Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

SSIE Saesneg Trylwyr: Llwybr Hyfforddiant a Gwaith

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Bangor
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:
    1-3 blynedd
Gwnewch gais
×

SSIE Saesneg Trylwyr: Llwybr Hyfforddiant a Gwaith

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cwrs hwn yn dysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL), ac yn addas i unrhyw un lle nad yw'r Saesneg na'r Gymraeg yn iaith gyntaf. Bydd y cwrs yn eich helpu i:

  • Gwella eich iaith, hyder a sgiliau
  • Ennill yr iaith a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer byw a gweithio yng Nghymru
  • Eich paratoi i ddod o hyd i hyfforddiant a gwaith
  • Cwrdd â phobl o bob cwr o'r byd ochr yn ochr â phobl leol

Bydd athrawon cyfeillgar yn eich helpu i bennu nodau a'ch cefnogi i'w cyflawni.

Bydd y pynciau a drafodir yn cynnwys:

  • Saesneg cyffredinol
  • Sgiliau Siarad a Gwrando
  • Sgiliau Darllen ac Ysgrifennu
  • Saesneg ar gyfer Gwaith
  • Sesiynau tiwtorial personol
  • ESOL a TG (dewisol)
  • ESOL a Mathemateg (dewisol)

Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i breswylwyr parhaol yn y DU a'r UE sy'n cyfarfod gofynion cymhwysedd.

Gofynion mynediad

Cynigir llefydd yn amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Byddwch yn cael dosbarthiadau gydag athrawon cyfeillgar.

Asesiad

Asesir eich gwaith trwy gydol eich cwrs. Byddwch hefyd yn gallu sefyll arholiadau.

Dilyniant

Gallwch symud ymlaen i:

  • lefel nesaf y Saesneg
  • cwrs coleg arall yn Grŵp Llandrillo Menai
  • hyfforddiant gyda darparwr arall
  • cyflogaeth

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Maes rhaglen:

  • ESOL

Dwyieithog:

n/a

ESOL