Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Diploma Sylfaen mewn E-chwaraeon (Esports) - Lefel 3

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 blwyddyn

Gwnewch gais
×

Diploma Sylfaen mewn E-chwaraeon (Esports) - Lefel 3

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Ydych chi wrth eich bodd yn chwarae gemau cyfrifiadur? Ydych chi'n teimlo'n frwdfrydig iawn am hyn? Ydych chi eisiau cael gyrfa yn y maes?

Os felly, dyma'r cwrs i chi! Mae gennym ni Hwb Chwarae Gemau o'r radd flaenaf gyda'r offer gorau posib (Razer, MSi, Asus, Playsation, ac ati)

Mae E-chwaraeon yn rhan o ddiwydiant byd-eang sydd werth biliynau o bunnoedd heb unrhyw rwystrau corfforol.

Yn 2020, cyflogwyd 1200 o bobl yn uniongyrchol yn y diwydiant chwarae gemau - nid yw hynny'n cynnwys y swyddi sy'n gysylltiedig â chwarae gemau! Mae'r rhif hwn yn parhau i godi.

Gall agor nifer o ddrysau o ran gyrfa ym Mhrydain, yr Unol Daleithiau, Asia, Ewrop a thu hwnt!

Bydd y cymhwyster hwn yn eich galluogi i weithio yn y diwydiant E-chwaraeon. Gallwch hefyd weithio ym maes pêl-droed, rygbi neu chwaraeon eraill fel Dadansoddwr Data. Yn ogystal, mae posib mynd ymlaen i weithio ym maes marchnata neu ddewis gyrfa sy'n seiliedig ar dechnoleg. Mae'n gyfle i ddatblygu eich sgiliau a symud eich gyrfa ymlaen i'r maes newydd hwn ym myd busnes. Wedi i chi gwblhau eich astudiaethau yn y coleg, bydd modd i chi wneud cais i fynd ymlaen i addysg bellach neu wneud gradd sylfaen ym maes e-chwaraeon, chwaraeon, busnes neu hamdden. Mae hyd yn oed David Beckham wedi troi at y maes!

Mae'r cymhwyster hwn gyda Pearson, sefydliad sydd ymhlith y mwyaf blaenllaw yn y byd, yn cynnwys ystod o sgiliau y gellir eu trosglwyddo a fydd yn galluogi'r dysgwyr i brofi agweddau gwahanol o fewn y maes e-chwaraeon a fydd yn eu helpu i fynd ymlaen i fyd gwaith, un ai'n syth, neu yn dilyn cyfnod o astudio pellach. Mae E-chwaraeon yn gyfle i gyfuno sgiliau cymdeithasol, corfforol, meddygol ac ariannol mewn un cymhwyster a fydd yn datblygu ac ehangu'r dysgu. Mae'r sgiliau hyn yn werthfawr iawn mewn gweithleoedd sy'n newid o hyd. Rhaid i ddysgwyr roi strategaeth, sgil a gwaith tîm ar waith er mwyn llwyddo. Bydd dysgwyr sy'n astudio'r cymhwyster hwn yn astudio nifer o unedau:

  • Cyflwyniad i E-chwaraeon
  • Sgiliau, Strategaethau a Gwaith Dadansoddi ym maes E-chwaraeon
  • Menter ac Entrepreneuriaeth yn y Diwydiant E-chwaraeon
  • Iechyd, Lles a Ffitrwydd Chwaraewyr E-chwaraeon
  • Digwyddiadau E-chwaraeon
  • Darlledu Byw
  • Cynhyrchu Brand E-chwaraeon
  • Cynhyrchu Fideo
  • Dylunio Gemau
  • Rhaglenni Busnes E-chwaraeon mewn Cyfryngau Cymdeithasol
  • Sylwebu (Shoutcasting)
  • Hyfforddi ym maes E-chwaraeon
  • Seicoleg Perfformio mewn E-chwaraeon
  • Rhwydweithio Cyfrifiadurol

Rydym yn gweithio gyda E-chwaraeon Cymru i gynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau, twrnameintiau cenedlaethol a chyfle i chwarae a rhannu gyda phobl eraill yn ogystal â rhoi cyfle i fod yn rhan o dimau cenedlaethol.

Cefnogir y cwrs gan gymdeithas E-chwaraeon Prydain ac rydym yn rhan o Bencampwriaeth E-chwaraeon Prydain.

Mae gennym ein tîm E-chwaraeon ein hunain o'r enw Dreigiau Llandrillo. Mae croeso i chi ymuno â'r tîm a chael cefnogaeth yn ystod eich amser yn astudio yma.

Gofynion mynediad

  • 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg.
  • Gradd Teilyngdod mewn cymhwyster Lefel 2 perthnasol
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Cyflwyniad

  • Sesiynau yn y gweithdy
  • Dysgu drwy wneud gwaith ymarferol
  • Darlithoedd
  • Digwyddiadau a chystadlaethau chwarae gemau
  • Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)
  • Modiwlau yn y gweithle
  • Siaradwyr gwadd
  • Dysgu myfyriwr ganolog

Byddwch yn astudio mewn Hwb Chwarae Gemau pwrpasol yn defnyddio caledwedd arbenigol a'r dechnoleg ddiweddaraf. Byddwch yn dysgu'n anffurfiol drwy gymryd rhan, gan gael digon o gyfle i archwilio ar eich liwt eich hun a bod yn greadigol.

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

The course is assessed through a blend of the following:

  • Individual portfolios
  • Reports
  • Case studies
  • Presentations
  • Group reports
  • Group presentations

Dilyniant

A rôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, cewch gyfle i fynd ymlaen i ddilyn cwrs Diploma Estynedig am flwyddyn arall. Mae yna hefyd nifer o gyfleoedd ar lefel Addysg Uwch gan fod nifer o Brifysgolion yn cynnig cwrs BA (Anrh) ym maes E-chwaraeon. Prif nod y cwrs yw cefnogi unigolion i fynd ymlaen i gyflogaeth ym maes E-chwaraeon mewn amrywiaeth o swyddi a rolau gwahanol. Dyma rai o'r swyddi sydd ar gael yn y meysydd hyn:

  • chwaraewyr e-chwaraeon
  • hyfforddwr tîm
  • trefnydd digwyddiadau
  • sylwebydd (shoutcaster) a chyflwynydd
  • dylanwadwr ar y cyfryngau cymdeithasol
  • golygydd cynhyrchu fideo
  • creu cynnwys
  • dadansoddwr data

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

Dwyieithog:

n/a

Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau