Llandrillo-yn-Rhos

Campws Llandrillo-yn-Rhos yw campws mwyaf Grŵp Llandrillo Menai.

Ymhlith y cyfleusterau mae ffreutur sy’n gweini coffi Starbucks, dau gaffi, dau fwyty hyfforddi, llyfrgell, gweithdy TG, salonau gwallt a harddwch, canolfan chwaraeon sy’n cynnwys campfa, maes chwarae 3G, y Ganolfan Forol ac Amgylchedd Adeiledig (MBEC) a’r Sefydliad Iechyd a Gofal.

Mae Canolfan Brifysgol Coleg Llandrillo (UCCL) wedi'i lleoli ar y campws hefyd. Yn y Ganolfan, ceir theatrau darlithio ac ystafelloedd seminar, yn ogystal ag adnoddau llyfrgell arbenigol, cyfleusterau TG a mannau astudio.

Datblygwyd y Ganolfan Brifysgol yn rhan o bartneriaeth strategol gyda Phrifysgol Bangor ac mae ynddi gyfleusterau dysgu ac addysgu ychwanegol penigamp i fyfyrwyr Addysg Uwch y Grŵp.

Lleoliad y Campws


Ffordd Llandudno
Llandrillo-yn-Rhos
LL28 4HZ

01492 546 666

Llywio i'r lleoliad hwn:



Cyfeiriad 'what3words'     ///solar.slices.firm