Prentisiaeth - Gwaith Barbwr Lefel 3
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu Seiliedig ar Waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
78 wythnos (18 mis)
Prentisiaeth - Gwaith Barbwr Lefel 3Prentisiaethau
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r fframwaith prentisiaeth hwn yn darparu llwybr seiliedig ar waith i gyflogaeth yn y diwydiant gwaith barbwr drwy ddefnyddio cymwysterau sy'n cyfuno sgiliau a gwybodaeth.
Bydd y Diploma NVQ Lefel 3 mewn Gwaith Barbwr yn galluogi barbwyr newydd i ddatblygu eu sgiliau creadigol.
Gofynion mynediad
- Rhaid i chi feddu ar gymhwyster cyfwerth â NVQ Lefel 2 mewn Gwaith Barbwr neu Drin Gwallt neu brofiad diwydiannol perthnasol
- Mae'n rhaid bod gennych gyflogwr sy'n gallu bodloni meini prawf yr NVQ neu gallwn eich cefnogi i ddod o hyd i gyflogwr
- Rhaid i chi fod yn frwdfrydig, yn ymroddedig ac yn barod i ddysgu
- Rhaid i chi fod yn berson gofalgar a digynnwrf
- Bydd yn ofynnol i chi ddod i gyfweliad
Cynigir llefydd yn amodol ar gyfweliad boddhaol a bodloni gofynion cwsmeriaid
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs yn y gweithle. Fodd bynnag, bydd Dysgwyr Seiliedig ar Waith yn cael cyfleoedd i fynychu coleg ar gyfer:
- Uwchsgilio gwersi ymarferol a gwersi theori
- Sesiynau masnachol
- Arddangosiadau
Os oes angen, bydd rhaid i chi fynychu sesiynau Cymwysterau Sgiliau Hanfodol ar safle coleg sy'n gyfleus i chi.
Asesiad
Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Cwblhau Portffolio Electronig o asesiadau ymarferol ar gyfer aseiniadau a thasgau pob uned
- Profion amlddewis ar y wybodaeth greiddiol (Arholiadau Ar-lein) Tasgau a phrofion seiliedig ar theori
- Arsylwadau ac Asesiadau Seiliedig ar Waith
- Bydd eich ymddygiad yn cael ei asesu hefyd, o ran aeddfedrwydd, datblygiad, rhyngweithio a chyfathrebu
Dilyniant
Mae'r NVQ Lefel 3 yn rhoi cymhwyster gwerthfawr i chi a bydd yn eich helpu i symud ymlaen i'r cyfeiriad cywir tuag at yrfa heriol. Byddwch yn gallu ymgeisio am gyfrifoldebau ychwanegol yn eich gweithle, ac efallai y byddwch yn gallu gweithio mewn rôl oruchwylio neu reoli.
Bydd y cwrs hefyd yn eich paratoi i astudio ar lefel uwch. Gallech barhau i astudio a symud ymlaen i addysg uwch yn y maes rheoli salon.
Mae'n bosibl symud ymlaen i gyrsiau Trin Gwallt eraill hefyd.
Gwybodaeth campws Dysgu Seiliedig ar Waith
Rhaid i ymgeiswyr gwblhau pob un o'r 4 uned orfodol sy'n gwneud cyfanswm o 40 credyd ac unedau dewisol i isafswm o 26 credyd i roi cyfanswm cyffredinol o 66 credyd i gyflawni'r cymhwyster llawn.
UNEDAU GORFODOL
- Darparu gwasanaethau ymgynghori â chleientiaid - 8 credyd (3 chredyd Cymhwysedd a 5 credyd Gwybodaeth)
- Darparu gwasanaethau eillio - 11 credyd (5 Cymhwysedd 6 Gwybodaeth)
- Dylunio a chreu amrywiaeth o siapiau â gwallt yr wyneb - 7 credyd (3 Cymhwysedd 4 Gwybodaeth)
- Torri gwallt yn greadigol gan ddefnyddio cyfuniad o dechnegau gwaith barbwr - 14 credyd (8 Cymhwysedd 6 Gwybodaeth)
UNEDAU DEWISOL
- Darparu amrywiaeth o wasanaethau ymlacio - 9 credyd (5 Cymhwysedd 4 Gwybodaeth)
- Dylunio a chreu patrymau mewn gwallt - 12 credyd (6 Cymhwysedd 6 Gwybodaeth)
- Gwasanaethau cywiro lliw gwallt 15 credyd (7 Cymhwysedd 8 Gwybodaeth)
- Datblygu, gwella a gwerthuso eich sgiliau trin gwallt creadigol - 9 credyd (4 Cymhwysedd 5 Gwybodaeth)
- Darparu triniaethau gwallt a chroen pen arbenigol - 12 credyd (4 Cymhwysedd 8 Gwybodaeth)
- Pyrmio a niwtraleiddio gwallt - 10 credyd (5 credyd Cymhwysedd a 5 credyd Gwybodaeth)
- Lliwio a goleuo gwallt dynion - 14 credyd (6 chredyd Cymhwysedd ac 8 credyd Gwybodaeth)
- Cyfrannu at gynllunio a rhoi gweithgareddau hyrwyddo ar waith - 10 credyd (3 Cymhwysedd 7 Gwybodaeth)
- Cyfrannu at effeithiolrwydd ariannol y busnes - 7 credyd (4 Cymhwysedd 3 Gwybodaeth)
- Cyflawni dyletswyddau derbynfa salon - 6 chredyd (4 credyd Cymhwysedd a 2 gredyd Gwybodaeth)
Unedau Sgiliau Hanfodol ychwanegol: (Os ydych eisoes wedi ennill cymhwyster cyfwerth, mae'n rhaid cael prawf o hynny)
- Cyfathrebu Lefel 2 2
- Cymhwyso Rhif Lefel 2 2
- Llythrennedd Digidol Lefel 1
Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogaeth (ERR)
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiaethau
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Dwyieithog:
Darpariaeth ddwyieithog ar gael
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Trin Gwallt a Therapi Harddwch