Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Tystysgrif Estynedig Genedlaethol BTEC Lefel 3 mewn Chwaraeon

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    2 flynedd: Blwyddyn 1 Tystysgrif / Blwyddyn 2 Tystysgrif Estynedig.

Gwnewch gais
×

Tystysgrif Estynedig Genedlaethol BTEC Lefel 3 mewn Chwaraeon

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Wyt ti'n gwneud cais am fwy nag un pwnc Safon Uwch? Gelli di wneud cais o'r dudalen hon a bydd cyfle i ti ychwanegu pynciau Safon Uwch eraill ar ddiwedd y broses ymgeisio.

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Ydych chi'n hoffi cymryd rhan mewn chwaraeon? Ydych chi'n awyddus i ddatblygu'ch perfformiad? Hoffech chi feithrin gwybodaeth academaidd fanwl ym maes chwaraeon?

Ar y cwrs hwn byddwch yn dod i ddeall beth sydd y tu ôl i berfformio ar y lefel uchaf drwy astudio meysydd megis hyfforddi, maetheg ac anafiadau.

Drwy gydol y cwrs byddwch yn elwa ar brofiad ymarferol staff chwaraeon y Grŵp a chyfleusterau chwaraeon/clybiau. Bydd hyn yn eich galluogi i roi ar waith yr hyn a ddysgwch yn yr ystafell ddosbarth. Byddwch yn meithrin y wybodaeth ac yn magu'r hyder a'r sgiliau arwain fydd eu hangen arnoch i ddechrau ar yrfa neu symud ymlaen i Addysg Uwch.

Gofynion mynediad

6 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf Dylech hefyd feddu ar gymhwyster Mathemateg/Rhifedd gradd D neu uwch.

Fel rhan o'r broses ymgeisio, bydd gofyn i chi ddod i gyfweliad ble cewch gyfle i drafod y cwrs.

Mae dilyniant i'r Dystysgrif Estynedig yn seiliedig ar eich perfformiad yn ystod blwyddyn 1 wrth astudio ar gyfer y Dystysgrif.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs fel a ganlyn:

  • Gwaith grŵp
  • Dysgu yn y dosbarth a gwaith yn y labordy
  • Cefnogaeth tiwtor
  • Sgiliau ymarferol
  • Ymweliadau addysgol
  • Google classroom (amgylchedd dysgu rhithwir)

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o'r canlynol: will include a combination of:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ail-sefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru

Asesiad

Mae'r cwrs yn gyfuniad o dasgau a gaiff eu hasesu yn fewnol ac yn allanol.

Dilyniant

Os gwnewch gwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gennych amryw o ddewisiadau o ran addysg a gwaith.

Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o raglenni yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:

  • Gradd Sylfaen (FdSc) Gwyddor Chwaraeon (Hyfforddi ym maes Chwaraeon)
  • Gradd Sylfaen (FdSc) Gwyddor Chwaraeon (Addysg Awyr Agored)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Mynediad i Addysg Uwch
  • Lefel AS/A
  • Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored

Mynediad i Addysg Uwch

Dysgwr addysg uwch yn astudio

Lefel AS/A

Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored

Myfyriwr yn chwarae rygbi