Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn

Gwnewch gais
×

Cyfryngau Lefel 2

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Llangefni

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Oes gennych chi ddiddordeb mewn Cyfryngau Creadigol?

Gall y rhaglen hon fynd â chi gam yn nes at ymuno â byd cyffrous cynhyrchu cyfryngau. Byddwch yn rhoi'r theori ar waith drwy greu clipiau fideo, dysgu sut i olygu a chreu animeiddiadau, ac yn arddangos eich gwaith ffotograffig.

Byddwch hefyd yn dysgu sut i gyfleu eich syniadau, gan dargedu cynulleidfaoedd penodol a chan ymchwilio i sector y cyfryngau a'r swyddi sydd ar gael yn y diwydiant.

Yn ogystal â dysgu pethau diddorol am y byd gweledol, clywedol ac electronig, cewch hyfforddiant hanfodol mewn defnyddio rhaglenni ymarferol allweddol. Byddwch hefyd yn cywain gwybodaeth hanfodol am y busnes cyfryngau a'r effaith a gaiff ar y byd heddiw.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • 3 TGAU gradd D neu uwch ac 1 TGAU gradd E, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af), neu gymhwyster Mynediad 3 / Lefel 1 Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Rhifedd a Chyfathrebu
  • Gradd Llwyddo mewn cymhwyster Lefel 1 perthnasol
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Gwaith grŵp
  • Dysgu yn y dosbarth
  • Cefnogaeth tiwtor
  • Ymweliadau addysgol
  • Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
  • Cyflwyniadau ac arddangosiadau
  • Portffolios gwaith
  • 2 uned sy'n seiliedig ar arholiadau
  • Perfformiad technegol ac arsylwi​

Dilyniant

Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o raglenni yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:

  • Cynhyrchu Cyfryngau Lefel 3 (Teledu a Ffilm)
  • Animeiddio 3D a Datblygu Gemau Lefel 3
  • Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol Lefel 3

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Y Cyfryngau, Teledu a Ffilm

Dwyieithog:

n/a

Y Cyfryngau, Teledu a Ffilm

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Y Cyfryngau, Teledu a Ffilm

Myfyrwyr yn defnyddio camera