Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Llythrennedd Digidol – Dechreuwyr

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Bangor, Llangefni, Lleoliad cymunedol, Caernarfon, Caergybi
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Ar y lefel sylfaenol, ceir tri bloc 10 wythnos mewn blwyddyn - un pob tymor, a phob tymor byddwn yn adeiladu ar y sgiliau a ddysgwyd y tymor blaenorol.

    Dyddiau ac amseroedd i'w cadarnhau.

Gwnewch gais
×

Llythrennedd Digidol – Dechreuwyr

Potensial (Dysgu Gydol Oes)

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae ein cyfres o gyrsiau llythrennedd digidol yn addas i'r sawl sydd am ddysgu sut i ddefnyddio technoleg mewn amgylchedd hamddenol ac anffurfiol. Cyflwynir y sesiynau gan diwtoriaid cyfeillgar fydd yn cynllunio eu gwersi i fodloni diddordebau'r myfyrwyr, pa un ai a ydynt yn astudio er mwyn datblygu eu gyrfa neu er pleser yn unig.

Byddwch yn dysgu am hanfodion defnyddio cyfrifiadur neu ddyfais. Bydd hyn yn cynnwys sgiliau sylfaenol teipio a defnyddio bysellfwrdd i lunio dogfennau.

Byddwch hefyd yn dysgu: sut i gadw'n ddiogel ar-lein, am eich ôl-troed digidol, rhyngweithio ag eraill ar-lein a defnyddio nodweddion diogelwch ar ddyfeisiau.

Byddwch yn dysgu sut i reoli eich gwybodaeth ddigidol o ffeiliau a ffotograffau i dudalennau gwe.

Byddwch yn creu/defnyddio cyfrif e-bost i gyfathrebu ag eraill ac i gofrestru ar gyfer gwasanaethau ar-lein.

Mae croeso i chi ddod â'ch dyfais eich hun i'r sesiynau.

Gofynion mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.

Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddangos ymrwymiad i gwblhau'r cwrs 10 wythnos.

Efallai y gofynnir i chi gwblhau asesiad cychwynnol i'n cynorthwyo i benderfynu a yw'r cwrs yn addas i chi.

Cyflwyniad

Bydd y dysgu a'r addysgu'n digwydd yn yr ystafell ddosbarth a rhoddir pwyslais ar ymarfer gartref y sgiliau a ddangoswyd.

Bydd y dulliau cyflwyno'n amrywio ac yn cael eu teilwra i anghenion unigol. Byddant yn cynnwys:

  • cyflwyniadau a chyfarwyddiadau gan eich tiwtoriaid
  • ymchwilio'n annibynnol
  • prosiectau a thasgau aseiniad

Asesiad

Cewch eich asesu ar sail portffolio o'r gwaith a gynhyrchwyd gennych yn ystod y cwrs. Bydd angen i chi ddangos eich bod yn gallu gweithio'n annibynnol i gwblhau'r tasgau a osodwyd. Cewch eich asesu wrth i diwtor y cwrs arsylwi arnoch yn gweithio yn y sesiynau.

Bydd gofyn i'r holl fyfyrwyr gwblhau Cynllun Datblygu Personol fydd yn dynodi targedau dysgu personol a rhesymau dros wneud y cwrs. Ar ddiwedd pob sesiwn byddwch yn cwblhau adolygiad adfyfyriol o'r sgiliau a ddysgwyd gan nodi anawsterau a llwyddiannau. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau na fyddwch yn symud ymlaen i'r cam nesaf nes y byddwch yn teimlo'n hyderus i wneud hynny.

Dilyniant

  • Llythrennedd Digidol Canolradd
  • Dechrau Arni!
  • Rhoi Sglein ar eich Sgiliau
  • Cyflwyniad i Fyd Gwaith

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Potensial (Dysgu Gydol Oes)

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau
  • Sgiliau Sylfaenol: Saesneg a Mathemateg

Dwyieithog:

n/a

Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

Sgiliau Sylfaenol: Saesneg a Mathemateg

Dau fyfyriwr yn gweithio yn y dosbarth