Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cwestiynau Cyffredin mewn perthynas ag Addysg Uwch

Cwestiynau Cyffredin mewn perthynas ag Addysg Uwch

Diweddariad diwethaf: 29/09/2020

Am gwestiynau cyffredin cyffredinol a chadw'n ddiogel ar y campws, ewch i'r adran hon.

Am gwestiynau cyffredin am gyrsiau sy'n cael eu dysgu o bell am fod dysgwr neu aelod o staff wedi cael prawf positif, ewch i'r dudalen hon.

Fydd yna raglen gynefino i fyfyrwyr newydd?
Bydd. Cewch gyfle i gwrdd â'r myfyrwyr eraill a thiwtoriaid y cwrs yn ystod y sesiwn cynefino a gynhelir ar y safle. Yn ogystal, cewch eich cyflwyno i'r amrywiaeth o bodlediadau ac adnoddau digidol sydd ar gael i'ch gwneud yn gyfarwydd â safle'r coleg a'i wasanaethau.

Pa gyfleoedd fydd yna i mi gael cymryd rhan mewn clybiau a chymdeithasau?
Mae Ffair y Glas yn cael ei chynnal ar-lein. Yn ystod y flwyddyn, bydd cyfleoedd i chi ymgysylltu â llawer o sefydliadau allanol a all fod o ddiddordeb i chi.

Fydd yna addysgu wyneb yn wyneb yn digwydd ar y safle?
Byddwn yn cefnogi'r dysgwyr i ymgysylltu'n effeithiol â'u rhaglen astudio, ac i sicrhau eu bod yn derbyn profiadau dysgu ac addysgu o'r ansawdd uchaf.

Yn unol â chyngor Llywodraeth Cymru, rydym wedi cynllunio hyd y gallwn ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd, gan ddechrau gyda chyfuniad o ddarpariaeth ar y safle ac ar-lein o fis Medi ymlaen.

Bydd faint o'r ddarpariaeth fydd yn digwydd ar-lein neu ar y safle'n dibynnu ar nifer o bethau:

  • faint o'ch cwrs penodol chi sy'n cynnwys darlithoedd mawr, tiwtorialau, sesiynau grŵp a sesiynau ymarferol.
  • y rheolau a'r canllawiau y bydd angen i ni gydymffurfio â hwy mewn perthynas â Covid-19 yn ystod y flwyddyn academaidd.

Os bydd elfennau o'r addysgu'n digwydd ar-lein, a fydd rhaid i mi dal dalu'r ffi dysgu llawn?
Bydd myfyrwyr yn talu'r ffi dysgu llawn a gyhoeddwyd ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu profiadau dysgu ac addysgu o'r radd flaenaf i fyfyrwyr AU Grŵp Llandrillo Menai ac edrychwn ymlaen at groesawu'r myfyrwyr i'n safleoedd hyd y gallwn.

Alla i ddefnyddio'r llyfrgelloedd a'r canolfannau dysgu?
Gallwch. Bydd y Llyfrgelloedd a'r Canolfannau Astudio'n agored i'r dysgwyr eu defnyddio ond rhaid iddynt gadw at y mesurau cadw pellter cymdeithasol. Ceir cefnogaeth hefyd ar sianel YouTube y llyfrgell a'r wefan Sgiliau Astudio sy'n cynnwys adnoddau i'ch helpu gyda'ch sgiliau ymchwilio ac ysgrifennu aseiniadau.

Oes yna gefnogaeth ar gael i'm helpu i gael mynediad i'm hadnoddau dysgu ar-lein?
Oes. Os oes angen cymorth arnoch i gael mynediad i'ch adnoddau dysgu ar-lein o adref, cysylltwch ag un o'r llyfrgelloedd.

Pa gefnogaeth a thechnoleg TG sydd ar gael?
Mae'n bosibl y gall myfyrwyr nad oes ganddynt gyfrifiadur i'w ddefnyddio yn eu cartrefi gael benthyg dyfeisiau TGCh. Cysylltwch â'r llyfrgell i gael rhagor o wybodaeth.

Fydd y gwasanaethau cefnogi lles ar gael i mi tra byddaf yn dysgu ar-lein?
Bydd. Bydd yr holl wasanaethau cefnogi ar gael ar y campysau ac ar-lein. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr gan Fentoriaid, Ymgynghorwyr a Chwnselwyr. Er mwyn rhoi hyblygrwydd i chi gallwch ddefnyddio'r gwasanaethau hyn o bell hefyd, ar y ffôn, drwy e-bost neu'n ddigidol. Os hoffech ddefnyddio unrhyw un o'r gwasanaethau hyn, anfonwch neges e-bost i staysafe@gllm.ac.uk.

A fydd Covid-19 yn effeithio ar fy nghais am fenthyciad gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr?
Na. Gall ymgeiswyr o wledydd y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd sy'n dechrau yn y coleg ym Medi 2020 wneud cais am gyllid myfyrwyr yn ôl yr arfer. Cewch ragor o wybodaeth drwy ddilyn y ddolen hon.

Fydd teithio dramor yn effeithio ar fy ngallu i astudio?
Bydd myfyrwyr sy'n gorfod teithio o wledydd tramor yn derbyn cyngor sy'n berthnasol i breswylwyr neu ymwelwyr sy'n teithio i'r DU o wledydd tramor (dod i'r DU) ac i Gymru (Teithio: coronafeirws).

Ar adeg ysgrifennu'r canllawiau hyn, gofynnir i breswylwyr neu ymwelwyr sy'n teithio i Gymru hunanynysu am 14 diwrnod. Mae'r rhestr gyflawn o wledydd nad oes angen i deithwyr hunanynysu ar ôl ymweld â hwy i'w chael yn y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) 2020.

Sut alla i gael y wybodaeth ddiweddaraf am fy nghwrs a'r hyn sy'n digwydd yn y coleg?
Bydd eich tiwtoriaid a'ch Arweinydd Rhaglen yn rhoi trosolwg i chi ar Moodle, yr amgylchedd dysgu rhithwir sy'n cynnwys manylion am eich cwrs. Bydd pob myfyriwr israddedig yn cael cyfrif e-bost.

Cadwch olwg ar eich cyfrif e-bost colegol oherwydd dyma sut bydd tiwtoriaid a staff y coleg yn cyfathrebu'n uniongyrchol â chi Ewch i'n gwefan i gael gwybodaeth am ein gwasanaethau ac i gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy'n digwydd.