Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gradd Sylfaen (FdA) Iaith Arwyddion Prydain ac Astudiaethau Byddardod

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Rhan-amser: diwrnod yr wythnos. 3 blynedd. Hefyd ar gael fel modiwlau.

Gwnewch gais
×

Gradd Sylfaen (FdA) Iaith Arwyddion Prydain ac Astudiaethau Byddardod

Graddau (Addysg Uwch)

Rhan Amser

Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Disgrifiad o'r Cwrs

I wneud cais am y cwrs hwn, anfonwch e-bost David Duller (Arweinydd Rhaglen): duller1d@gllm.ac.uk

Mae'r cwrs hwn yn addas i'r sawl sy'n gweithio (neu sydd eisiau gweithio) gyda phobl fyddar fel Gweithiwr Proffesiynol ym maes Gwasanaethau Iaith neu mewn swydd arall. Bydd yn meithrin eich sgiliau a'ch gwybodaeth, ac yn eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn amrywiaeth o swyddi proffesiynol.

Mae modiwlau yn cynnwys:

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

  • Cyflwyniad i Ymchwil
  • Cyflwyniad i Iechyd Meddwl
  • Cyfathrebu
  • Dysgu Seiliedig ar Gyflogadwyedd 1
  • Iaith Arwyddion Prydain - Lefel 1
  • Cyflwyniad i Astudiaethau Byddardod
  • Ieithyddiaeth Arwyddo ac Ieithyddiaeth Gymdeithasol Arwyddo

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

  • Dulliau Ymchwilio
  • Hawliau Unigolion ac Arferion Proffesiynol
  • Dysgu Seiliedig ar Gyflogadwyedd 2
  • Iaith Arwyddion Prydain 2 Cyfarch a Chyflwyno
  • Iaith Arwyddion Prydain 2 Cymryd Rhan mewn Sgwrs
  • Lles a Byddardod

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Gofynion mynediad

Gofynion Mynediad ar gyfer Lefel 4

Gofynion ieithyddol:

  • TGAU gradd C neu uwch neu gymhwyster cyfwerth mewn Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf
  • Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys fod wedi'u haddysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, neu Iaith Arwyddion Prydain
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 4, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 5.5 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.0)
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 5 neu uwch, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5)

Gofynion academaidd:

  • O leiaf 80 pwynt UCAS mewn prif gymhwyster lefel 3, gan amlaf yn cynnwys gradd llwyddo mewn o leiaf un pwnc perthnasol a allai gynnwys: Lefel A, BTEC, Bagloriaeth Ryngwladol, Mynediad i AU; neu NVQ Lefel 3; yn ogystal â'r pwnc perthnasol, derbynnir nifer o gymwysterau ychwanegol o Gymru, Lloegr a'r Alban i gefnogi'r pwyntiau UCAS, e.e. Bagloriaeth Cymru.
  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd neu Sgiliau Allweddol/Hanfodol ar lefel gyfwerth. Bydd gofyn i ymgeiswyr nad oes ganddynt y cymwysterau hyn ddangos tystiolaeth i gadarnhau bod safon eu rhifedd yn bodloni gofynion y rhaglen.
    Mae cymwysterau rhyngwladol cyfwerth yn dderbyniol
  • Yn unol â rheoliadau a pholisïau GLlM, byddwn yn fodlon ystyried amrywiaeth eang o gymwysterau a phrofiadau proffesiynol eraill gan fyfyrwyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd a nodir uchod. Bydd hyn ar sail cyflwyno portffolio o ddysgu blaenorol i'w achredu (APL/APEL/RPEL).

Gofynion Mynediad ar gyfer Lefel 5

Gofynion academaidd:

Bydd ymgeiswyr ar gyfer y cwrs lefel 5 yn cael eu hystyried ar sail unigol yn unol â pholisi GLlM ynghylch trosglwyddo credydau, yn seiliedig ar astudiaeth lwyddiannus flaenorol o 120 credyd y lefel mewn cymhwyster cydnaws (o fewn yr amserlen a nodwyd yn y polisi). Neu gefnogi eu cais drwy gyflwyno portffolio o ddysgu blaenorol i'w achredu (APL/APEL/RPEL), yn unol â rheoliadau a pholisïau GLlM.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cael ei ddarparu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Darlithoedd
  • Siaradwyr gwadd
  • Sesiynau tiwtorial
  • Ymchwil annibynnol
  • Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)

Mae'r myfyrwyr yn gyfrifol am drefnu eu profiad gwaith eu hunain os yw'r rhan ofynnol o'u rhaglen, a byddant yn cael eu cefnogi gan dîm y cwrs.

Amserlen:

Rhan-amser: 3 blynedd, 1 diwrnod yr wythnos

Ffioedd

Ewch i'r dudalen Cymorth Ariannol a Chyllid am fwy o wybodaeth.

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Costau Ychwanegol

Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:

  • Hwb Arwyddo £2 y mis

Dyddiad cychwyn

Medi 2021

Cyswllt:

Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

David Duller (Arweinydd Rhaglen): duller1d@gllm.ac.uk

Celine Rea (Gweinyddiaeth): rea1c@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Mae'r cwrs yn cael ei asesu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Traethawd
  • Astudiaeth Achos
  • Poster
  • Arholiad
  • Portffolio
  • Cyflwyniad
  • Chwarae Rôl
  • Stori arwyddo

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Gall y cwrs arwain at nifer o lwybrau proffesiynol ac addysgol, gan ddibynnu ar eich amcanion. Bydd rhai myfyrwyr yn symud ymlaen at Lefel 6 i gwblhau'r radd BA (Anrh).

