Steilydd
Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.
Mae salon trin gwallt Headlines ym Mhentraeth yn chwilio am steilydd hyderus a chreadigol i ymuno gyda'n tîm trin gwallt cynnes a chroesawgar.
Disgrifiad Swydd:
- Mae arnom angen rhywun gydag o leiaf 5 mlynedd o brofiad mewn salon.
- Mae personoliaeth gyfeillgar yn allweddol i'r swydd hon gan ein bod yn ceisio darparu gwasanaeth o safon uchel iawn i'r nifer dda o gwsmeriaid rheolaidd sydd gennym.
- Mae'n bwysig iawn i ni recriwtio aelodau tîm rhagweithiol sydd â gwerthoedd cryf sy'n cyd-fynd â'n gwerthoedd ni yma yn Headlines.
- Rhaid i chi fod yn hyderus â phob agwedd o drin gwallt gan gynnwys lliwio a thorri i ddynion a merched.
- Gwybodaeth ardderchog am wasanaeth i gwsmeriaid a thrin gwallt.
- Mae agwedd gadarnhaol yn hanfodol.
Cyflog:
Mae'r tâl i'w drafod ac yn dibynnu ar brofiad.
Oriau:
Y Math o Swydd: Llawn amser (gellir trafod oriau)
Sut i wneud cais
Cysylltwch ag Emma Davies - 01248 450698
Manylion Swydd
Lleoliad
Pentraeth
Sir
Ynys Môn
categori
Llawn Amser
Sector
Arbenigol/Arall - Specialist / Other
Dyddiad cau
11.10.24
Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.
Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?
Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?
Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.
Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:
- Prentisiaethau
- Swyddi llawn amser
- Swyddi rhan-amser
- Contractau cyfnod penodol
I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk.