Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gwybodaeth i Rieni am y Coleg

Drwy ddewis dod i'r coleg i astudio caiff eich plentyn fynediad at ystod eang o gyrsiau, offer ac adnoddau arbenigol, a darlithwyr ymroddgar sydd â phrofiad proffesiynol yn eu maes.

Yn ein colegau, cynigir cannoedd o gyrsiau llawn amser a rhan-amser i ddiwallu anghenion pawb, beth bynnag fo'u diddordeb a'u gallu.

Mae'r rhain yn cynnwys dewis helaeth o bynciau academaidd a galwedigaethol mewn dros 35 o feysydd pwnc. Yn ogystal, mae cyfleoedd ar gael i brentisiaid a hyfforddeion, felly'n sicr gall eich plentyn ddod o hyd i rywbeth sydd at ei ddant.

O ran pynciau AS/Lefel A yn unig, gellir dewis o blith dros 30 pwnc gwahanol!

Os nad yw'ch plentyn yn siŵr pa gwrs neu bynciau i'w dewis a'i fod am drafod ei ddewisiadau, mae gennym gynghorwyr ar bob campws sy'n gymwys i roi gwybodaeth ac arweiniad am ein cwricwlwm, gyrfaoedd, y cymorth sydd ar gael a materion ariannol. Cysylltwch â ni neu dewch i'n gweld.

Mae'n bwysig inni i gyd bod eich plentyn yn dewis y rhaglen gywir. Yn ôl ein myfyrwyr presennol, mae'r cyngor a'r arweiniad sydd ar gael, y cyfleusterau, y gefnogaeth gan diwtoriaid a'r ymdeimlad o gyflawniad ac annibyniaeth a gânt o astudio gyda ni, i gyd yn fodd iddynt gael profiadau gwych yn y coleg a chyfleoedd dysgu rhagorol.

Rhieni a phlentyn yn darllen llyfr
Myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth

Canlyniadau Rhagorol

Yn 2023, roedd cyfradd llwyddo ein myfyrwyr Lefel A yn 97.2% ac aeth llawer ohonynt ymlaen i astudio ym mhrifysgolion Caergrawnt a Manceinion a phrifysgolion blaenllaw eraill sy'n perthyn i Grŵp Russell.

Ar ben hynny, llwyddodd 22% o'n myfyrwyr Lefel A i gael graddau A* ac A.

Enillodd 95.1% o'r myfyrwyr eu cymwysterau BTEC yn 2023.

Pam Dewis Dod i'r Coleg?

Drwy ddewis dod i'r coleg i astudio caiff eich plentyn fynediad at ystod eang o gyrsiau, offer ac adnoddau arbenigol, a darlithwyr ymroddgar sydd â phrofiad proffesiynol yn eu maes.

Ein nod yw rhoi'r cyfle gorau i bob myfyriwr lwyddo ac mae ein canlyniadau rhagorol yn ategu hyn.

⁠Mae gan bob myfyriwr diwtor personol ymroddedig sy'n goruchwylio ei raglen gyfan ac yn cysylltu â rhieni drwy gydol y flwyddyn academaidd. Cynhelir nosweithiau rhieni rheolaidd, cysylltir â chi dros y ffôn a rhennir y wybodaeth ddiweddaraf ar ein porth ar-lein i fyfyrwyr.

Gan fod cysylltiad amlwg rhwng presenoldeb yn y coleg a llwyddiant, caiff rhieni hefyd wybod drwy neges destun pan fydd eu plentyn yn absennol.

Os yw'ch plentyn yn bwriadu mynd ymlaen i'r brifysgol, bydd ei diwtor personol yn ei gefnogi drwy broses UCAS (Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a'r Colegau), gan ddarparu cymorth ac arweiniad helaeth i helpu eich plentyn i sicrhau lle yn ei ddewis cyntaf o brifysgol.

Yn ogystal, mae gennym staff sy'n arbenigwyr ar broses UCAS ar ein safleoedd ynghyd ag arbenigwyr mewn cyllid Addysg Uwch a all helpu myfyrwyr gyda'u ceisiadau ble bynnag y dewisant astudio.

⁠Caiff myfyrwyr sy'n symud ymlaen yn fewnol ar unrhyw un o'n cyrsiau galwedigaethol gefnogaeth lawn wrth iddynt gamu ymlaen i lefelau galwedigaethol uwch, prentisiaethau neu gyflogaeth. Mae'r coleg wedi datblygu rhwydwaith helaeth o gyflogwyr a sefydliadau sy'n darparu nifer o gyfleoedd i'n myfyrwyr ymgeisio amdanynt mewn meysydd fel peirianneg, iechyd a gofal, lletygarwch ac arlwyo, adeiladu a llawer iawn mwy.
Myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth
Tiwtor chwaraeon ar y cae

Cyfoethogi Profiadau

Rydym yn sylweddoli nad yn yr ystafell ddosbarth yn unig y mae dysgu'n digwydd, felly mae gennym raglen amrywiol i gyfoethogi profiadau myfyrwyr mewn meysydd allweddol fel cydraddoldeb, materion amgylcheddol, cadw'n ddiogel, iechyd a ffitrwydd a sut i ofalu am ein hiechyd meddwl.