Bydd eraill yn symud ymlaen i weithio fel Gweithwyr Gwasanaethau Iaith Proffesiynol, yn gweithio gyda phobl fyddar mewn ysgolion, colegau, prifysgolion ac yn y gymuned. Mae yna hefyd bosibilrwydd o weithio mewn gwaith cymdeithasol, awdioleg, addysgu, gwasanaethau cymorth a gyda sefydliadau byddardod.

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Mae'r rhaglen hyblyg hon yn gyfle i weithio ym maes byddardod.

Am bob 10 credyd, dylai myfyrwyr ymgysylltu â thua 100 o oriau tybiannol o ddysgu. Bydd hyn oddeutu 30% o gyswllt dysgu uniongyrchol, 70% o ddysgu annibynnol i fyfyrwyr.

Dyma fodiwlau cwrs y Radd Sylfaen (FdA) mewn Iaith Arwyddion Prydain ac Astudiaethau Byddardod:

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

Cyflwyniad i Ymchwil (10 credyd, craidd):
Cyflwyno myfyrwyr i'r cysyniad o ymchwilio a datblygu sgiliau astudio. (Arholiad/Portffolio)

Cyflwyniad i Iechyd Meddwl (20 credyd, gorfodol):
Myfyrwyr yn cael cyflwyniad i faterion a chysyniadau pwysig sy'n ymwneud ag iechyd meddwl ac i ddatblygiadau mewn dulliau o ymdrin ag iechyd meddwl. (Traethawd/Astudiaeth Achos/Poster)

Cyfathrebu: (10 credits, gorfodol)
Pwrpas y modiwl hwn yw edrych ar bwysigrwydd cyfathrebu wrth weithio gyda defnyddwyr gwasanaethau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. (Cyflwyniad/Chwarae Rôl)

Dysgu Seiliedig ar Gyflogadwyedd 1: (20 credyd, gorfodol):
Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr ddatblygu ac arddangos eu sgiliau yn y gweithle. (Portffolio 100%)

Iaith Arwyddion Prydain - Lefel 1 (20 credyd, craidd):
Galluogi dysgwyr i feithrin sgiliau er mwyn gallu defnyddio Iaith Arwyddion Prydain i drafod materion pob dydd â phobl fyddar. (Asesiad allanol 100%)

Cyflwyniad i Astudiaethau Byddardod (20 credyd, craidd):
Bydd y myfyrwyr yn dod i ddeall am Ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar a Chydraddoldeb o ran bod yn Fyddar, yn cynnwys amrywiaeth o dactegau sylfaenol i gyfathrebu'n glir gyda phobl fyddar. (Traethawd 100%)

Ieithyddiaeth Arwyddo ac Ieithyddiaeth Gymdeithasol Arwyddo (20 credyd, gorfodol):
Bydd myfyrwyr yn dod i ddeall am yr ieithyddiaeth a ddefnyddir yng nghyd-destun Iaith Arwyddo Prydain. (Traethawd 80%, Cyflwyniad / Stori arwyddo 20%)

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

Dulliau Ymchwilio (20 credyd, craidd):
Galluogi myfyrwyr i roi amrediad o sgiliau ymchwilio priodol ar waith wrth astudio iechyd a gofal cymdeithasol a lles. (Cynnig Ymchwil 100%)

Hawliau Unigolion ac Arferion Proffesiynol (20 credyd, gorfodol):
Pwysleisio pwysigrwydd hawliau'r unigolyn wrth ddarparu gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a lles. (Traethawd/Poster)

Dysgu Seiliedig ar Gyflogadwyedd 2 (20 credyd, gorfodol)
Cyfle i'r dysgwyr ddadansoddi gwerth eu dysgu mewn cyd-destunau galwedigaethol a gwaith-benodol, yn cynnwys cynllun datblygu personol a phroffesiynol perthnasol. (Portffolio)

Iaith Arwyddion Prydain 2 Cyfarch a Chyflwyno (20 credyd, craidd):
Datblygu cyfathrebu yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain gan ddysgu rhagor am ramadeg er mwyn ymdopi â sgyrsiau anghyfarwydd. (Asesiad allanol 100%)

Iaith Arwyddion Prydain 2 Cymryd Rhan mewn Sgwrs (20 credyd, craidd)
Ehangu a datblygu profiadau'r dysgwyr wrth gyfathrebu yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain yn fanylach nag a wnaed yn Lefel Un. (Asesiad allanol 100%)

Lles a Byddardod (20 credyd, gorfodol)
Cyflwyno dysgwyr i'r prif faterion o ran lles pobl fyddar a'r rhesymau pam fod canran uwch o bobl fyddar yn cael problemau iechyd meddwl. (Traethawd/Astudiaeth Achos/Cyflwyniad Grŵp)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 4+5

Maes rhaglen:

  • Astudiaethau Byddar ac Iaith Arwyddion

Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor

Dwyieithog:

n/a

Astudiaethau Byddar ac Iaith Arwyddion

Sefydliad dyfarnu

DiscoverUni

Cwrs rhan amser