Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaethau mewn Digwyddiadau Byw a Digwyddiadau Hyrwyddo

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    18 mis

Gwnewch gais
×

Prentisiaethau mewn Digwyddiadau Byw a Digwyddiadau Hyrwyddo

Prentisiaethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae Hyrwyddo Digwyddiadau Byw a Digwyddiadau Hyrwyddo'n cynnwys popeth sy'n ymwneud â chynnal sioe neu ddigwyddiad. Gall digwyddiadau byw gael eu cynnal dan do neu allan yn yr awyr agored; gallant fod yn ddigwyddiadau neu'n deithiau unigol neu'n gynyrchiadau mawr neu fach.

Mae'r twf yn y sector digwyddiadau 'byw' yn golygu bod angen denu staff newydd i'r diwydiant a rhaid datblygu sgiliau staff presennol sy'n gweithio yn y meysydd creadigol, gweinyddol a thechnegol gan gynnwys:

  • Cynorthwywyr i Gyfarwyddwyr Artistig
  • Rheoli Llwyfan
  • Rheoli Cynhyrchu
  • Rheoli Technegol
  • Rheoli Artistig
  • Contractau / Trwyddedu

Gofynion mynediad

  • Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol ond mae profiad yn ddymunol
  • Rhaid i brentisiaid fod â chyflogwr sy'n gallu bodloni'r meini prawf NVQ

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

  • Yn y gweithle

Asesiad

  • Cwblhau portffolio o dystiolaeth
  • Arsylwadau yn y gweithle
  • Tasgau a phrofion theori

Dilyniant

O Brentisiaeth Sylfaenol Lefel 2 i Brentisiaeth Lefel 3

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiaethau

Lefel: 2+3

Maes rhaglen:

  • Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau
  • TG a'r Cyfryngau

Dwyieithog:

n/a

Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

TG a'r Cyfryngau

Myfyrwyr cyfryngau yn gweithio