Goruchwylydd Sgiliau Ymarferol - Gosodiad Trydanol
O dan chyfarwyddyd cyffredinol staff darlithio, bydd y Goruchwyliwr Sgiliau Ymarferol yn cyflwyno sesiynau ymarferol i grwpiau o ddysgwyr mewn gweithdy ymarferol a bydd yn darparu cymorth i ddarlithwyr drwy fonitro ac asesu cynnydd dysgwyr, gan ddarparu arweiniad a chymorth lle bo angen.
Mae’n debygol y bydd Goruchwylydd Sgiliau Ymarferol llawn amser wedi ei amserlennu am hyd at 1000 o oriau cyswllt gyda dysgwyr yn ystod y flwyddyn academaidd gyda lleiafswm o 500 awr yn goruchwylio dysgwyr mewn gweithdy.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/239/24
Cyflog
£18,555.55 - £19,797.92 y flwyddyn (£30,513.97 - £32,557.02 y flwyddyn Llawn Amser). Cymorth Busnes Graddfa 6. Pwynt 29 - 31
Lleoliad Gwaith
- Llangefni
Hawl gwyliau
- 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
- Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
- Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
- Bydd gan y rhai ar gontractau Rhan-amser hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod.
- Bydd gan y rhai ar gontractau Amser Tymor hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod a delir fel rhan o'r cyflog blynyddol.
Patrwm gweithio
Parhaol
Ffracsiynol 0.6081 (22.5 awr yr wythnos)
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Rhan Amser Parhaol
Dyddiad cau
13 Mai 2024
12:00 YH
(Ganol dydd)
Lawrlwythiadau
Mae ein ffurflen gais ar ffurf PDF. Bydd angen rhaglen megis Adobe Acrobat Reader ar eich cyfrifiadur / dyfais i agor a golygu'r ddogfen hon.
Croesawir ceisiadau Cymraeg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Sut i wneud cais
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg; ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol nac yn arwain at unrhyw oedi.
- Lawrlwythwch eich ffurflen gais a’i chadw ar eich cyfrifiadur/dyfais (e.e. ffolder My Documents neu Downloads).
- Ewch i'r ffolder sy'n cynnwys y ffurflen gais ac agor y PDF gan ddefnyddio rhaglen megis Adobe Acrobat Reader.
Peidiwch ag agor y ddogfen yn eich porwr oherwydd efallai na fyddwch yn gallu ei chadw. - Llenwch y ffurflen, gan gynnwys y ffurflen monitro cyfle cyfartal.
- Anfonwch eich ffurflen gais orffenedig i jobs@gllm.ac.uk. Dylid defnyddio teitl y swydd a ymgeisir admdani fel llinell pwnc eich e-bost.
Cysylltwch a ni drwy ebost jobs@gllm.ac.uk os ydych angen cymorth neu os oes gennych ymholiad pellach.
Pam gweithio i ni?
Diffiniadau o sgiliau iaith
Canllawiau i Ddarlithwyr
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Swyddi eraill
Mae gennym nifer o swyddi eraill gan gyflogwyr mewn busnesau bach a mawr ledled yr ardal. Mae'r cyflogwyr a restrir yma'n awyddus i roi cyfle i'r person ifanc iawn.