Cludiant Coleg
Mae gan y Grŵp gampysau ledled Gogledd Cymru ac yn darparu sawl ffordd o ddanfon a chodi myfyrwyr o'u prif safle astudio.
Os ydych yn fyfyriwr Addysg Bellach llawn amser sydd:
- yn iau na 19 mlwydd oed ar 31 Awst 2022,
- yn byw yn siroedd bwrdeistrefol Conwy, Dinbych, Môn neu Wynedd ac
- yn byw dros dair milltir o gampws y Coleg yr ydych yn ei fynychu,
...yna byddwch yn gymwys i gael tocyn bws am ddim i'ch galluogi i deithio yn ôl ac ymlaen i'ch capws agosaf ar fysiau a ddarperir gan y Cyngor.
I gael gwybod mwy am gludiant i'ch coleg, cliciwch ar y dolenni isod.
Gwybodaeth cludiant Coleg Llandrillo

Dewch i wybod mwy am gludiant Coleg Llandrillo
Gwybodaeth cludiant Coleg Meirion-Dwyfor

Dewch i wybod mwy am gludiant Coleg Meirion-Dwyfor
Gwybodaeth cludiant Coleg Menai

Gall pob myfyriwr brynu tocyn bws Arriva am bris gostyngol, sef £14.50 yr wythnos ar hyn o bryd. Mae modd prynu'r rhain ar y bws drwy ddangos tocyn bws dilys neu gerdyn ID myfyriwr, neu gellir eu prynu bob tymor neu bob blwyddyn oddi ar wefan Arriva ar www.arrivabus.co.uk/students.
Mae rhagor o ostyngiadau ar gael ar y ddolen ganlynol https://mytravelpass.gov.wales/cy/. Mae'n cynnig traean yn rhagor oddi ar gost teithio ar fws cyhoeddus i fyfyrwyr o dan 21 oed.
Am arosfannau bysiau ac amseroedd i Goleg Llandrillo cliciwch yma.
Teithio mewn car
Mae cyfleusterau parcio i'w cael ar bob un o brif gampysau'r Grŵp, ac ni chodir tâl arnoch am barcio. Ar gampws Llandrillo-yn-Rhos ceir tri phwynt gwefru trydan y gall y staff a'r myfyrwyr eu defnyddio am ffi o 25c y kWh (i ddefnyddio'r cyfleuster hwn bydd angen i chi lawrlwytho'r ap Electric Blue).
Teithio ar fws y coleg
Cod Ymddygiad Teithio Coleg:
- Ni fydd ymddygiad gwrthgymdeithasol a drwg ar gludiant coleg yn cael ei oddef. Bydd troseddwyr cyson a/neu ddifrifol yn colli eu hawl i deithio ar holl gludiant y coleg.
- Bydd y coleg yn monitro ymddygiad ar fysiau ac yn dilyn gweithdrefnau disgyblu'r coleg lle bo angen.