Cynorthwywyr Blaen y Tŷ/Staff Gweini Rhan Amser
Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.
Rydym yn chwilio am bobl frwdfrydig a chyfeillgar i ymuno â’n tîm pan fyddwn yn agor
The Fork, Cork & Feathers, Deli a Bar Gwin newydd a chyffrous yn arbenigo mewn bwydydd Cymreig,
yn Nolgellau y Pasg hwn.
Os ydych chi wrth eich bodd gyda bwyd a diod ac yn frwdfrydig am gynnyrch o safon a gwasanaeth i gwsmeriaid o'r radd flaenaf, yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Rydym yn bwriadu llenwi swyddi rhan-amser fydd yn gweithio ar ddydd Gwener (4.30pm i 9.30pm), a dydd Sadwrn (11.30am i 9.30pm).
Fel rhan o’r tîm bydd eich dyletswyddau’n cynnwys:
- Paratoi, cynhesu a gweini bwyd a diod (meddal ac alcoholig) o'n deli a'n bar.
- Defnyddio eich sgiliau barista i greu a gweini coffi o ansawdd uchel (celf latte), a diodydd poeth eraill wrth gynnal lle gwaith glân a threfnus.
- Cyflwyno a threfnu cownteri cynnyrch a mannau arddangos, gan sicrhau eu bod yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda a'u stocio'n llawn.
- Sicrhau bod blaen y tŷ, y gegin a’r mannau gwasanaeth bob amser yn cael eu cadw’n lân ac yn daclus, gan gynnwys offer, byrddau, toiledau, golchi llestri a dyletswyddau glanhau cyffredinol eraill.
- Dyletswyddau ariannwr gan gynnwys, trin trafodion arian parod a cherdyn ac ateb cwestiynau cwsmeriaid am eitemau ar y fwydlen a'u cynhwysion a darparu argymhellion diod a gwybodaeth am eitemau bwyd a diod.
- Dyletswyddau hylendid bwyd gan gynnwys cadw cofnodion rheoli tymheredd a chofnodi gwastraff.
- Cynorthwyo gydag archebu, derbyn, stocio ac arddangos cynnyrch tra'n cynnal ansawdd a ffresni.
- Gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid gyda chynhesrwydd gwirioneddol a gwên bob amser.
Sut i wneud cais
Manylion Swydd
Lleoliad
Dolgellau
Sir
Gwynedd
categori
Rhan Amser
Sector
Lletygarwch ac Arlwyo / Hospitality & Catering
Dyddiad cau
31.05.24
Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.
Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?
Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?
Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.
Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:
- Prentisiaethau
- Swyddi llawn amser
- Swyddi rhan-amser
- Contractau cyfnod penodol
I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk.