus yn rhoi'r cymwysterau cenedlaethol sy'n ofynnol i chi gofrestru gyda gweithlu'r sector. Bydd hyn yn gwella eich cyflogadwyedd ac yn rhoi gwybodaeth a sgiliau pwysig i chi. Gallech wneud cais am raglen Lefel 3, neu un o'n cyrsiau yn y gwaith mewn gofal plant neu iechyd a gofal cymdeithasol a fydd yn eich cymhwyso ymhellach gyda'r elfen ymarfer ar gyfer gyrfa mewn chwarae, dysgu a datblygu plant. Gallech hefyd ddefnyddio'ch sgiliau i fynd i gyflogaeth.

Os dewiswch astudio ymhellach, gallwch fynd ymlaen i ddilyn nifer o raglenni yng Ngrŵp Llandrillo Menai, yn cynnwys:

  • Datblygiad ac Addysg Plant (Lefel 3)
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3
  • Prentisiaeth Gofal, Dysgu a Datblygu Plant Lefel 2/3
  • Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant⁠
  • Prentisiaeth Lefel 3 mewn Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Plant a Phobl Ifanc

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Datblygiad ac Addysg Plant

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • HWB Dinbych
  • Llangefni

Datblygiad ac Addysg Plant

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Datblygiad ac Addysg Plant

Myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth