Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Bangor
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn

Gwnewch gais
×

Therapi Sba Lefel 3

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Ydych chi'n paratoi i ddilyn gyrfa ym maes therapi harddwch?

Ar y rhaglen, byddwch yn dysgu am therapi corfforol, yn cynnwys: tylino'r corff wedi'i gymysgu ymlaen llaw, sba, triniaethau sba, therapi cerrig, tylino pen Indiaidd, anatomeg a ffisioleg.

Mae'r rhaglen hon yn addas i rai sy'n gweithio yn y sectorau gofal neu sydd wedi dilyn cwrs harddwch lefel 3 yn ogystal ag i fyfyrwyr hŷn sydd â diddordeb brwd yn y pwnc.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • Gradd Llwyddo mewn cymhwyster Lefel 2 perthnasol
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant
  • Bydd angen hefyd i chi fod wedi cael presenoldeb o 86% yn eich blwyddyn astudio flaenorol

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Cyflwyniad ymarferol
  • Sesiynau theori
  • Hyfforddiant masnachol mewn salon
  • Amgylchedd dysgu rhithwir

Byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau pwnc-benodol, yn ogystal â rhai modiwlau arbenigol a sgiliau llythrennedd a rhifedd. Byddwch hefyd yn mynd ar brofiad gwaith yn ystod y rhaglen.

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Asesir y rhaglen drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Arsylwi
  • Asesiadau ar-lein
  • Profion ysgrifenedig ac ar lafar.

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, bydd gennych gymhwyster a set o sgiliau gwerthfawr a fydd yn eich help i fynd ymlaen i swydd neu i ddilyn cwrs lefel uwch.

Gallech fynd ymlaen i ddilyn rhaglen lefel gradd yng Ngrŵp Llandrillo Menai, fel y Radd Sylfaen (FdA) mewn Rheoli a Busnes, neu radd arbenigol mewn sefydliad arall.

Yn lle hynny, gallech gael swydd. Ar ôl cwblhau'r cymhwyster yn llwyddiannus, cewch arfer eich crefft a chael eich cynnwys ar y Gofrestr Feddygol.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dwyieithog:

n/a

Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Trin Gwallt a Therapi Harddwch