Cyd-gysylltydd Ymgysylltu Prosiect Multiply (De Gwynedd)
Rhaglen newydd yw Lluosi i helpu oedolion i fod yn fwy hyderus wrth ddefnyddio rhifau yn eu bywyd bob dydd. Mae’r prosiect yn cynnig mynediad hawdd i ystod eang o gyrsiau mathemateg AM DDIM ar draws Gogledd Cymru. Pwrpas y swydd Bydd yn gyfrifol am gefnogi'r Rheolwr MULTIPLY i farchnata a hybu darpariaeth y prosiect yn ne Gwynedd. Bydd angen gweithio’n gyda cynrychiolwyr o’r awdurdod lleol i adnabod a datblygu cyfleoedd ymgysylltu newydd. Bydd yn gyfrifol am ymgysylltu â rhanddeiliaid cymuned a datblygu rhwydweithiau newydd. Bydd angen cydweithio’n agos gyda’r cyd-gysylltydd cwricwlwm er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth yn cyfarfod ag anghenion partneriaid ac er mwyn sicrhau cyrraedd targedau’r prosiect. Mae'n bosibl y bydd gofyn gweithio gyda'r nos ac ar ddyddiau Sadwrn, ac am hynny rhoddir amser i ffwrdd yn ystod yr wythnos. |
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CMD/235/24
Cyflog
£30,513.97 - £32,557.02 y flwyddyn. Cymorth Busnes Graddfa 6. Pwynt 29 - 31
Lleoliad Gwaith
- Dolgellau
Hawl gwyliau
Bydd gan y rhai ar gontractau Amser Tymor hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod a delir fel rhan o'r cyflog blynyddol. |
Patrwm gweithio
Llawn amser - 37 awr yr wythnos
Dros dro hyd cyfnod y prosiect(31/12/2024)
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Llawn Amser Cyfnod Penodol
Dyddiad cau
09 Mai 2024
12:00 YH
(Ganol dydd)
Lawrlwythiadau
Mae ein ffurflen gais ar ffurf PDF. Bydd angen rhaglen megis Adobe Acrobat Reader ar eich cyfrifiadur / dyfais i agor a golygu'r ddogfen hon.
Croesawir ceisiadau Cymraeg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Sut i wneud cais
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg; ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol nac yn arwain at unrhyw oedi.
- Lawrlwythwch eich ffurflen gais a’i chadw ar eich cyfrifiadur/dyfais (e.e. ffolder My Documents neu Downloads).
- Ewch i'r ffolder sy'n cynnwys y ffurflen gais ac agor y PDF gan ddefnyddio rhaglen megis Adobe Acrobat Reader.
Peidiwch ag agor y ddogfen yn eich porwr oherwydd efallai na fyddwch yn gallu ei chadw. - Llenwch y ffurflen, gan gynnwys y ffurflen monitro cyfle cyfartal.
- Anfonwch eich ffurflen gais orffenedig i jobs@gllm.ac.uk. Dylid defnyddio teitl y swydd a ymgeisir admdani fel llinell pwnc eich e-bost.
Cysylltwch a ni drwy ebost jobs@gllm.ac.uk os ydych angen cymorth neu os oes gennych ymholiad pellach.
Pam gweithio i ni?
Diffiniadau o sgiliau iaith
Canllawiau i Ddarlithwyr
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Swyddi eraill
Mae gennym nifer o swyddi eraill gan gyflogwyr mewn busnesau bach a mawr ledled yr ardal. Mae'r cyflogwyr a restrir yma'n awyddus i roi cyfle i'r person ifanc iawn.