Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

CompTIA A+ (220-1101 & 220-1102 Core Series)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Ar-lein
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    12 mis

Gwnewch gais
×

CompTIA A+ (220-1101 & 220-1102 Core Series)

Proffesiynol

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cyrsiau CompTIA A+ Core Series yn ddelfrydol i unrhyw un sy'n awyddus i ddechrau gyrfa ym maes TG. Bydd ennill cymhwyster CompTIA A+ hefyd yn dilysu sgiliau gweithwyr mwy profiadol ym maes TG, ac yn rhoi hwb sylweddol i'r gyrfa.

Mae’r cwrs CompTIA A+ yn ymdrin â hanfodion gwybodaeth sylfaenol ym maes TG. Mae'n cynnwys hanfodion gosod a chynnal a chadw caledwedd yn ogystal ag addasu a gweithredu ar nifer o blatfformau gwahanol yn cynnwys dyfeisiadau symudol.

Mae'r cymhwyster CompTIA A+ a gydnabyddir yn rhyngwladol yn parhau i fod yn boblogaidd iawn yn y maes TG, mae'n canolbwyntio ar amrywiaeth eang o bynciau gwerthfawr yn cynnwys rhwydweithio, gliniaduron a dyfeisiadau symudol, gosod a ffurfweddu nifer o systemau gweithredu, diogelwch a datrys problemau.

Mae’r cwrs hwn ar gael i drigolion sy’n byw yn chwe sir Gogledd Cymru sef Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Sir y Fflint a Wrecsam.

Gofynion mynediad

9 i 12 mis o brofiad ymarferol yn y labordy neu yn y maes

Cyflwyniad

Darperir ar-lein drwy gyfrwng e-ddysgu.

Asesiad

Arholiad Ar-lein swyddogol o bell.

Dilyniant

Gyda thystysgrif CompTIA A+ gallwch ddechrau ar yrfa ym maes TG mewn amrywiaeth eang o swyddi ym maes Technegol, Cefnogaeth a Gwasanaethu.

Mae'r rolau Tystysgrif CompTIA A+ hyn yn cynnwys:

  • Technegydd Desg Gymorth
  • Dadansoddwr Desg Gymorth
  • Arbenigwr Cefnogaeth dechnegol
  • Peiriannydd Rhwydwaith Cysylltiol
  • Technegydd Data Cefnogol

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Proffesiynol

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau