Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaethau mewn Gwella Perfformiad Ymarferol

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Lefel 2: 12 mis

Gwnewch gais
×

Prentisiaethau mewn Gwella Perfformiad Ymarferol

Prentisiaethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r fframwaith Gwella Perfformiad Ymarferol yn cynnwys tri llwybr dysgu (Gwneud Gwaith Peirianneg Lefel 2, Gwneud Gwaith Cynhyrchu Lefel 2 a Thechnegau Gwella Busnes Lefel 2) sy'n darparu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar brentisiaid i gynnal amrywiaeth o brosesau peirianneg a chynhyrchu ar lefel led-grefftus ac ar lefel gweithredwr.

Mae'r llwybr Gwella Technegau Busnes yn sicrhau bod prosesau busnes yn cael eu cynllunio a'u cyflawni mor effeithlon â phosibl gan nodi a lleihau gwastraff a sicrhau'r ansawdd uchaf.

Gofynion mynediad

  • Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol, ond byddai profiad o waith peirianneg yn ddymunol.
  • Rhaid i brentisiaid fod â chyflogwr a all fodloni meini prawf y NVQ.

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

  • Darperir mwyafrif yr hyfforddiant yn y gweithle
  • Bydd gofyn i ddysgwyr fynychu sesiynau yn y coleg i gwblhau tasgau a phrofion theori

Asesiad

  • Cwblhau portffolio o dystiolaeth
  • Arsylwadau yn y gweithle
  • Tasgau a phrofion theori

Dilyniant

O Brentisiaeth Sylfaenol Lefel 2 i Brentisiaeth Lefel 3 mewn Peirianneg Fecanyddol.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiaethau

Lefel: 2+3

Maes rhaglen:

  • Peirianneg

Dwyieithog:

n/a

Peirianneg

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Peirianneg

Myfyriwr Dolgellau yn defnyddio peirianwaith