Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cludiant

Tocyn Teithio

Mae Grŵp Llandrillo Menai yn darparu cludiant i'ch campws agosaf ar fysiau'r coleg.

I gael gwybod rhagor am lwybrau'r bysiau a ble maent yn stopio, ewch i:

Bws mini a bws tu allan i gampws Glynllifon

Beth sydd angen i chi ei wybod cyn mynd ar y bws

Bydd angen i chi ddangos eich cerdyn adnabod i deithio ar y bws. Peidiwch â phoeni! Yn ystod eich dyddiau cyntaf yn y coleg, cewch fynd ar y bws heb ddangos eich cerdyn adnabod. Dylai dysgwyr sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a ddarperir gan y cyngor ddangos y llythyr y maent wedi ei gael.

Y Cod Ymddygiad ar gyfer Teithio ar Wasanaethau Cludiant y Coleg

Ni oddefir ymddygiad drwg a gwrthgymdeithasol ar gerbydau'r coleg. Bydd y rhai sy'n troseddu'n gyson ac/neu'n ddifrifol yn colli eu hawl i deithio ar gerbydau'r coleg.

Bydd y coleg yn monitro'r ymddygiad ar y bysiau, gan roi trefnau disgyblu'r coleg ar waith os bydd angen.

Mae'r Cod Ymddygiad hwn yn adlewyrchu canllawiau Llywodraeth Cymru a gall newidiadau i ganllawiau cenedlaethol effeithio arno.

Er mwyn sicrhau diogelwch pawb, rhaid i ddysgwyr sy'n defnyddio cludiant y coleg gytuno â'r canlynol:
  1. Rhaid i ddysgwyr sydd â hawl i bàs bws fod â'u pàs yn eu meddiant bob amser, gan ei ddangos bob tro y gofynnir iddynt wneud hynny. Oni fyddant yn gwneud hynny, gellir gwrthod iddynt deithio ar y bws neu codir tâl arnynt.
  2. Disgwylir i ddysgwyr barchu hawliau pobl eraill sy'n defnyddio'r bws, ac ni oddefir unrhyw aflonyddu neu fwlio.
  3. Ni chaniateir ysmygu ar gerbydau'r coleg.
  4. Ni ddylai dysgwyr yfed alcohol na bod o dan ddylanwad alcohol nac unrhyw sylweddau eraill ar gerbydau'r coleg.
  5. Ni ddylai dysgwyr ddifrodi na difwyno unrhyw gerbyd.

Mae gan yrrwr y bws awdurdod llwyr ar fws y coleg. Bydd peidio â dilyn ei gyfarwyddiadau'n cael ei ystyried yn drosedd ddifrifol.

Bwsus Arriva wedi parcio

Bysiau Arriva

Gellir prynu pàs bws Arriva o'r coleg. Cysylltwch â'r Gwasanaethau i Ddysgwyr i gael rhagor o wybodaeth.

Pwy i gysylltu â nhw os oes gennych gwestiynau am fysiau'r coleg

Os oes gennych unrhyw gwestiynau'n ymwneud â chludiant, anfonwch neges e-bost i cludiant@gllm.ac.uk.