Cynhelir gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn ac fe'u cefnogir gan ein hundeb myfyrwyr sydd wedi ennill gwobrau am ei waith ac sy'n gweithio gyda ni i lunio'r rhaglen gyfoethogi ac i annog cyfranogiad.

Ar bob campws ceir nifer o gyfleusterau sy'n rhoi lle i'ch plentyn astudio, ymlacio neu gymdeithasu.

Ymhlith y rhain ceir llyfrgelloedd, caffis a phodiau lles, yn ogystal â nifer o glybiau a grwpiau sydd bob amser yn croesawu aelodau newydd.

Amgylchedd Cefnogol

Mae gennym dîm lles ymroddedig sy’n gweithio gyda’r dysgwyr i sicrhau eu bod yn ddiogel a’u bod yn cael y gefnogaeth a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt.

Aseswyd ein gwasanaethau gofal, cymorth ac arweiniad yn rhagorol gan Estyn, arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru, ac fe’u cymeradwywyd hefyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch ac UCM Cymru.

Mae gennym dîm Cymorth Dysgu sydd yma i gefnogi dysgwyr i gyflawni eu potensial. Mae’r tîm yn darparu ystod o wasanaethau sy’n cynnwys cymorth yn yr ystafell ddosbarth a mynediad i’n canolfannau astudio a all helpu dysgwyr gydag aseiniadau ac wrth baratoi ar gyfer arholiadau. Mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni am unrhyw Anghenion Dysgu Ychwanegol fel ein bod yn gallu cynllunio’r gefnogaeth fydd ar gael i’ch plentyn gyda’n gilydd a sicrhau trosglwyddiad didrafferth.

Athro a myfyrwyr mewn gweithdy

Deallwn fod llawer o ffactorau gwahanol a all helpu eich plentyn i wneud cynnydd yn y coleg.

Mae timau ein Gwasanaethau i Ddysgwyr wedi'u graddio'n 'rhagorol' gan Estyn ac ar gael bob dydd i gynnig cyngor ac arweiniad ar amrywiaeth o faterion, gan gynnwys: cymorth ychwanegol i astudio, materion ariannol, cyngor gyrfaol a lles.

Myfyriwr yn gwneud gwaith coed

Cyfleusterau

Bydd astudio yn un o'n colegau yn rhoi cyfleoedd i'ch plentyn elwa ar gyfarpar modern ac amgylcheddau gweithio sy'n adlewyrchu'r byd go iawn.⁠

Golyga ein maint a'n hadnoddau ariannol y bydd gan eich plentyn fynediad i'r cyfleusterau dysgu ac addysgu gorau yng ngogledd Cymru.

Gwasanaeth Cludiant y Coleg

Mae gan y Grŵp gampysau ledled Gogledd Cymru a darpara sawl ffordd o fynd â myfyrwyr yn ôl a blaen o’u prif safle astudio.

Cewch ragor o wybodaeth ar dudalen Gwasanaethau Cludiant y Coleg.

Gall pob myfyriwr brynu tocyn bws Arriva am bris gostyngol.

Mae modd prynu'r rhain ar y bws drwy ddangos pàs bws dilys neu gerdyn ID myfyriwr, neu gellir eu prynu bob tymor neu bob blwyddyn oddi ar wefan Arriva: www.arrivabus.co.uk/students

Gallwch gael rhagor o ostyngiadau trwy ddilyn y ddolen ganlynol: https://fyngherdynteithio.llyw...

Caiff myfyrwyr 16 - 21 oed 1/3 oddi ar bris eu tocyn i deithio ar fws cyhoeddus.

Bysiau ysgol
Myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth

Unrhyw gwestiynau?

Mae tîm ein Gwasanaethau i Ddysgwyr yma i roi cyngor, gwybodaeth ac arweiniad i’ch plentyn a hefyd i ateb eich cwestiynau fel rhiant/gwarcheidwad. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â ni.

  • Coleg Llandrillo (campysau Llandrillo-yn-Rhos, Y Rhyl ac Abergele)
    • Ffôn: 01492 542 338
  • Coleg Menai (campysau Bangor, Llangefni a Pharc Menai )
    • Ffôn: 01248 383 333
  • Coleg Meirion-Dwyfor (campysau Dolgellau a Phwllheli)
    • Ffôn: 01341 422 827
  • Coleg Glynllifon Ffôn: 01286 830 261

Neu, anfonwch ebost i ymholiadau@gllm.ac.uk.