Hyfforddiant rhan-amser
Hyfforddiant ar gyfer gweithwyr a pherchnogion busnes.
Rydym yn cynnig ystod eang o gyrsiau i gyflogwyr a pherchnogion busnes, yn cynnwys hyfforddiant perthnasol i'w diwydiant a chyrsiau ar gyfer datblygiad proffesiynol, a gallwch ddilyn y cyrsiau yn rhan-amser ochr yn ochr ag ymrwymiadau eich gweithle.
Hyfforddiant perthnasol i'r Diwydiant
Os ydych chi am ddatblygu sgiliau neu wella sgiliau aelod newydd o'ch tîm neu eich gweithle presennol, neu os hoffech ymestyn gwaith eich busnes i farchnad newydd, mae gennym amrywiaeth eang o gyrsiau ar gael a fydd yn gweddu i chi.
Cyrsiau Busnes Siartredig
Mae cyrsiau ar gael o lefel 2 neu 3 i lefel 6 ac maent yn caniatáu i ymgeiswyr feithrin sgiliau proffesiynol ym maes Marchnata, Adnoddau Dynol a Chaffael drwy:
- CIM (Chartered Institute of Marketing)
- CIPD (Chartered Institute of Personnel and Development)
- CIPS (Chartered Institute of Procurement & Supply)
- Arwain a Rheoli
- CMI (Chartered Management Institute)
