Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Peiriannydd Meddalwedd

Gweithio'n agos gydag Staff Uwch y Gwasanaethau TGCh i gyflawni'r dyletswyddau canlynol:

1.

a) Gwaith gosod, ffurfweddu, integreiddio, cefnogi a chynnal a chadw a chreu delweddau ar gyfer systemau cyfrifiadurol bwrdd gwaith a rhith weinyddion

b) Darparu cefnogaeth a bod yn gyfrifol am osodiadau, ffurfweddu, a chynnal a chadw cymwysiadau ar draws rhwydwaith y grŵp, a systemau arunig yn ôl y galw

c) Darparu cefnogaeth a bod yn gyfrifol am osod, ffurfweddu, cynnal a chadw systemau gweithredu a chymwysiadau arunig yn ôl y gofyn

d) Bod yn gyfrifol am ddiogelwch cyfrifiaduron personol cleientiaid o ran diogelu ffeiliau a meddalwedd gwrthfeirysau

e) Ymchwilio ac argymell datblygiadau a gwelliannau TGCh addas a allai fod yn fuddiol i'r Grŵp.

f) Darparu cefnogaeth i ddefnyddwyr Academaidd a Gweinyddol ar y cyd ag aelodau staff eraill y Gwasanaethau TGCh

g) Darparu cefnogaeth ar gyfer Dilysu Aml-ffactor

h) Gweithio gydag aelodau staff eraill y Gwasanaethau TGCh i sicrhau bod meddalwedd priodol a chaledwedd perthnasol yn cael eu gosod a'u ffurfweddu i ddiwallu anghenion meysydd Gweinyddol ac Academaidd y Grŵp

i) Cadw dogfennau am weithdrefnau, polisïau, systemau a rhestrau stoc yn gyfredol

j) Darparu hyfforddiant a chefnogaeth i staff TGCh eraill i sicrhau bod prosesau a gweithdrefnau cywir yn cael eu dilyn ar gyfer gosod delweddau ar y rhwydwaith a dyfeisiau annibynnol

k) Gosod a chynnal a chadw systemau a pholisïau trwyddedu meddalwedd

l) Cysylltu a chyfathrebu â chwmnïau ac unigolion allanol yn ôl y galw

2. Darparu cefnogaeth a gweinyddu a ffurfweddu systemau arholiadau, gweinyddwyr a chleientiaid ar-lein, gan gysylltu â staff y Grŵp a Chyrff Dyfarnu yn ôl yr angen.

3. Darparu cefnogaeth i systemau'r Grŵp e.e. Rhith-amgylchedd Dysgu (VLE), Cyflogres, Cyllid, Llyfrgell, Cofnodion Dysgwyr, Amserlenni, Ebost, gan gynnwys uwchraddio o ochr y cleient. Datrys problemau a chaniatáu/datrys problemau mynediad defnyddwyr ar yr holl feddalwedd a systemau a ddefnyddir gan y Grŵp.

4. Mynychu’r cyrsiau a’r digwyddiadau hyfforddi sy’n angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau’r swydd yn effeithiol;

5. Cyflawni dyletswyddau rhesymol eraill yn ôl y galw.

Manylion Swydd

Cyfeirnod y Swydd

CS/247/24

Cyflog

£37,232.57 - £42,518.91 y flwyddyn. Cymorth Busnes Graddfa 8-9. Pwynt 35-40

Lleoliad Gwaith

  • Llandrillo-yn-Rhos

Hawl gwyliau

  • 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
  • Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
  • Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.

Patrwm gweithio

Parhaol

Llawn Amser

37 awr yr wythnos

Hawliau Pensiwn

Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb

Llawn Amser Parhaol

Dyddiad cau

24 Mai 2024
12:00 YH (Ganol dydd)

Mae ein ffurflen gais ar ffurf PDF. Bydd angen rhaglen megis Adobe Acrobat Reader ar eich cyfrifiadur / dyfais i agor a golygu'r ddogfen hon.

Croesawir ceisiadau Cymraeg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Ffurflen Gais pdf

Sut i wneud cais

Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg; ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol nac yn arwain at unrhyw oedi.

  • Lawrlwythwch eich ffurflen gais a’i chadw ar eich cyfrifiadur/dyfais (e.e. ffolder My Documents neu Downloads).
  • Ewch i'r ffolder sy'n cynnwys y ffurflen gais ac agor y PDF gan ddefnyddio rhaglen megis Adobe Acrobat Reader.
    Peidiwch ag agor y ddogfen yn eich porwr oherwydd efallai na fyddwch yn gallu ei chadw.
  • Llenwch y ffurflen, gan gynnwys y ffurflen monitro cyfle cyfartal.
  • Anfonwch eich ffurflen gais orffenedig i jobs@gllm.ac.uk. Dylid defnyddio teitl y swydd a ymgeisir admdani fel llinell pwnc eich e-bost.

Cysylltwch a ni drwy ebost jobs@gllm.ac.uk os ydych angen cymorth neu os oes gennych ymholiad pellach.

Swyddi eraill

Mae gennym nifer o swyddi eraill gan gyflogwyr mewn busnesau bach a mawr ledled yr ardal. Mae'r cyflogwyr a restrir yma'n awyddus i roi cyfle i'r person ifanc iawn.

Hysbysfwrdd Swyddi Cyflogwyr

Achrediadau Cyflogaeth

Logo Leaders in diversity