Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Y Rhyl
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn

Gwnewch gais
×

Therapi Harddwch Lefel 1/2

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

  • Oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio yn y diwydiant harddwch?
  • Hoffech chi gael cyfle i feithrin amrywiaeth o sgiliau proffesiynol yn y maes hwn?

⁠Os ateboch yn gadarnhaol i'r ddau gwestiwn uchod, yna gallai'r cwrs hwn fod yn llwybr delfrydol i chi gyrraedd y nod.

Bydd y cymhwyster hwn yn eich galluogi i wella golwg y dwylo a’r traed gyda thechnegau a thriniaethau ewinedd. Byddwch hefyd yn dysgu sut i roi triniaethau tylino pen, triniaethau glanhau, tynhau a lleithio, a byddwch yn dysgu sut i roi cyngor ar ofal croen a defnyddio colur. Byddwch hefyd yn dysgu sgiliau ymdrin ag elfennau artistig a chreadigol ar y cwrs; fel celf ewinedd, paentio wynebau thematig a cholur ffotograffig.

Byddwch yn datblygu gwybodaeth gadarn o arferion iechyd a diogelwch ac yn datblygu gwybodaeth greiddiol am ddyletswyddau derbynfa salon, arddangosfeydd manwerthu a gweithio gydag eraill.

Trwy gydol y cwrs hwn byddwch yn datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o anatomeg a ffisioleg berthnasol, iechyd a diogelwch, gofal cleientiaid a chynhyrchion ac offer harddwch cosmetig. Byddwch hefyd yn datblygu ystod o sgiliau technegol fydd yn eich galluogi i ddarparu amrywiaeth o driniaethau gan ddefnyddio gwahanol dechnegau, gan gynnwys datblygu sgiliau rhyngbersonol a fydd yn eich cynorthwyo i gyfathrebu'n effeithiol â chleientiaid.

Bydd rhan gyntaf y rhaglen yn rhedeg o fis Medi hyd at hanner tymor mis Chwefror, gyda’r nod o gyflawni Diploma Lefel 1 VTCT mewn Therapi Harddwch. ⁠

  • ⁠O fewn hwn byddwch yn ymdrin â'r pynciau canlynol
  • Dilyn rheolau iechyd a diogelwch yn y salon
  • Cyflwyniad i’r sector gwallt a harddwch
  • Darparu triniaethau i'r ewinedd
  • Darparu triniaethau i'r traed
  • Dyletswyddau derbynfa Salon
  • Gofalu am groen yr wyneb
  • Y grefft o goluro ffotograffig
  • Paentio wyneb thematig
  • Gweithio gydag eraill yn y sector harddwch
  • Rhoi colur
  • Creu delwedd gwallt a harddwch
  • Defnyddio celf ewinedd
  • Cyfleu delwedd broffesiynol mewn salon.

Bydd ail ran y rhaglen yn rhedeg o fis Chwefror gan anelu i orffen erbyn diwedd Mehefin, gyda’r nod o gyflawni'r canlynol:

  • Dyfarniad NVQ Lefel 2 VTCT mewn triniaethau Aeliau a Blew'r Amrannau
  • ⁠Dyfarniad Lefel 2 VTCT mewn Technegau Farnis Gel
  • Dyfarniad NVQ Lefel 2 VTCT mewn Colur

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Gymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll arholiadau TGAU

Gall hyn gynnwys cyfuniad o gymwysterau Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol. Efallai y bydd cyfle hefyd i ailsefyll TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Iaith Gymraeg/Saesneg.

Ar ôl cwblhau'r Diploma lefel 1 a'r unedau lefel 2, bydd gennych y dewis i ddatblygu eich sgiliau mewn llwybr arbenigol trwy ymgymryd ag astudiaethau pellach ar lefel 2, neu i chwilio am waith. Gall cael gwaith roi rhagor o gyfleoedd i chi ennill sgiliau a chymwysterau wrth weithio yn y diwydiant.

I’r rhai sy’n ystyried hunangyflogaeth yn y dyfodol, rydym hefyd yn cynnig y cyfle i ymuno â’r gweithdai canlynol drwy gydol y flwyddyn.

  • Gweithdy Menter
  • Gweithdy Materion Ariannol

Byddwch yn gweithio â Thiwtor Personol a fydd yn eich helpu i drefnu'ch astudiaethau ac yn eich cyfarfod o leiaf unwaith yr wythnos.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn, byddwch angen parodrwydd i ddysgu, mae hunan-gymhelliant a sgiliau trefnu da yn angenrheidiol, yn ogystal ag o leiaf un o'r canlynol:

  • 2 TGAU gradd D neu uwch
  • Bydd disgwyl i chi ddangos eich ymrwymiad i ddysgu trwy gyflawni'ch graddau targed yn eich arholiadau TGAU a chael presenoldeb da ym mlwyddyn 11.
  • Cwblhau'n llwyddiannus un o’r rhaglenni hyn: Hyfforddeiaeth, Cyn-alwedigaethol, Llwybrau Dysgu neu Gyswllt Ysgolion
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Os nad ydych yn siŵr a ydych yn bodloni'r gofynion mynediad, neu os hoffech drafod y gofynion mynediad hyn ymhellach, cysylltwch â'r gwasanaethau cymorth dysgu un ai'n uniongyrchol neu trwy'r cyfleuster sgwrsio. Bydd staff y gwasanaethau i ddysgwyr yn gallu trafod eich proffil gyda chi a rhoi cyngor ar y cyrsiau sydd ar gael.

Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu lyfr Chrome y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un. Cysylltwch â'r tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr am ragor o wybodaeth.

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad gyda'r Tiwtor Personol fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs ymhellach.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:

  • Gwersi Ymarferol
  • Sesiynau Theori
  • Gweithdai
  • Hyfforddiant mewn Salon Fasnachol
  • Google classroom (amgylchedd dysgu rhithwir)

Asesiad

Ar gyfer y cymwysterau yma, mae gofyn i chi gynhyrchu portffolio tystiolaeth. Bydd y portffolio'n cadarnhau'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau yr ydych wedi'u dysgu. Gall hyn gynnwys amrywiaeth o'r canlynol:

  • Gwaith a arsylwyd
  • Datganiadau gan dystion⁠
  • Cyfryngau clyweledol
  • Tystiolaeth o ddysgu neu gyrhaeddiad blaenorol - cwestiynau ysgrifenedig
  • Cwestiynau llafar
  • Aseiniadau
  • Astudiaethau achos
  • Arholiadau ar-lein

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, bydd gennych gymhwyster a set o sgiliau gwerthfawr a fydd yn help i chi fynd ymlaen i swydd neu i barhau â'ch addysg.

Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o gyrsiau yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:

  • Therapi Harddwch Lefel 2
  • Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Therapi Harddwch

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 1+2

Maes rhaglen:

  • Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dwyieithog:

Mae mwyafrif y deunyddiau dysgu yn ddwyieithog ac mae cyfleoedd i chi ddatblygu eich sgiliau Cymraeg wrth gwblhau'r cwrs hwn.

Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Trin Gwallt a Therapi Harddwch