Cynorthwywyr Gweini Bwyd a Diod
Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.
Mae Tre-Ysgawen Hall yn westy gwledig a sba pedair seren sydd wedi ennill sawl gwobr ac sydd wedi’i leoli yng nghanol Ynys Môn. Wedi'i adeiladu ym 1882 fel un o blastai mwyaf crand y wlad, mae bellach yn lleoliad ar gyfer gwyliau hamdden moethus, priodasau, digwyddiadau a chynadleddau.
Mae'r gwesty yn recriwtio ar gyfer swydd cynorthwywyr gweini bwyd a diod ar hyn o bryd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn ymuno â’r tîm blaen tŷ o weithwyr lletygarwch proffesiynol sydd â blynyddoedd lawer o brofiad lletygarwch yn y Deyrnas Unedig a thramor.
Cyfrifoldebau'r swydd i gynnwys -
Cyfarfod a chyfarch gwesteion
Cynnig cyngor i westeion ar ddewisiadau bwyd a diod
Gosod byrddau yn y bwyty, clirio a dyletswyddau cadw tŷ sy'n gysylltiedig â'r ardal gweini bwyd a diod
Gweini bwyd a diod
Prosesu taliadau
Sgiliau a Phriodoleddau -
Mwynhau ymwneud â phobl
Yn awyddus i ddarparu'r gwasanaeth i gwsmeriaid gorau posibl
Yn awyddus i ddysgu a gweithio i berffeithio eu sgiliau gweini
Y gallu i weithio dan bwysau a chynnal agwedd gadarnhaol
Nid oes rhaid cael profiad blaenorol. Bydd gofyn i ymgeiswyr fod yn o leiaf 18 mlwydd oed.
Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu. Mae'r oriau gwaith i'w trafod. Mae oriau llawn amser a rhan-amser ar gael am ran helaeth o'r flwyddyn.
Byddai bod yn ddwyieithog o fantais ond nid yw'n hanfodol. Bydd ymgeiswyr yn cael cynnig hyfforddiant ychwanegol a chyfle i weithio tuag at gymwysterau a gydnabyddir yn y diwydiant lletygarwch. Mae hwn yn gyfle gwych i ddechrau gyrfa fel gweithiwr lletygarwch proffesiynol.
Sut i wneud cais
E-bostiwch eich CV a llythyr eglurhaol at catherine@k2re.co.uk
Manylion Swydd
Lleoliad
Llangefni
Sir
Ynys Môn
categori
Llawn Amser
Sector
Lletygarwch ac Arlwyo / Hospitality & Catering
Gwefan
http://www.treysgawen-hall.co.uk
Dyddiad cau
21.05.24
Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.
Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?
Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?
Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.
Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:
- Prentisiaethau
- Swyddi llawn amser
- Swyddi rhan-amser
- Contractau cyfnod penodol
I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk.