Academi Sgiliau – Prentis Gradd - Peirianneg Meddalwedd Cymhwysol
Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.
Mae M-SParc yn awyddus i gyflogi rhywun fydd yn aelod da o dîm sy'n meithrin perthynas gref â rhanddeiliaid y prosiect.
Fel prentis, byddwch yn cael mynediad llawn i holl wasanaethau myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai a Phrifysgol Bangor, gan gynnwys anabledd a lles, gwasanaethau llyfrgell a TG, aelodaeth am ddim i glybiau a chymdeithasau, aelodaeth campfa M-SParc am ddim a llawer o fuddion eraill. Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi; mae hwn yn aelod o staff academaidd sydd wrth law i drafod gwaith academaidd yn ogystal â darparu gofal bugeiliol drwy gydol yr astudiaeth.
Beth yw’r Academi Sgiliau?
Gan gydnabod y bwlch sgiliau digidol yn y rhanbarth, yn enwedig ymhlith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, sefydlodd M-SParc yr Academi Sgiliau. Mae’n cynnig cyfleoedd i feithrin talent a mireinio sgiliau ar gyfer cyflogaeth ystyrlon yng Ngogledd Cymr
Cymwysterau gofynnol
Addysg hyd at Lefel A (neu gyfwerth) gydag o leiaf un pwnc Gwyddonol a/neu Fathemateg, neu'r gallu i ddangos profiadau a phrosiectau a ddatblygwyd gennych chi eich hun.
• Yn gyfarwydd â systemau gweithredu Microsoft a Rhwydweithio.
• Lefel uchel o gymhwysedd gyda Microsoft office
Mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
• Sgiliau trefnu da yng nghyd-destun cadw prosiectau o fewn amserlen benodol.
• Gallu rheoli llwyth gwaith prysur ac amrywiol
• Bod yn arloesol, lle bo'n briodol, wrth ymdrin â thasgau a phrosiectau. Yn gyfarwydd â systemau gweithredu Windows, MAC-OS a/neu Linux/Unix.
• Profiad o gymwysiadau TG eraill – ee cynnyrch Adobe.
• Ymwybyddiaeth neu brofiad o Reoli Prosiectau – efallai ei fod yn rhywbeth rydych chi wedi'i astudio neu'n rhywbeth rydych chi eisiau dysgu mwy amdan
Sut i wneud cais
Ar wefan y cyflogwr - https://m-sparc.com/degree-app...
Manylion Swydd
Lleoliad
Gaerwen
Sir
Ynys Môn
categori
Prentisiaethau Llawn Amser
Sector
TG a Chyfryngau / IT & Media
Gwefan
Dyddiad cau
31.05.24
Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.
Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?
Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?
Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.
Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:
- Prentisiaethau
- Swyddi llawn amser
- Swyddi rhan-amser
- Contractau cyfnod penodol
I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk.