Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion): Craidd
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu Seiliedig ar Waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
320 awr
Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion): CraiddPrentisiaethau
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Bydd y cymhwyster yn rhoi cyflwyniad trylwyr i'r egwyddorion, y gwerthoedd a'r wybodaeth sydd eu hangen i weithio yn y sectorau gofal iechyd a gofal cymdeithasol gydag oedolion a phlant a phobl ifanc.
Mae cynnwys y cymhwyster hwn yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o:
- yr egwyddorion a'r gwerthoedd craidd sy'n sail i ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol
- ffyrdd o weithio yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol
- arfer effeithiol o fewn iechyd a gofal cymdeithasol
- llwybrau dilyniant i astudiaeth bellach neu gyflogaeth o fewn diogelu Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Gofynion mynediad
- dysgwyr 16+ oed sy'n gweithio neu'n bwriadu gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol ar hyn o bryd
- gweithiwr gofal cymdeithasol (oedolion)
- gweithiwr gofal cymdeithasol (plant a phobl ifanc)
- gweithiwr cymorth gofal iechyd
- cynorthwyydd gofal iechyd.
Cyflwyniad
Wedi'i gyflwyno ar sail un i un. Mae'r cymhwyster hwn ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Asesiad
I gyflawni’r llwybrau (Oedolion) a (Plant a Phobl Ifanc) o fewn y cymhwyster hwn, rhaid i ymgeiswyr lwyddo:
- tri asesiad allanol ar sail senario a gaiff eu marcio yn y ganolfan ac y gellir eu cymryd trwy gydol y cymhwyster neu ar y diwedd
- un prawf amlddewis wedi'i osod yn allanol ac wedi'i farcio'n allanol.
Dilyniant
Ar ôl ei gwblhau, bydd y cymhwyster yn darparu sylfaen eang o wybodaeth ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd yn darparu’r wybodaeth i symud ymlaen i:
- Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
- Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
- Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)
- Egwyddorion a Chyd-destunau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2
- Egwyddorion a Chyd-destunau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3 (Oedolion/Plant a Phobl Ifanc)
- TAG Uwch a TAG Uwch Gyfrannol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant.
Cwblheir y Cymhwyster hwn fel rhan o Brentisiaeth yn yr adran DSW ac yn ogystal â chwblhau'r Cymhwyster craidd rhaid i ddysgwyr gwblhau'r Cymhwyster Ymarfer a'r Sgiliau Hanfodol perthnasol hefyd.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiaethau
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: