Rhoi sylw i Fangor
Fel rhan o Grŵp Llandrillo Menai, Coleg Menai yw prif ddarparwr hyfforddiant a sgiliau yng Ngwynedd a Môn.
Mae ein cenhadaeth o ‘Wella Dyfodol Pobl’, yn sicrhau bod y Grŵp yw cefnogi economi Gogledd Cymru drwy roi i bobl leol y sgiliau a'r cymwysterau sy'n angenrheidiol i sicrhau bod y rhanbarth yn gystadleuol a llwyddiannus.
Dr Siôn Peters-Flynn, Pennaeth - Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Menai

Llwyddiant Dysgwyr
Ochr yn ochr â llwyddiant yng nghystadlaethau WorldSkills, mae ein myfyrwyr yn cael canlyniadau rhagorol yn eu cyrsiau Safon Uwch a galwedigaethol – gan symud ymlaen i astudiaethau pellach neu i gyflogaeth.
Y tu hwnt i'w hastudiaethau, mae cyfleoedd i'n myfyrwyr feithrin sgiliau a chael profiadau newydd. Mae hyn yn cynnwys cymryd rhan mewn pob math o gystadlaethau lleol a chenedlaethol ac ymweld â gwledydd tramor.
Uchafbwynt y flwyddyn yn y Coleg yw'r seremoni flynyddol i wobrwyo’r myfyrwyr hynny sydd wedi rhagori yn eu hastudiaethau a'u gweithgareddau allgyrsiol.

Taith arbennig i Japan
Aeth myfyrwyr o adran Trin Gwallt, Coleg Menai, ar ymweliad â Tokyo a Nagoya i ddysgu am ddiwylliant Japan a diwydiant gwallt a harddwch y wlad.

Gwaith celf Mali a Cadi yn cael ei arddangos yn Llundain
Ar ôl cwblhau eu cyrsiau yng Ngholeg Menai'r haf hwn, mae darnau gan y ddwy wedi'u dewis ar gyfer arddangosfeydd anrhydeddus.

Brooke a Kayleigh yn ennill rownd derfynol y Deyrnas Unedig mewn cystadleuaeth trin gwallt bwysig
Enillodd Brooke Williams, myfyrwraig o Goleg Menai, a Kayleigh Blears, anrhydeddau cenedlaethol gyda'u steiliau gwallt ar thema stori dylwyth teg yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn - Gwallt Cysyniadol

Anna a Ffion yn derbyn cydnabyddiaeth yng ngwobrau 'It's My Shout'
Mae myfyrwyr Coleg Menai, Anna Walker a Ffion Jones, wedi ennill gwobrau am eu rhannau mewn ffilmiau a ddangoswyd ar deledu cenedlaethol.

'Profiad anhygoel' Mabli yn gweithio ar Beetlejuice Beetlejuice
Bu’r cyn-fyfyriwr o Goleg Menai yn helpu i greu darnau corff prosthetig a phropiau ar gyfer ffilm Tim Burton, ac mae hefyd wedi gweithio ar ddwy raglen deledu Star Wars.

Dysgwyr Celfyddydau Creadigol yn rhannu eu creadigaethau

Dathlu canlyniadau rhagorol yng Ngrŵp Llandrillo Menai
Y bore 'ma mae dysgwyr wedi llwyddo i ennill 2,600 o gymwysterau yn eu cyrsiau galwedigaethol lefel 3 a Safon Uwch.

Dysgwyr Grŵp Llandrillo Menai yn rowndiau terfynol Worldskills UK
Myfyrwyr a phrentisiaid o Goleg Menai a Busnes@LlandrilloMenai i gystadlu yn rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK a SkillBuild ym mis Tachwedd

Noson wobrwyo Coleg Menai yn cydnabod dysgwyr rhagorol
Cynhaliodd y coleg Seremoni Gwobrwyo Cyflawnwyr 2024/25 ar ei gampws ym Mangor i ddathlu llwyddiant y myfyrwyr hynny sydd wedi dangos rhagoriaeth yn ystod y flwyddyn.
Cyfleusterau o'r Radd Flaenaf
Mae buddsoddiad diweddar gwerth dros £65 miliwn yn sicrhau cyfleoedd i'n myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau mewn cyfleusterau o'r radd flaenaf – gan gynnwys canolfannau peirianneg, cyfleusterau chwaraeon a champws newydd sbon ym Mangor.
Mae campws newydd Bangor ym Mharc Menai yn enghraifft wych o'r hyn mae'r coleg yn ei gynnig i fyfyrwyr – gan roi cyfleoedd iddynt ddatblygu eu sgiliau mewn amgylcheddau gwaith go iawn sy'n eu paratoi ar gyfer cyflogaeth.

Campws Newydd Coleg Menai yn cael ei agor
Cafodd campws newydd Coleg Menai ym Mangor ei agor yn swyddogol yr wythnos diwethaf gan Vikki Howells AS, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch.

Canolfan Chwaraeon o'r Radd Flaenaf yn Agor yn Llangefni
Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi agor eu hadeilad carbon Net-Sero cyntaf - sef canolfan chwaraeon newydd sbon o'r radd flaenaf

Treial cyffrous o feddalwedd gweithgynhyrchu Deallusrwydd Artiffisial (AI) yng Ngholeg Menai
Profodd myfyrwyr peirianneg AI plug-in CAM Assist ar gampws Llangefni a rhoi adborth i ddatblygwyr ar sut y gellid ei ddefnyddio mewn addysg.
Effaith Gymunedo
Fel cyflogwr pwysig yn yr ardal leol, mae gan y coleg bartneriaethau cryf â rhanddeiliaid a diwydiannau lleol ac mae'n arwain ym maes datblygu’r economi.
Mae campysau Tŷ Cyfle hefyd yn ein helpu i gael effaith wirioneddol ar ein cymuned leol drwy gynnig amrywiaeth eang o gyrsiau i oedolion sy'n eu helpu i ddychwelyd i addysg neu gyflogaeth.

Agor Canolfan Dysgu Cymunedol ar Stryd Fawr Bangor
Mae Tŷ Cyfle yn darparu cyrsiau rhan-amser a chyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim i drigolion Bangor a'r cyffiniau.

Prosiect newydd sy'n cynnig hyfforddiant 'gwyrdd' i fusnesau yng Ngwynedd a Môn
Mae prosiect yn cael ei lansio i gynnig hyfforddiant 'gwyrdd' a ariennir yn llawn i helpu unigolion a busnesau yng Ngwynedd a Môn i gymryd camau ymarferol tuag at ddyfodol carbon isel.

Babcock a Grŵp Llandrillo Menai yn ehangu Hyfforddiant Arbenigol yn RAF y Fali
Mae cytundeb newydd i gynyddu'r ddarpariaeth o hyfforddiant awyrennol yn RAF y Fali ar fin sicrhau manteision gwirioneddol i staff Babcock sy'n gweithio yn y ganolfan.