Digwyddiad i Ddod i Wybod Rhagor am Addysg Uwch
Oeddet ti'n gwybod bod yna ddewis helaeth o gyrsiau gradd ar gael yma yn y coleg?
Os wyt ti'n gorffen cwrs Lefel A neu gwrs Lefel 3 eleni, ac yn awyddus i gymryd y cam nesaf i'r brifysgol, neu os wyt ti'n ddysgwr mwy aeddfed sy'n awyddus i newid gyrfa neu gael dyrchafiad, mae gennym gwrs lefel prifysgol sy'n addas i ti.
Golyga ein dosbarthiadau bychan na fyddi'n cael dy anghofio yng nghanol llu o fyfyrwyr eraill - ac y bydd gan ein staff arbenigol fwy o amser i roi cefnogaeth i ti. A chyda amserlenni cyfleus, cyrsiau lleol ac ystod eang o gymorth ariannol ar gael, fu yna erioed amser gwell i ddechrau ar bennod nesaf dy addysg.
Yn ystod y digwyddiad byddi di'n gallu:
- Dysgu am y gwahanol fathau o gyrsiau lefel prifysgol sydd ar gael, yn cynnwys graddau, graddau sylfaen a Thystysgrifau a Diplomau Cenedlaethol Uwch (HND a HNC). Gweld ein holl gyrsiau gradd.
- Dod i wybod am yr ystod o gymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr, yn cynnwys benthyciadau a bwrsarïau. Ceir gwybodaeth fanwl ar ein tudalen cymorth ariannol.
- Siarad â'n tiwtoriaid cyfeillgar a chael teimlad o sut beth fyddai astudio yma.